Beth yw barn ein marchnad darged arnom? Deall y canfyddiadau allanol o Gyllid Cymru
Pam bod angen y gwaith ymchwil ar y cleient
Mae Cyllid Cymru yn gwneud buddsoddiadau masnachol mewn busnesau yng Nghymru sydd â’r potensial o dyfu. Cafodd Beaufort Research ei benodi gan Gyllid Cymru i helpu’r cwmni i ddeall a meincnodi canfyddiadau ei farchnad darged o’i frand, er mwyn i’r cleient wella effeithiolrwydd ei ddulliau cyfathrebu gyda chynulleidfaoedd amrywiol.
Ein dull
Gwnaethom gynnal arolwg meintiol gyda’r opsiwn o gael cam ansoddol dilynol, wedi’i dargedu, er mwyn ymchwilio i ganfyddiadau penodol yn fanylach.
Roedd y rhaglen ymchwil meintiol yn cynnwys arolygon dros y ffôn ac arolygon ar-lein, a gynhaliwyd gyda phenderfynwyr ar lefel uwch mewn saith grŵp targed ar wahân. Roedd y cam ansoddol dilynol yn cynnwys cyfres o gyfweliadau dros y ffôn gyda chynulleidfaoedd allweddol.
Y canlyniad
At ei gilydd, roedd canlyniadau’r arolwg yn bositif iawn, ac roeddent yn nodi bod marchnata Cyllid Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gyfleu negeseuon allweddol am ei frand a’i ffordd o dargedu’r farchnad darged. Cafwyd cysylltiadau positif a chryf iawn â’r brand o ran ei ymrwymiadau i gleientiaid, gonestrwydd, cadernid, arbenigedd a’i safbwynt hirdymor.
Roedd yr elfen ansoddol yn helpu i nodi camau ymarferol y gallai Cyllid Cymru fynd i’r afael â nhw.
Yr hyn a ddywedodd y cleient
“Roedd Beaufort wedi rheoli’r prosiect hwn yn effeithiol a llwyddwyd i sicrhau lefelau uchel o ymgysylltiad â’n grwpiau targed. Mae Cyllid Cymru wedi defnyddio canlyniadau’r ymchwil i lywio’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth a’i sefyllfa yn y dyfodol.”

