Gwell dealltwriaeth o ymwelwyr i Gymru

image





Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient

Roedd angen i Groeso Cymru gael yr ymchwil hon er mwyn cefnogi dau amcan busnes:

 Deall cymhelliad, anghenion ac ymddygiad ymwelwyr i Gymru

 Rhoi llwyfan cost-effeithiol i awdurdodau lleol a chyrff eraill sydd â diddordeb yn y maes er mwyn eu galluogi i gyfrannu gyda’u cwestiynau ei hunain.

image
Ein dull

Yn ystod y misoedd allweddol rhwng Ebrill a Medi 2009 cafodd ymwelwyr i Gymru eu cyfweld wyneb yn wyneb mewn safleoedd ledled Cymru. 

Yna cânt eu recriwtio ar gyfer arolwg dilynol ar lein (CAWI) er mwyn deall yn llawnach brofiad eu hymweliad â Chymru. Gall dadansoddiad ystadegol alluogi ymchwiliad llawer mwy manwl i’r math o ymwelydd, eu cymhelliad a sut roeddynt yn graddio eu profiad.

Mae awdurdodau lleol a chyrff eraill â diddordeb wedi cyfrannu at yr arolwg naill ai drwy gynyddu nifer y cyfweliadau ar lefelau lleol, er mwyn cael sylfaen cryfach i ddadansoddi’r data, neu drwy ychwanegu eu cwestiynau hwy eu hunain i leoliadau perthnasol. Mae’r dull hwn o weithredu yn caniatáu i gyrff ddeall materion sy’n fwy perthnasol iddynt hwy. 

Rydym wedi mabwysiadu dull gweithredu hyblyg a hawdd ei ddeall sy’n galluogi cyrff i gyfrannu ar unrhyw adeg yn ystod yr arolwg.

Y canlyniad
Mae ein dull yn golygu y bydd Croeso Cymru yn deall proffil, cymhelliant, natur yr ymweliadau ac agweddau at y profiad yn well, gan gynnwys agosatrwydd emosiynol â Chymru. Gallwn hefyd gymharu disgwyliadau cyn yr ymweliad ac agweddau gyda’r profiad ei hun.  Mae gan Croeso Cymru y budd ychwanegol o gysylltu’n fwy effeithiol ag awdurdodau lleol a chyrff eraill, drwy’r llwyfan hwn.

Beth ddywedodd y cleient
Mae Beaufort Research wedi profi eu sgiliau rheoli prosiect a’u hyblygrwydd gyda’r prosiect hwn hyd yn hyn. Mae hwn wedi bod yn brosiect anodd gyda thrydydd partion yn cael eu cynnwys ar sawl cam ar hyd y ffordd, fodd bynnag mae’r tîm yn Beaufort wedi ymgorffori hyn i’r cynlluniau gwreiddiol yn gwbl ddidrafferth.