Dull ystyriol ar gyfer cyfeiriad strategol

image








Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient

Roedd angen i Ddŵr Cymru sicrhau bod y Datganiad Cyfeiriad Strategol (SDS) yr oedd yn ei ddatblygu i grynhoi ei gyfeiriad ar gyfer y 25 mlynedd nesaf yn adlewyrchu blaenoriaethau tymor hir ei gwsmeriaid. Cafodd Beaufort eu comisiynu i helpu Dŵr Cymru gyda’r dasg hon.

image
Ein dull

Datblygom gynllun ymchwil ystyriol er mwyn cyflawni’r amcan hwn yn y ffordd fwyaf effeithiol, sy’n cynnwys tri phrif gam:

 Cam I - crëwyd grwpiau gyda thrawstoriad o bobl sy’n talu biliau dŵr i archwilio safbwyntiau cyffredinol ar ddŵr a pha faterion sy’n bwysig iddynt hwy fel cwsmeriaid.

 Cam II - ar ddiwedd y drafodaeth gyntaf, dangoswyd ffilm DVD fer ar Ddŵr Cymru i’r cyfranogwyr i roi’r wybodaeth gefndirol angenrheidiol iddynt i’w galluogi i gyfranogi’n llawn yng Ngham III.

Cawsant hefyd drosolwg o’r ddogfen SDS i’w ddarllen, ac ystyried pwysigrwydd pob nod ac elfen a restrwyd, cyn cwblhau holiadur byr.

 Cam III - Daeth y broses ystyriol i ben gyda sesiynau eraill ar gyfer trafodaethau pellach o’r ffurflenni sydd wedi’u cwblhau, ac roeddem yn chwilio am gonsensws o ran pa ddimensiynau oedd bwysicaf ar gyfer pob nod.

Siaradom â chwsmeriaid Dŵr Cymru mewn pedwar lleoliad yng Nghymru a’r Gororau, ac o gefndiroedd demograffig gwahanol. Cafodd cyfanswm o 16 o drafodaethau eu cynnal.

Y canlyniad

Roedd yr astudiaeth yn dangos bod y cwsmeriaid yn ystyried bod yr holl nodau a dimensiynau sy’n wynebu cwsmeriaid a geir yn nogfen ddrafft SDS Dŵr Cymru yn bwysig, sy’n golygu bod eu graddio hwy yn nhrefn blaenoriaeth yn anodd i gwsmeriaid. Fodd bynnag, roedd ein methodoleg yn ein galluogi i lunio trefn blaenoriaeth fras gyffredinol a helpodd Dŵr Cymru i ganolbwyntio ar beth sydd bwysicaf i gwsmeriaid.

Dylanwadodd ein hymchwil ar ba iaith y dylai Dŵr Cymru ei defnyddio yn y ddogfen SDS terfynol, ac yn fwy cyffredinol, rhoddodd arsylwad gwerthfawr ar ymagwedd cwsmeriaid at berfformiad Dŵr Cymru. 

Beth ddywedodd y cleient

“Mae gwaith Beaufort wedi rhoi dealltwriaeth go iawn i ni o safbwynt y cwsmer drwy amlygu pa faterion sy’n bwysig i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Rhoddodd yr ymchwil ganfyddiadau clir a gweithredadwy i’n helpu i gynhyrchu dogfen sy’n berthnasol ac yn ddealladwy” (Peter Jones, Pennaeth Rheoliad Economaidd, Dŵr Cymru)