Adfywio trefol yng Nghasnewydd: archwilio i ganfyddiadau trigolion a BBaCh o'r ddinas

image









Pam bod angen y gwaith ymchwil ar y cleient
Roedd y Gwerthusiad Interim o waith Newport Unlimited hyd yn hyn yn pwyntio i ‘berfformiad cryf yn ystod y pum mlynedd cyntaf’. Roedd y Gwerthusiad hefyd yn amlygu nad oedd busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn deall amcanion y gwaith adfywio’n llawn o bosibl, a bod diffyg ‘llais neu sianel’ ganddynt o ran mynegi barn. Fel rhan o’r strategaeth i fynd i’r afael â’r casgliad hwn, comisiynodd Newport Unlimited Beaufort i archwilio barn y ddwy gynulleidfa hon.


image Ein dull
Gwnaethom ddefnyddio dull ansoddol a oedd yn cynnwys cymysgedd o grwpiau ffocws a chyfweliadau unigol, wyneb yn wyneb. Roedd y dull hwn yn ein galluogi i archwilio’r canfyddiadau’n fanwl, a deall pam bod trigolion a busnesau yn meddu ar y farn hon.

Fel ffordd o ychwanegu gwerth, fe wnaethom greu fideo o’r grwpiau ffocws a bu’r ymchwilwyr yn treulio amser yn dod i adnabod y ddinas a’r lleoliadau a drafodwyd yn ystod y gwaith ymchwil.

Y canlyniad
Roedd y canlyniadau wedi rhoi adborth defnyddiol ac amserol iawn o’r cleient am ganfyddiadau o’r ddinas, yn gadarnhaol ac yn negyddol, yn ogystal â syniadau ar gyfer ymgysylltu â chynulleidfaoedd targed. Cafodd y canlyniadau hyn eu gwella gyda chlipiau fideo cofiadwy o’r cyfranogwyr yn trafod y themâu allweddol.

Roedd y canfyddiadau’n amlygu set o argymhellion ymarferol y mae Newport Unlimited yn eu defnyddio i lywio’i strategaeth gyfathrebu, ac a fydd yn bwydo i cynlluniau adfywio yn y dyfodol.