Defnyddio ymchwil i gefnogi'r gwaith o reoli newid
Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient
Ers 2007 rydym wedi bod yn gyfrifol am arolwg boddhad cwsmer o ddefnyddwyr gwasanaethau cymorth busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru (Adran yr Economi a Thrafnidiaeth). Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu drwy ganolfannau lleol sy’n cael eu cefnogi gan ganolfan cyswllt cyntaf sy’n delio â galwadau ffôn, gwefannau ac ymholiadau e-bost.
Ein dull
Mabwysiadwyd dull gennym a oedd yn cynnwys cynnal cyfweliadau parhaus misol â defnyddwyr y gwasanaeth. Llwyddom i gasglu sampl cadarn o 700 o gyfweliadau ym mhob chwarter, gan ein galluogi i rannu’r data i is-grwpiau llai o fewn y sampl (er enghraifft, dull cysylltu a rhanbarth).
Gyda’n galluoedd aml-ddull, cysylltwyd â’n hymatebwyr drwy CATI (ffôn) a thrwy gyfweliadau CAWI (Computer Aided Web Interviewing).
Y canlyniad
Cyflwynwyd adroddiadau ar ein canfyddiadau a’n hargymhellion bob chwarter, gan olrhain agweddau, proffiliau a boddhad dros gyfnod o amser. Mae’r canlyniadau wedi chwarae rôl bwysig, drwy hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau yn ystod cyfnod allweddol o newid a welodd gwasanaethau yn trawsnewid o strwythurau cyflwyno ‘Llygad Busnes’ i ‘Cymorth Hyblyg i Fusnes’.

