Goleuo'r farchnad i lywio'r strategaeth Grŵp

image





Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient

Mae’r Grŵp Creditsafe yn grŵp o gwmnïau mewn dwylo preifat sy’n darparu’r wybodaeth busnes ddiweddaraf drwy ddau frand - Creditsafe a Marketsafe. Mae’r cleient wrthi’n adolygu ei strategaeth ar lefel Grŵp ac roedd angen cyngor arnynt ynglŷn â safle’r brand ar y farchnad.

Yn benodol, roedd grŵp Creditsafe angen i ni helpu i osod meincnod o ymwybyddiaeth sylfaenol o’r ddau frand ac agweddau’r farchnad darged tuag atynt o gymharu â’u cystadleuwyr.

image
Ein dull

Cynhaliwyd cyfweliadau ffôn (CATI) gyda gwneuthurwyr penderfyniadau ym myd busnes (ym meysydd cyllid, gwerthiant a marchnata) o fewn y DU.  Lledaenom y sampl yn anghymesur er mwyn sicrhau y gallem ddarparu canlyniadau ystadegol arwyddocaol, drwy gyfeintiau digon cadarn o gyfweliadau ar lefelau cwmnïau unigol a safle’r ymatebydd. 

Y canlyniad

Ymhlith yr argymhellion eraill llwyddom i ddangos i’r cleient bod dibynadwyedd data busnes yn ffactor hanfodol ym meddwl y prynwyr - ond hefyd roedd yn cael ei weld fel ffactor hylendid. Galluogodd y canfyddiad hwn y cleient i ganolbwyntio ei safle ar fuddiannau dymunol eraill.


Beth ddywedodd y cleient
“Gwnaethom ddefnyddio Beaufort i gynnal ymchwil B2B ymhlith gwneuthurwyr penderfyniadau ariannol, gwerthiant a marchnata hanfodol ar draws trawsdoriad o fusnesau ym Mhrydain. Galluogodd y ffordd broffesiynol y cafodd yr ymchwil ei datblygu a’i chynnal ynghyd â natur mewnweledol eu dadansoddiad dilynol ni i ganolbwyntio ein safle a’n gweithgaredd yn y farchnad wrth i ni ehangu’n gyflym yn y DU a gweddill Ewrop”. (David Knowles, Cyfarwyddwr Marchnata Grŵp Creditsafe Group)