Hamdden a Thwristiaeth

Mae twf sylweddol gweithgareddau hamdden yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi mynd law yn llaw ag angen cynyddol am wybodaeth wrthrychol sy’n seiliedig ar ymchwil. Mae angen data o’r fath ar sefydliadau’r sector preifat a’r sector cyhoeddus i helpu i nodi anghenion defnyddwyr, gwerthuso polisïau cyfredol a datblygu rhai newydd. Mae Beaufort Research wedi cynnal gwaith ymchwil o safon uchel ym maes hamdden yn gyson dros y blynyddoedd, gan arbenigo yn y gwasanaethau canlynol:

Arolygon ymwelwyr – proffilio ymwelwyr i amrywiaeth o weithgareddau hamdden a cheisio barn ar yr ymweliad i fesur llwyddiant a llywio datblygu yn y dyfodol

Arolygon cyfranogi – mesur lefelau presenoldeb a chyfranogiad y cyhoedd mewn gweithgareddau hamdden amrywiol er mwyn mesur effaith y polisi cyfredol a chynorthwyo gwaith i dargedu ymyriadau pellach

Gwerthuso prosesau marchnata – asesu’r ymwybyddiaeth o waith marchnata amrywiol a dargedir at hyrwyddo gweithgareddau hamdden a gwasanaethau a’u heffaith, gan gynnwys cyfrifiadau Adenillion o Fuddsoddiadau

Monitro deiliadaeth / ymwelwyr – cael gwybod nifer yr ymwelwyr i atyniadau a lletai drwy holiaduron ar-lein a thrwy’r post i ddarparwyr gwasanaeth i gynorthwyo â’r gwaith o gynllunio adnoddau

Ymhlith y cleientiaid yn y maes hwn mae:

Croeso Cymru
Cyngor Chwaraeon Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Cadw
Castle Leisure
Y Scarlets
Capital Region Tourism
Partneriaeth Dwristiaeth De-orllewin Cymru
Dinas a Sir Abertawe
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Dinas Caerdydd
Cyngor Dinas Casnewydd

Gweld rhestr lawn o gleientiaid Beaufort yma