Adnabod cyfleoedd partneriaethau y dyfodol i atal tân


image







Pam bod angen y gwaith ymchwil ar y cleient
Mae Atal Tân Cymru yn nodi bod llawer o dystiolaeth ar gael i ddangos pa grwpiau o bobl sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddioddef tân damweiniol yn y cartref, gan arwain at anaf neu farwolaeth. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys pobl sy’n ‘anodd eu cyrraedd’, fel y rhai sy’n agored i niwed, rhai sydd ar yr ymyl, a/neu’n gwrthod mabwysiadu ymddygiad mwy diogel. Mewn astudiaeth o Adroddiadau Ymchwiliadau i Danau yn y DU, nodwyd bod alcohol, symudedd a salwch meddwl yn ddylanwadau pwysig ar p’un a fydd tân yn dechrau a/neu p’un a fydd yn arwain at ganlyniadau angheuol. Roedd angen cynnal gwaith ymchwil ansoddol er mwyn ymchwilio i ffyrdd newydd o gyrraedd y sawl sydd mewn perygl gan ganolbwyntio ar bobl â salwch meddwl, a phobl sy’n camdrin alcohol a chyffuriau.

imageEin dull
O ystyried natur sensitif y gwaith ymchwil, gwnaethom weithio’n agos gyda sefydliadau cymorth. Gwnaethom gasglu barn y rhai sy’n rhoi cymorth yn ogystal â’u cleientiaid drwy gyfweliadau manwl, mewn deuawdau a thriawdau. Wrth gynnal y cyfweliadau roedd rhaid bod yn bwyllog a meddu ar sgiliau cryf i feithrin perthynas – ar ôl i ni orffen, fe wnaeth sawl un o’r cyfranogwyr ddweud eu bod wedi croesawu’r cyfle i drafod materion yn gyfrinachol. 


Y canlyniad
Roedd y canfyddiadau yn taflu goleuni ar yr ymddygiad sy’n gwneud y grwpiau hyn o bobl yn agored i danau. Maent hefyd yn hanfodol wrth helpu Atal Tân Cymru i greu partneriaethau newydd gyda’r rhai sy’n gweithio gyda’r grwpiau hyn.  Yn ogystal, mae argymhellion yr ymchwil yn llywio gwaith Atal Tân Cymru i ddatblygu ymyriadau effeithiol ar gyfer y grwpiau hyn sydd mewn perygl.


Yr hyn a ddywedodd y cleient
Fe wnaeth Beaufort Research ddelio â phob elfen o’r prosiect yn dda iawn. Yn benodol, roeddem wedi siomi ar yr ochr orau o ran dealltwriaeth y tîm. Fe wnaethant dderbyn briff yn gyflym ac yn gywir, a chwblhau’r gwaith i’r safon gorau posibl.” (Richard Hall, Cydlynydd Polisi ac Ymchwil)