Gwlad ddwyieithog yw Cymru, gydag oddeutu un ymhob pump o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Darpara polisi’r Llywodraeth i’r ddwy iaith gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal, ac mae cynnydd yn y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae Beaufort Research yn falch o gynnig amrywiaeth o wasanaethau ymchwil dwyieithog i’w glieintiaid.

CYMDEITHAS DDWYIEITHOG

Mae oddeutu un rhan o bump o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg, er bod y gyfran mewn rhai ardaloedd yn llawer uwch na hynny. Mae canlyniadau Cyfrifiad 1991 yn cefnogi’r farn yr ymddengys bod safle’r Gymraeg bellach wedi sefydlogi, yn dilyn cyfnod o ddirywiad cyson ers troad y ganrif.

Dengys y blynyddoedd diweddar dwf yn y diddordeb i sicrhau dyfodol yr iaith. Dyma rai o’r arwyddion amlwg o’r diddordeb hwnnw:

 EIN GWASANAETHAU DWYIEITHOG

Lleolir Beaufort Research yng Nghaerdydd ac mae nifer o’n clientiaid hefyd un ai â’u canolfannau yma neu â diddordeb yng Nghymru. Mae Beaufort yn falch o’i wreiddiau Cymreig a thros y blynyddoedd rydym wedi datblygu arbenigedd sylweddol mewn darparu gwasanaethau dwyieithog.

Mae gennym, yn wahanol i gwmnïau ymchwil i’r farchnad eraill, staff gweithredol sy’n rhugl yn y Gymraeg. Pryd bynnag y bydd angen cymryd agwedd ddwyieithog, gallwn wneud hynny’n naturiol ac yn effeithlon – yn hytrach na fel ôl-ystyriaeth.

GWAITH MAES CYMRAEG

Mae nifer o’n harolygon yn ymwneud â chael gwybodaeth gan unigolion, sefydliadau a busnesau yng Nghymru. Mae tuedd gynyddol i’r clientiaid roi’r cyfle i’r ymatebydd ateb yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn ôl eu dewis. Er mai cyrff o fewn y sector cyhoeddus sy’n fwyaf tebygol o wneud hynny, mae sefydliadau yn y sector preifat sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd hefyd yn cydnabod gwerth dull dwyieithog o weithredu.

Gall oddeutu 100 o weithwyr maes Beaufort siarad Cymraeg. Maent hefyd wedi hen arfer gweinyddu holiaduron dwyieithog. Gall ein staff gweinyddol sy’n siarad Cymraeg ddarparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau briffio personol yn hollol ddwyieithog pryd bynnag y bo angen hynny.

Mae gan Beaufort brofiad eang o gynhyrchu holiaduron a dogfennaeth arolygol arall yn ddwyieithog. Amrywia ein dull o weithredu yn ôl natur a graddfa’r project:

GRWPIAU FFOCWS CYMRAEG

Er mwyn i grwpiau ffocws fod yn llwyddiannus, rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan allu mynegi eu hunain yn rhwydd – a rhaid iddynt hefyd allu deall arlliw o’r hyn a ddywed eraill yn gyfan gwbl. Yn ymarferol, golyga hyn, fwy neu lai, fod yn rhaid i’r drafodaeth fod naill ai’n gyfan gwbl yn Gymraeg neu’n gyfan gwbl yn Saesneg, gyda’r ymatebwyr yn gwybod ymlaen llaw pa iaith a ddefnyddir.

Gall Beaufort gynnig gwasanaeth ymchwil ansoddol Cymraeg llawn. Os bydd y client yn dymuno, gallwn recriwtio ymatebwyr trwy ddefnyddio holwyr dwyieithog, i gynnal y grwpiau yn gyfan gwbl yn Gymraeg ac yna gyflwyno’r canfyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig yn yr un modd.

Mae grwpiau ffocws Cymraeg yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddelio â chynnyrch neu wasanaethau sydd ag elfen ieithyddol bwysig. Mae astudiaethau sydd wedi eu cynllunio i gael ymateb cynulleidfaoedd i raglenni radio neu teledu Cymraeg yn enghreifftiau da. Golyga ymchwil o’r fath ddefnyddio darnau o raglenni fel deunydd ysgogi yn aml, er mwyn cael ymateb ac i hybu trafodaeth, ac felly mae’n hanfodol cynnal y sesiwn gyfan yn iaith y rhaglen.

Mae Beaufort wedi cynnal nifer o grwpiau ffocws Cymraeg i glientiaid mor amrywiol ag S4C, BBC Cymru, Hybu Iechyd Cymru, Dwr Cymru a Swalec. Rydym yn falch o’n henw da yn y maes hwn.

AROLYGON AD HOC

Ar adegau gofynna ein cleientiaid i ni ymgymryd a chyflwyno ymchwil yn Gymraeg. Fe’n comisiynwyd yn 2000 gan S4C i ymgymryd â rhaglen o gyfweliadau wyneb-yn-wyneb a grwpiau trafod ymysg y boblogaeth Cymraeg.  Cynhaliwyd nifer o’r cyfweliadau gyda siaradwyr Cymraeg ac roedd nifer o'r grwpiau ffocws yn Gymraeg. Roedd holl ddogfennaeth yr arolwg yn ddwyieithog, ac fe gynhaliwyd yr holl gyfarfodydd cyswllt rhwng Beaufort a’r client yn Gymraeg hefyd. Wedi cwblhau’r astudiaeth derbyniodd y client gyflwyniad llafar ac adroddiad ysgrifenedig manwl yn Gymraeg. Roedd y project yn galw am allu i drefnu cymysgedd o ddata ansoddol a meintiol, i glient deallus.

Enghreifftiau diweddar eraill o'n prosiectau Cymraeg neu ddwyieithog yw:

AROLWG OMNIBWS O SIARADWYR CYMRAEG

Galluoga arolygon omnibws i grwp o ddefnyddwyr rannu’r un dull arolwg, sy’n golygu y bydd y costau’n is. Bydd y tanysgrifwyr yn prynu ar sail sawl cwestiwn fydd i’w gofyn i’r sampl a’r math o gwestiynau. Golyga hyn, felly, fod pob tanysgrifiwr yn rhannu’r gost o gyfweld a gorbenion eraill gyda chyd-gleientiaid. Mae parhad hefyd o fudd. Gan y cynhelir yr arolygon hyn ar ysbeidiau penodol, gall y tanysgrifwyr ofyn yr un cwestiynau dro ar ôl tro, i fesur tueddiadau hir dymor.

Dechreuodd yr Arolwg Omnibws o Siaradwyr Cymraeg ym 1993. Cynhelir arolygon ddwywaith y flwyddyn – ym mis Mawrth ac ym mis Medi – a cheir sampl newydd bob tro:

Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb gan holwyr dwyieithog. Bydd cwestiwn hidlo cychwynnol (Cymraeg) yn sefydlu cymhwyster ar gyfer cyfweliad llawn. Wedi hynny, cynhelir y cyfweliad yn newis iaith yr ymatebydd, gan ddefnyddio holiadur dwyieithog. Ceir mwy o fanylion am yr Arolwg Omnibws o Siaradwyr Cymraeg mewn dogfen ar wahân.