Llywio datblygiad strategol o'r portffolio cynnyrch busnes

image






Pam bod angen yr ymchwil ar y cleient

Cyn yr arolwg hwn, cynhaliwyd ymchwil busnes y Western Mail & Echo Ltd (a elwir bellach yn Media Wales) yn 2002, gan ganolbwyntio ar y Western Mail a’r cylchgrawn Business in Wales. Er mwyn diweddaru’r wybodaeth hon ac ystyried y cyd-destun cystadleuol newidiol a oedd yn bodoli o fewn y farchnad hon, roedd y cleient am gynnal ymchwil er mwyn bodloni’r tri amcan eang dilynol:

 Profi gwybodaeth am y darllenwyr
 Deall ymddygiad o ran defnyddio cyfryngau
 Gwerthuso’r cynnig cynnyrch a’i safle o fewn y farchnad

image
Ein dull

Y gynulleidfa darged ar gyfer yr astudiaeth hon oedd uwch- wneuthurwyr penderfyniadau o mewn busnesau yng Nghymru, o fewn prif ardaloedd cylchrediad y Western Mail.

Roedd gan nifer o’r cyhoeddiadau busnes yn yr arolwg enwau tebyg iawn, felly penderfynom y dylai ymatebwyr allu gweld penawdau neu dudalennau blaen cyfan - ac felly sicrhau mesur cywir o ymwybyddiaeth, darllenwyr a barn o bob teitl.

Hunan-gwblhau oedd y dull mwyaf addas a chost-effeithiol, ond roeddem am wella cyfraddau ymateb: felly cafodd ymatebwyr eu rhag-recriwtio dros y ffôn. Ar y pwynt yma cawsant gynnig y dewis o hunan-gwblhau ar bapur neu ar-lein. 

Y canlyniad

Mae ein canlyniadau yn rhoi mewnwelediad i arfer uwch-wneuthurwyr penderfyniadau mewn busnesu yng Nghymru o ddefnyddio’r cyfryngau, a helpu’r cleientiaid i ddeall safle cynnyrch yn y farchnad mewn perthynas â’u cystadleuwyr.

Drwy adolygu’r brand businessinwales.co.uk ar draws ei dri llwyfan gwahanol (sef papur newyddion, cylchgronau ac ar-lein) llwyddom i gael cipolwg ar ddatblygiad cynnyrch er mwyn llywio datblygiad strategol o’r portffolio cynnyrch busnes.

Yn ychwanegol i hynny, darparodd yr arolwg wybodaeth y gellid ei defnyddio i gefnogi gwerthiant ac i gynnal/ gynyddu refeniw.

Beth ddywedodd y cleient
Fel prif gyhoeddwr cyfryngau sy’n ymwneud â byd busnes, mae’n rhaid i ni aros ar flaen y farchnad.  Er mwyn sicrhau hyn, mae’n rhaid casglu gwybodaeth am ddefnyddwyr ein cyfryngau, a’r farchnad yn ei chyfanrwydd.  Fe ddewisom Beaufort Research o restr fer o asiantaethau uchel eu parch, gan ein bod yn teimlo mai hwy oedd yn diwallu ein hanghenion orau, ac roeddent hefyd wedi gwneud gwaith rhagorol ar yr ymchwil a gynhaliom yn 2002.  Cafodd yr holl broses o’r recriwtio hyd at y canlyniadau ei chwblhau mewn modd llyfn a phroffesiynol.  Roedd y tîm yn Beaufort wastad wrth law i ateb ein cwestiynau a darparu datrysiadau i faterion, a chawsom fewnwelediad ardderchog i’n marchnad pan gyflwynodd Beaufort eu canlyniadau.  Dylanwadodd y mewnwelediad hwn ar nifer o’r penderfyniadau a wnaethom wrth i ni ddyfeisio ein strategaeth Busnes.