Gwerthuso dylanwad Coal House a nodi gwersi i'w dysgu ar gyfer y cyfrwng aml-lwyfan yn y dyfodol


image image





Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient

Gofynnodd BBC Cymru i ni eu helpu i werthuso effaith eu cyfres ddogfen arloesol, Coal House. Mae’r gyfres yn dilyn tri theulu cyfoes wrth iddynt gamu nôl mewn amser i fyw am dair wythnos fel pe baent yn byw mewn cymuned lofaol yng nghymoedd De Cymru yn 1927.

Ar ôl darlledu’r ail gyfres, Coal House at War (a seliwyd yn 1944), cafodd ail don o ymchwil ei chomisiynu, er mwyn archwilio materion penodol yn ymwneud â’r gyfres ddilynol.

image
Ein dull

Gweithredom ddull ansoddol a meintiol i helpu i asesu amrywiaeth o agweddau. Canolbwyntiwyd ar yr ymwybyddiaeth a’r defnydd o gynnwys Coal House ar y teledu, radio a llwyfannau ar-lein, a deall natur taith y defnyddiwr ar draws lwyfannau gwahanol.

Cafodd data meintiol ei gasglu drwy ddefnyddio arolwg dros y ffôn o sampl gynrychioladol o’r boblogaeth yng Nghymru, a chasglwyd adborth manwl o agweddau tuag at Coal House drwy grwpiau ffocws ymhlith gwylwyr mewn tri safle ledled Cymru.

Y canlyniad

Roedd yr ymatebion i Coal House yn hynod gadarnhaol - roedd y gyfres yn amlwg at ddant y gwylwyr, a oedd yn awyddus i’w gweld yn dychwelyd. Yn fwy na hynny, mae’n ymddangos bod Coal House wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ganfyddiadau o BBC Cymru a’i rhaglenni. Dysgwyd sawl gwers o’r ymchwil ar gyfer prosiectau aml lwyfan yn y dyfodol. Yn olaf, roedd yr ymchwil yn dangos bod yr ymgyrch farchnata cyson wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gynhyrchu ymwybyddiaeth ac annog pobl i wylio’r rhaglen.

Darllenwch fwy am Coal House: http://www.bbc.co.uk/wales/coalhouse2/