Profi effeithiolrwydd cyfathrebu wrth gyfleu negeseuon am gynnyrch allweddol

image








Pam bod angen y gwaith ymchwil ar y cleient
Roedd y Principality yn bwriadu cyflwyno cynnyrch cynilo newydd i’w portffolio. Roedd gwaith ymchwil blaenorol gan Beaufort wedi nodi nodweddion cyfrif allweddol roedd cwsmeriaid yn rhoi gwerth arnynt.

Defnyddiodd y Principality y wybodaeth hon a chreu cynnyrch cynilo cyfradd amrywiol newydd. Lluniwyd cyfres o syniadau, a chrëwyd prosiect ymchwil i brofi effeithiolrwydd hysbysebion wrth ddenu ymholiadau am y cyfrif mewn canghennau, yn ogystal â phrofi apêl nodweddion y cyfrif o ran denu arian newydd i’r Gymdeithas.

image

Ein dull
Cynhaliwyd cyfres o brofion mewn pedwar lleoliad ledled Cymru. Cafodd ymatebwyr eu recriwtio ar y stryd - roedd eu proffil demograffig yn cyfateb â’r gynulleidfa darged allweddol ar gyfer y cyfrif.

Cafodd yr ymatebwyr eu hebrwng i’r neuadd lle cafodd ddulliau’r Principality eu profi yn erbyn ei gilydd, yn ogystal ag yn erbyn cystadleuwyr allweddol i brofi eu hatyniad h.y. p’un a fyddent yn annog rhywun i fynd i mewn i gangen a holi am y cyfrif. Cafodd nodweddion cyfrif allweddol eu profi yn erbyn cyfrifon cystadleuwyr cymaradwy hefyd, i brofi p’un a fyddai pobl yn debygol o agor cyfrif y Principality yn y dyfodol.

Y canlyniad
Rhoddwyd data gwerthfawr i’r Principality am effeithiolrwydd eu dulliau cyfathrebu, a pha mor ddeniadol oedd eu cyfrif. Roedd y gwaith ymchwil hefyd yn rhoi awgrymiadau ynghylch y ffordd y gellid addasu dulliau’r Principality i’w gwneud yn fwy apelgar a denu mwy o ymholiadau am y cyfrif.