Deall defnydd o'r iaith Gymraeg ym mywyd pob dydd
Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient
Dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, BBC Cymru, S4C a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, cafodd Beaufort y gorchwyl o roi gwybod i gleientiaid i ba raddau y mae siaradwyr Cymraeg yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg (yn enwedig felly, pobl rhwng 22 a 45 oed); a nodi strategaethau i gynyddu cyfranogiad mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg.
Ein dull:
Cyflawnwyd tair elfen allweddol ar gyfer yr astudiaeth eang hon. Yn gyntaf, cyflawnwyd ymchwil feintiol gydag 861 o siaradwyr Cymraeg 16 oed a throsodd ledled Cymru, yn proffilio lefelau cyfredol o gyfranogiad mewn ystod o weithgareddau cyfrwng Cymraeg (a gweithgareddau cyfatebol drwy gyfrwng y Saesneg), ynghyd â’u hagweddau tuag at y Gymraeg.
Yna cwblhaom ein dadansoddiad clwstwr aml-amrywedd, gan ystyried data sy’n cofnodi agwedd, ymddygiad a demograffeg. Ar gyfer yr elfen derfynol, canolbwyntiwyd yn llwyr ar y sawl rhwng 22 a 45 oed a chynhaliwyd 21 o gyfweliadau manwl, a oedd yn llifo’n rhwydd, (mewn parau yn bennaf, ond weithiau gydag unigolion) ledled Cymru. Galluogodd y cyfweliadau hyn ni i archwilio’n fanwl y rheswm pam bod siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg (neu beidio) mewn gwahanol gyd-destunau; ac i ddeall beth allai ddylanwadu arnynt i newid eu hymddygiad yn y dyfodol.
Y canlyniad
Yn ystod y cyfnod dadansoddi, datblygwyd chwe grŵp clwstwr gennym, pob un â’i nodweddion arbennig ei hun, a lefelau gwahanol o ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod eu bywydau bob dydd: Cofleidwyr, Prif-ffrydwyr, Cyfoethogwyr, Chwenychwyr, Difaterwyr ac Ymdrechwyr.
Dangosodd ein gwaith gymhlethdod a natur gydberthnasol y ffactorau sy’n dylanwadu ar y graddau y mae siaradwyr Cymraeg yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelsom hefyd fod amrywiaeth rhwng arwyddocâd gwahanol ffactorau, er bod rhai wedi aros yr un mor bwysig ym mhob adran.
Deilliodd pum prif thema o’r astudiaeth, a seiliwyd ein hargymhellion i gynyddu cyfranogiad yn unol â’r themâu hynny: marchnata, dewis a pherthnasedd, dosbarthiad, addysg, gwybodaeth a chyfle.
Beth ddywedodd y cleient
“Rhoddodd gwaith Beaufort fewnwelediad gwirioneddol i faes astudiaeth neilltuol o gymhleth” (Carys Evans, Pennaeth Ymchwil, S4C)

