Deall y rhesymau dros ollwng sbwriel, a gollyngwyr sbwriel yng Nghymru

image






Pam bod angen y gwaith ymchwil ar y cleient
Gofynnodd Cadwch Gymru’n Daclus i ni gynnal y gwaith hwn er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o’r bobl sy’n gollwng sbwriel, y rhesymau eu bod yn gollwng sbwriel, a beth yw’r diffiniad o amgylchedd glân, yn eu barn hwy. Roedd y gwaith ymchwil yn adeiladu ar waith ymchwil a gynhaliwyd yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig gan ganolbwyntio ar safbwynt pobl Cymru - yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.


image Ein dull
Fe wnaethom ni fabwysiadu dull amlran er mwyn cyrraedd y nod yn y ffordd orau.

I ddechrau, gwnaed arolwg wyneb yn wyneb ar y stryd gyda sampl gynrychioladol o boblogaeth Cymru er mwyn rhoi’r rhesymau dros ollwng sbwriel yn eu cyd-destun, yn rhanbarthol ac yn gymdeithasol.

Roedd ail gam yr ymchwil hefyd yn cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb, y tro hwn, gyda’r rhai a oedd wedi gollwng sbwriel yn ystod y deuddeg mis diwethaf, oedd yn gynrychioladol o’r gollyngwyr sbwriel yng Nghymru. Roedd y cam hwn yn ymchwilio’n ddwfn i ymddygiad ac agwedd gollyngwyr sbwriel.

Roedd y trydydd cam yn ymhelaethiad o’r ail gam.  Unwaith eto, roedd yn canolbwyntio ar ollyngwyr sbwriel gyda grwpiau ffocws mewn lleoliadau allweddol led led Cymru yn ymchwilio’n fanwl i’r rhesymeg dros ollwng sbwriel, agweddau pobl tuag at yr amgylchedd, a’u hymateb i ddeunydd hysbysebu. Roedd y gwaith arsylwi yn ychwanegu dimensiwn pellach at y canfyddiadau ansoddol.



Y canlyniad
Gwnaethom archwilio i ba raddau mae poblogaeth Cymru yn gollwng sbwriel ynghyd â’r gwahaniaethau rhanbarthol a chymdeithasol o ran ymddygiad ac agwedd pobl sy’n gollwng sbwriel.  Cafodd segmentiad o agweddau ei greu gan grwpio’r boblogaeth sy’n gollwng sbwriel, a oedd yn cefnogi ein hargymhellion ar gyfer ymgyrchoedd Cadwch Gymru’n Daclus yn y dyfodol.

Yr hyn a ddywedodd y cleient
“Rydym yn falch iawn o’r ffordd broffesiynol roedd tîm Beaufort wedi ymgymryd â’r prosiect ar ein rhan. Roeddent yn llawn brwdfrydedd wrth sicrhau eu bod yn casglu’r holl wybodaeth yr oedd ei hangen arnom. Roeddent yn cyfarthrebu â ni’n aml iawn, a chawsom y cyfle i addasu’r cwestiynau a’r adnoddau eraill a ddefnyddiwyd, pe bai angen.  Buaswn i bendant yn argymell Beaufort i sefydliadau eraill”. (Lesley Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Cadwch Gymru’n Daclus).