Sicrhau bod gwerthoedd dymunol y brandiau yn cael eu dosbarthu a helpu i lywio marchnata llwyddiannus

image







Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient

Nododd Brains fod angen pedwar prif ganlyniad o’r ymchwil hon:
 Mesur ymwybyddiaeth o’i hymgyrchoedd marchnata a deall y neges a gyflëir
 Deall canfyddiad brand Brains
 Asesu ymddygiad presennol: y tueddiad i yfed cwrw Brains ac i fynd i dafarndai Brains
 Olrhain newidiadau dros amser ar bob mesur

image
Ein dull

Yn 2003, dyluniwyd arolwg meintiol wyneb yn wyneb oedd i’w gynnal ddwy waith y flwyddyn gyda 600 o breswylwyr ym mhrif ardal fasnachol Brains sef Gorllewin a De Cymru. Y bwriad oedd casglu gwybodaeth o sampl gynrychioladol o bobl 18-50 mlwydd oed sy’n mynd i dafarn/bar ddwy neu dair gwaith y mis neu fwy.

Yn 2005, diolch i’n galluoedd gweithlu maes addasadwy, llwyddom i ehangu’r arolwg i 1000 o ymatebwyr a chynnwys rhagor o ranbarthau. Roedd Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi dod yn ardaloedd masnachol cynyddol bwysig i Brains.  Hyd yn hyn, rydym wedi cwblhau cyfanswm o ddeuddeg o arolygon.

Y canlyniad

Ynghyd â chyflawni’r amcanion a restrwyd uchod, mae’r ymchwil wedi helpu Brains i ennill gwobr ‘Brand Revitalisation’ y Gymdeithas Farchnata’ a gwobr ‘Marketing Strategy of the Year’ y Gwobrau Busnes Cenedlaethol yn 2006, gan guro cystadleuaeth gan frandiau rhyngwladol mawr megis British Gas, Coca-Cola, Visit Scotland, a Penguin Books.