Olrhain safbwyntiau dros gyfnod o amser - panel dinasyddion

image





Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient

Lleisiau Abertawe yw un o ddulliau Dinas a Sir Abertawe o ddeall a mesur safbwyntiau eu trigolion ar ystod o faterion, polisïau a datblygiadau sy’n ymwneud â’r Cyngor: o ddarpariaeth gofal iechyd, ysgolion, adnoddau hamdden i adfywio dinesig. Mae’r panel, yn ei hanfod, yn gyfrwng ymgynghori cyson ar gyfer trawstoriad o drigolion.

image
Ein dull

Mae Beaufort wedi bod yn gyfrifol am reoli’r panel ar-lein ers 2006. Caiff aelodau o’r panel eu recriwtio drwy gyfweliadau wyneb yn wyneb a recriwtio drwy’r post.  Ar ôl cael eu recriwtio, byddant yn cael arolwg hyd at bedair gwaith y flwyddyn - sydd hefyd ar gael i’w gwblhau ar-lein os dymunant hynny.  Mae’r gwaith o gynnal a chadw’r panel yn hollbwysig, ac rydym yn recriwtio aelodau newydd yn gyson. Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg a Saesneg.


Y canlyniad

Mae’r canlyniadau yn galluogi Dinas a Sir Abertawe i fesur y defnydd o’r ystod o adnoddau a gwasanaethau a ddarperir ganddynt, ac agweddau tuag atynt; a hefyd y gallu i brofi’r ymateb i adnoddau a gwasanaethau posibl. 

Rydym yn teilwra ein hadroddiadau i ardaloedd unigol er mwyn cynyddu eu gwerth. Mae cofnodi tueddiadau yn rhoi dealltwriaeth bwysig o newidiadau dros gyfnod o amser.

Mae cyn aelodau ac aelodau cyfredol o’r panel wedi lleisio eu barn ar nifer o achlysuron: mae eu safbwyntiau wedi cael effaith uniongyrchol ar ganlyniad penderfyniadau pwysig y Cyngor.

Beth ddywedodd y cleient
Mae’r canlyniadau yn llywio ein prif bolisïau corfforaethol a strategol ac maent o ddefnydd da i ni fel Awdurdod Lleol. Mae Beaufort wedi darparu gwasanaeth proffesiynol ac arbenigol i ni yn ystod y pedair blynedd diwethaf, sydd wedi cryfhau ein panel ac wedi sicrhau ei ddyfodol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.