Canfod sut mae defnyddwyr Cymru yn rheoli eu cyllid ac yn ymdopi â dyled
Pam bod angen y gwaith ymchwil ar y cleient
Roedd Llais Defnyddwyr Cymru am gasglu gwybodaeth am agweddau cyfnewidiol tuag at faterion sy’n ymwneud â chyllid, fel cyllidebu, benthyca a dyled ymhlith poblogaeth Cymru, gyda phwyslais penodol ar bobl hŷn. Lluniwyd y gwaith ymchwil hwn i bennu lefelau defnyddwyr o ddyled, eu gallu i dalu taliadau, beth sy’n sbarduno dyled a’r effaith y gall problemau cyllido ei chael ar safon bywyd ac allgáu cymdeithasol.
Ein dull
Gwnaethom ddefnyddio methodoleg meintiol ac ansoddol mewn dau gam.
Roedd cam cyntaf y gwaith ymchwil yn cynnwys arolwg yng nghartrefi pobl gyda sampl gynrychioladol o drigolion Cymru. Gwnaethom gynnwys elfen hunanlenwi yn y cyfweliad wrth drafod materion sensitif fel dyled, gwnaethom ddefnyddio cyfwelwyr sydd wedi cael gwiriad CRB gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ac sy’n cario cerdyn adnabod â llun arno, a hysbysu’r heddlu lleol am y prosiect.
Roedd yr ail gam, sef cam ansoddol y prosiect, ar ffurf cyfweliadau manwl dros y ffôn a gynhaliwyd gyda chyfranogwyr yn yr arolwg yn eu cartrefi, a oedd wedi cytuno i ni gysylltu â hwy eto. Roedd y cam hwn yn canolbwyntio ar bobl dros 50 oed, gan edrych yn benodol ar bobl sy’n byw mewn dyled, sy’n ei chael yn anodd yn ariannol, ac sy’n benthyg arian gan fenthycwyr carreg drws.
Y canlyniad
Gwnaethom roi data gwerthfawr i Llais Defnyddwyr Cymru am gyllid defnyddwyr yng Nghymru i alluogi’r sefydliad i ffurfio a datblygu strategaethau ymyrryd effeithiol, wedi’u dylunio i helpu pobl i osgoi trafferthion ariannol drwy nodi ‘sbardunau’ sy’n arwain pobl i ddyled.
Yr hyn a ddywedodd y cleient
“Roedd dyluniad y prosiect yn dda iawn a chafodd ei weithredu’n effeithiol. Rwy’n credu bod hynny wedi helpu’n sylweddol wrth sicrhau ansawdd y canlyniadau, a oedd yn rhagorol.”

