Ehangu cynulleidfa ymweld ar gyfer safleoedd treftadaeth

image



Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymwybodol bod rhai grwpiau o fewn y boblogaeth yng Nghymru yn llai tebygol nag eraill o ymddiddori mewn treftadaeth Cymru ac o ymweld ag atyniadau hanesyddol Cadw.

Felly, comisiynodd Cadw Beaufort i gynnal ymchwil defnyddwyr er mwyn archwilio’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag ymweld â safleoedd treftadaeth - a deall y camau y mae’n rhaid i Cadw eu cymryd er mwyn annog rhagor o ymweliadau gan y rhannau hyn o’r boblogaeth.

image
Ein dull

Ynghyd â chynnal 10 grŵp ffocws ledled Cymru, wnaethom hefyd gynnwys ymweliadau â rhai safleoedd er mwyn gwerthfawrogi beth yw profiad yr ymwelydd.  Am bob ymweliad, cynhaliwyd cyfweliadau manwl unigol â phob teulu ar ddechrau a diwedd yr ymweliadau.

Mantais y dull hwn oedd ei fod yn caniatáu i ni nodi rhagdybiaethau negyddol ymhlith y sawl nad ydynt erioed wedi ymweld â safle hanesyddol; a’r gallu i archwilio sut oedd y profiad go iawn yn cymharu â’r disgwyliadau.

Fe wnaethom gynnwys oddi fewn i grwpiau tangynrychioladol o poblogaeth Cymru:

 Y rhai o raddfeydd economaidd gymdeithasol C2DE
 Pobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig
 Y rhai dros 60 oed

Y canlyniad

Roedd ein hargymhellion y gellid gweithredu arnynt yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch, prisio, dehongliad a marchnata a strategaethau cyfathrebu ar gyfer y dyfodol. Mae’r canlyniadau yn arwain y cleient o ran ehangu apêl safleoedd treftadaeth, gyda phwyslais ar syniadau er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd anos i’w cyrraedd a’u cael i ymddiddori yn nhreftadaeth Cymru.

Beth ddywedodd y cleient
Mae Beaufort wedi taflu goleuni newydd a gwerthfawr dros y rhwystrau sy’n atal rhai grwpiau rhag ymgysylltu’n llawnach â threftadaeth Cymru, ynghyd â thynnu sylw at gamau ymarferol y gallwn eu cymryd er mwyn annog cynulleidfaoedd newydd i fwynhau ein hamgylchedd hanesyddol. Ac roedd yn bleser gweithio gyda Beaufort fel arfer.