Busnes
Mae Beaufort wedi meithrin arbenigedd sylweddol wrth gyflawni heriau penodol wrth gynnal cyfweliadau, grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl o blith y gymuned fusnes. Yn ogystal â chynnal amrywiaeth o brosiectau ad hoc ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector preifat, mae Beaufort wedi datblygu ei arolwg omnibws busnes ei hun, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Y mathau o wasanaethau a ddarperir yn rheolaidd gan Beaufort yw:
- Astudiaethau sgiliau – archwilio lefelau sgiliau, bylchau mewn sgiliau a’r galw am hyfforddiant ymhlith gweithluoedd amrywiol.
- Boddhad â gwasanaethau – archwilio boddhad â gwasanaethau cymorth busnes.
- Menter a gwerthuso polisïau – asesu’r effaith a’r prosesau sydd ynghlwm wrth amrywiaeth o ymyriadau busnes y llywodraeth.
- Hwyluso strategaeth – hwyluso gweithdai a thrafodaethau grŵp i lywio’r gwaith o ddatblygu sectorau busnes allweddol yn strategol.
- Cyfraddau parhad busnesau – ymchwil hydredol sy’n archwilio cyfraddau parhad busnesau a gofynion ar gyfer busnesau newydd o ran cymorth a hyfforddiant.
- Arolygon rhanddeiliaid – rhoi adborth i sefydliadau’r sector preifat a’r sector cyhoeddus ar ganfyddiadau eu rhanddeiliaid allweddol ohonynt
- Arolwg omnibws busnes – arolwg ddwywaith y flwyddyn sy’n archwilio barn, agweddau ac ymddygiad 500 o BBaChau ar amrywiaeth o faterion - am ragor o fanylion cliciwch yma.
Ymhlith y cleientiaid yn y maes hwn mae:
Y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog
Llywodraeth Cynulliad Cymru (adrannau amrywiol)
Brains SA
Dŵr Cymru
Western Mail & Echo
Prifysgol Bangor
Prifysgol Morgannwg
Gweld rhestr lawn o gleientiaid Beaufort yma
