Beth sy’n sbarduno pobl i brynu cig oen
Pam bod angen y gwaith ymchwil ar y cleient
Roedd Hybu Cig Cymru yn y broses o ddatblygu ei strategaeth marchnata a chyfathrebu ar gyfer hybu cig oen Cymru. Cawsom ein comisiynu gan Hybu Cig Cymru i lywio’r strategaeth hon drwy ddeall pobl sy’n prynu ac yn bwyta cig oen. Yn benodol, gofynnwyd i ni nodi a graddio’r pethau sy’n sbarduno galw.
Ein dull
Gwnaethom helpu Hybu Cig Cymru i ddatblygu’r briff drwy gynnwys amcanion ychwanegol ac ymagwedd arloesol. Roedd yr elfen ansoddol yn cynnwys cyfweliadau estynedig mewn tair rhan, a oedd yn cynnwys ymweliadau â’r cartrefi a’r siopau. Cafodd yr elfen feintiol hon ei datblygu drwy ddadansoddi amryw o elfennau.
Y canlyniad
Roedd y dulliau ymchwil hyn yn rhoi cyfeiriad clir i Hybu Cig Cymru o ran ei strategaeth marchnata a chyfathrebu, wedi’i thanategu gan y ddealltwriaeth ddyfnach o’r sbardunau, a gyflenwyd drwy’r dadansoddiad yr amryw o elfennau. Roedd yr elfen ansoddol yn rhoi cipolwg gwerthfawr i fywydau’r defnyddwyr, eu harferion siopa a’r gwerthoedd y bydd y sbardunau’n ffurfio o’u hamgylch. Fe wnaethom hefyd ddarparu cyd-destun diwylliannol pellach, drwy helpu i archwilio’r iaith a’r delweddau sy’n gysylltiedig â’r categori.

