Cyfryngau

Yn y farchnad gyfryngol hon sy’n fythol newid, mae Beaufort wedi darparu atebion ymchwil cadarn a dealltwriaeth werthfawr i gleientiaid ar draws ystod o lwyfannau cyfryngol gan gynnwys teledu, radio, y wasg, cylchgronau ac ar-lein. Ymysg y mathau o wasanaethau y mae gan Beaufort brofiad penodol ynddynt mae:

Ymchwil i’r gynulleidfa – proffilio gwylwyr, darllenwyr a gwrandawyr ac archwilio eu barn a’u hagweddau at raglenni, cyflwynwyr a chynnwys golygyddol.

Arolygon o ddarllenwyr – canfod lefelau darllen, proffiliau darllenwyr ac ymddygiad darllenwyr i lywio cyfeiriad strategol a datblygu gwerthiannau.

Ymwybyddiaeth o hysbysebu – asesu ymwybyddiaeth ac effaith hysbysebu a marchnata rhaglenni penodol.

Arolygon barn - mesur barn y cyhoedd ar ystod o faterion i helpu i ddarparu rhaglenni, newyddion a chynnwys golygyddol.

Cynhyrchion newydd a datblygu cynhyrchion - asesu’r ymateb i gysyniadau neu brofi lansiadau o gyhoeddiadau a rhaglenni i geisio barn ar y dyluniad a’r cynnwys a chynorthwyo â gwaith marchnata pellach.

Ymhlith y cleientiaid yn y maes hwn mae:

BBC
S4C
Digital UK
Media Wales (Western Mail & Echo)
Tinopolis
Eaglemoss Publications
Ofcom

Gweld rhestr lawn o gleientiaid Beaufort yma