Adnabod ffyrdd i wella ymgysylltiad rhanddeiliaid
Pam fod angen yr ymchwil ar y cleient
Mae rhoi cyfle i randdeiliaid roi adborth ar eu cydberthynas gweithiol â Llywodraeth y Cynulliad yn ffordd bwysig o nodi ffyrdd o wella ymgysylltiad rhanddeiliaid; ac un ffordd y gellir sicrhau hyn yw drwy gynnal arolygon rhanddeiliaid cyson.
Ar ôl rhyddhau canlyniadau’r arolygon hyn, cafodd Beaufort y gorchwyl o archwilio rhai themâu allweddol mewn manylder: canolbwyntio ar ddinasyddion; ‘gweithio cydgysylltiedig; ac ymarferion ymgynghori
Ein dull
Mae’r prosesau sydd ynghlwm wrth drefnu astudiaethau o’r natur hon yn gymhleth. Roedd ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector, busnesau preifat, sefydliadau academaidd, ac adrannau llywodraeth rhyngwladol.
Gwnaethom ddyfeisio dull dau gam, i weithredu mewn modd aml-ddull. Yn ystod y cam cyntaf (meintiol), roedd angen bod yn hyblyg wrth weinyddu’r arolwg: gallai rhanddeiliaid gymryd rhan dros y ffôn (CATI) neu ar-lein (CAWI) yn eu dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg).
Er mwyn bodloni’r amcanion hyn yn llawn, roedd angen ail gam, ansoddol, ar yr ymchwil a oedd yn archwilio themâu allweddol sy’n codi o’r arolwg; roedd y rhan hon yn cynnwys 10 sesiwn gweithdy anffurfiol ledled Cymru, gyda rhanddeiliaid.
Ynghyd ag archwilio safbwyntiau rhanddeiliaid buom hefyd yn ymgynghori â chyflogeion Llywodraeth y Cynulliad, a chynhaliwyd 12 grŵp ffocws bach a chynhaliwyd mewn sawl lleoliad.
Y canlyniad
Rhoesom sail tystiolaeth werthfawr i’r cleient i’w helpu i wella’r ffordd mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac yn eu cynnwys. Drwy ganiatáu cymariaethau â meincnod 2006 ar fesurau allweddol, gwnaethom helpu i nodi ble y gwnaed gwelliannau dros gyfnod o amser, ac i’r gwrthwyneb, ble mae problemau yn parhau.
Mae’r cam ansoddol manwl wedi helpu i roi cyd-destun a dealltwriaeth i’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr arolwg ac wedi darparu mewnwelediad ymarferol i Lywodraeth y Cynulliad ar flaenoriaethu materion sydd angen sylw.

