Cadw'r bys ar y pỳls yng Nghymru gyda'r newid i ddigidol
Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient
Mae Digital UK yn sefydliad annibynnol di-elw a sefydlwyd gan brif ddarlledwyr y DU er mwyn rhoi’r newid i ddigidol ar waith. Cafodd Beaufort y cyfrifoldeb o gynnal rhaglen o ymchwil ansoddol er mwyn monitro ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r newid i ddigidol, agweddau perthnasol, paratoadau a bwriadau.
Mae angen yr ymchwil hefyd er mwyn amlygu materion a phryderon, yn enwedig materion sy’n benodol i rai ardaloedd ac amrywiadau cyffredinol, ac i archwilio sawl ffynhonnell o wybodaeth a’u heffaith (sef cysylltiadau Digital UK, gan gynnwys profion creu, a ffynonellau eraill).
Ein dull
O ystyried amseru graddol y newid i ddigidol yng Nghymru, rydym wrthi’n cwblhau cyfres o naw ton o grwpiau trafod ledled y wlad. Mae natur y newid i ddigidol yn golygu bod rhaid i ni fod yn hyblyg ynglŷn â phryd ac ymhle y cynhelir y grwpiau. Mae’r sampl yn cynnwys y rhai fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y newid i ddigidol, hynny yw, tai sydd ond â theledu analog a phobl hŷn. Mae’r gofyniad hwn wedi cyflwyno sialens i ni wrth recriwtio gan fod y gynulleidfa yn lleihau wrth i Gymru nesáu at y newid i ddigidol.
Y canlyniad
Drwy recriwtio llwyddiannus a chyflwyno adroddiadau rheolaidd ar gyfer pob ton, mae Digital UK wedi llwyddo i gadw ei fys ar y pỳls yng Nghymru parthed y newid i ddigidol, a rhagweld materion y bydd angen mwy o gyfathrebu wedi’i dargedu yn eu cylch. Mae’r ymchwil hefyd yn helpu Digital UK i lywio agweddau ar y modd mae’n cyfathrebu ar y pwnc. Rydym hefyd wedi rhoi bywyd newydd i’r canfyddiadau gyda phortreadau cryno o’r rhai a gymerodd ran yn seiliedig ar eu setiau teledu a’u hagweddau at y newid i ddigidol.
