Annog mwy o gwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein


image






Pam bod angen y gwaith ymchwil ar y cleient
Mae gwasanaeth Trwyddedu Cerbydau yn Electronig (EVL) yn caniatáu i fodurwyr preifat adnewyddu eu treth cerbyd, neu ddatgan Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (HOS), drwy’r rhyngrwyd neu drwy wasanaeth electronig dros y ffôn.  Trefnodd y DVLA ymgyrch er mwyn annog y defnydd o’r gwasanaeth EVL, drwy anfon cerdyn post at aelodau, ac fe wnaethant gomisiynu ymchwil i ganfod unrhyw rwystrau i gwsmeriaid tra’n defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.


imageEin dull
Cynhaliwyd cyfanswm o 2,000 o gyfweliadau dros y ffôn gyda sampl gynrychioladol o fodurwyr preifat, nad oeddent wedi defnyddio gwasanaethau Trwyddedu Cerbydau yn Electronig.

Y canlyniad
Cawsom gasgliadau diddorol yn ein canfyddiadau, yn enwedig bod cwsmeriaid yn ymwybodol o’r gwasanaeth. Mae’r rhwystrau yn ymwneud â diffyg hyder, neu ddiffyg gwybodaeth o’r dechnoleg, a ffyddlondeb i Swyddfa’r Post lleol.

Er mwyn datblygu’r canfyddiadau ymhellach, gwnaethom ddadansoddiad o agweddau a dadansoddiad clwstwr er mwyn rhoi segmentiad eglur i’r DVLA o’r cwsmeriaid nad ydynt yn defnyddio gwasanaeth EVL. Daethom o hyd i chwech segment, yn amrywio o Ddefnyddwyr Posib y Rhyngrwyd, i’r Rheiny sy’n driw i Swyddfa’r Post. O ganlyniad, roedd modd i ni roi adborth i’r DVLA am faint pob segment, a nodi pa neges oedd angen ei hyrwyddo, er mwyn annog mwy o gwsmeriaid i ddewis Trwyddedu Cerbydau yn Electronig (EVL). 


Yr hyn a ddywedodd y cleient
Daeth i’r amlwg bod rhai cwsmeriaid yn oedi cyn newid i EVL am resymau anarferol, am nad oedd cyfran helaeth o’r grwpiau targed allweddol yn dewis defnyddio’r gwasanaeth. Nododd y dadansoddiad ffactor a’r dadansoddiad clwstwr a wnaed gan Beaufort Research i ni fod gan gwsmeriaid berthynas emosiynol â Swyddfa’r Post, ac nid oeddem ni wedi rhagweld hyn. Roeddem eisoes wedi eithrio cwsmeriaid ffyddlon Swyddfa’r Post o’r dull marchnata, ond mae’r grŵp hwn yn cefnogi Swyddfa’r Post yn athronyddol, yn hytrach na defnyddio’r gwasanaeth yn gyson. (Derek Hobbs, Deall Cwsmeriaid a Marchnata, Asiantaeth Trwyddedu Gyrrwyr a Cherbydau)