Newyddion
Sylw gan y cyfryngau ar 'brinder tanwydd' yn cael effaith negyddol ar draean o fusnesau Cymru
Nododd arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Beaufort Research ar ran Croeso Cymru fod bron i draean (31%) o fusnesau twristiaeth o'r farn bod yr adroddiadau diweddar yn y cyfryngau am 'brinder tanwydd' wedi cael effaith negyddol ar eu busnes. darllenwch fwy
09/05/12Theatr Anhysbys yn mynd o nerth i nerth
Yn ôl ym mis Mawrth, cynhaliwyd Gŵyl Un Act Morgannwg, y cyntaf o nifer o wyliau oedd yn cael eu cynnal ledled Cymru. Mae’r un dyfarnwr wedi gweld pob un o’r dramâu ac rhoi marciau iddynt yn unol â gofynion Actio / Cyfarwyddo / Cyflwyniad ar Lwyfan a Chyflawniad Dramatig. darllenwch fwy
01/05/12Belt Du Beaufort!
Llongyfarchiadau i Adam Blunt (Cyfarwyddwr Cyswllt Ansoddol), a ddaeth y penwythnos hwn yn wregys du Taekwondo. Gobeithio na fydd angen iddo defnyddio ei sgiliau newydd yn ystod cymedroli grwpiau ffocws!
Ymchwil Beaufort ar roddi organau yn cael ei cyhoeddi
Mae ymchwil ansoddol diweddar ar ran Llywodraeth Cymru i archwilio barn tuag at roddi organau yn gyffredinol, ac i gynlluniau Llywodraeth Cymru i eithrio allan o roddi organau, wedi ei cyhoeddi. Gellir gweld yr adroddiad llawn yma: http://tinyurl.com/cvzdrab.
Adroddiadau ar BBC a Golwg 360 yma hefyd:
BBC: http://tinyurl.com/6qzgyj4
Golwg360: http://tinyurl.com/cc2m3v8
Mwyafrif yn cefnogi pwerau amrywio trethi
Mae mwyafrif clir o Oedolion yng Nghymru yn cefnogi rhoi pwerau amrywio trethi incwm i Lywodraeth Cymru, yn ôl ein pôl piniwn diweddaraf i’r Western Mail darllenwch fwy
30/03/12'Gamp Lawn yn ennill cynulleidfa teledu anferth'
Mae ein harolwg diweddar ar gyfer BBC Cymru o 600 o drigolion Cymru yn dilyn twrnamaint y chwe gwlad 2012 wedi dangos lefel y ddiddordeb yn Llwyddiant Cymru. I ddarllen erthygl y BBC cliciwch yma: http://tinyurl.com/ckqf8fa
Wyau Pasg i Barnardo's
Mae Beaufort ar hyn o bryd yn casglu wyau Pasg sydd wedi ei rhoddi gan staff i roi i Barnardo's Cymru. Bydd y siocled yn cael ei rhannu gan swyddfa Trelai Barnardo's yng Nghaerdydd i blant difreintiedig.
21/03/12Beaufort yn cefnogi enillwyr!
Wythnos diwethaf, cynhaliwyd yr Ŵyl Un-Act gyntaf o saith sy’n cael ei cynnal ar draws Cymru i grwpiau Drama Amatur. Cynhaliwyd digwyddiad y Gynghrair Ddrama Morgannwg yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe. darllenwch fwy
13/02/12Ein arolwg ar gyfer BBC Radio Cymru yn awgrymu angen am wella statws yr iaith Gymraeg
Mae bron i dri o bob pump o bobl yng Nghymru yn credu bod angen gwella statws yr iaith Gymraeg ymhellach. Darllenwch sut mae BBC Cymru yn adrodd y stori yma http://tinyurl.com/7h4aol9 http://www.bbc.co.uk/newyddion/16949619
06/02/12Twristiaid yn mwynhau cyfeillgarwch Cymru
Mae ymchwil a wnaed gan Beaufort ar ran Llywodraeth Cymru yn canfod y dirwedd a'i phobl i fod y rhinweddau mwyaf gwerthfawr gan y rhai sy'n cymryd taith yng Nghymru http://bit.ly/ygoGyx. darllenwch fwy
27/01/12Aelodaeth Undebau Credyd yn cynyddu yng Nghymru
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Beaufort ar ran Llywodraeth Cymru yn dangos bod pobl yn meddu ar ymwybyddiaeth uwch o gwystlwyr a benthycwyr Stepen Drws nag maent yn ei wneud o Undebau Credyd, er gwaethaf ffigurau Llywodraeth sy’n dangos aelodaeth gynyddol. Darllenwch sut mae’r stori’n cael ei adrodd yma: http://bit.ly/wlDzVR
25/01/12Lefelau bodlonrwydd uchel ymhlith ymwelwyr i Gymru
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Beaufort ar ran Croeso Cymru yn canfod yr amgylchedd naturiol a natur gyfeillgar y bobl i fod yn nodweddion cenedlaethol sy’n cael ei gwerthfawrogi fwyaf gan y rhai hynny sy’n cymryd gwyliau yng Nghymru. Darllenwch sut mae’r cyfryngau yn adrodd y stori yma: http://bbc.in/xY0wt6 http://bit.ly/AkFcK1
18/01/12Micro-fusnesau yng Nghymru wedi ‘drysu’ dros gefnogaeth yn y sector cyhoeddus
Mae adroddiad a baratowyd gan y Grŵp ‘Gorchwyl a Gorffen’ Micro-fusnesau yn tynnu sylw at ddryswch ymhlith microfusnesau yng Nghymru dros gefnogaeth sydd ar gael o’r sector cyhoeddus.
Mae'r adroddiad, sy'n cynnwys data diweddaraf o Arolwg Omnibws Busnes Beaufort, yn y cyfryngau yma:
Gellir gweld yr adroddiad llawn hefyd yma: http://tinyurl.com/77urv59
Am fwy o wybodaeth am yr Arolwg Omnibws Busnes Beaufort, cysylltwch ag Owen Knight: neu ar 029 2037 6741.
Dadl ar system ‘bandio’ ysgolion yn parhau
Yn 2011 dangosodd ymchwil gan Beaufort ar ran y Western Mail bod 55% o bobl sy'n byw yng Nghymru o blaid 'tablau cynghrair' ysgol yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau. Mae Walesonline yn cynnwys barn ddiweddaraf ar y ddadl yma: http://bit.ly/yelV6W.
12/01/12FT yn defnyddio canlyniadau Beaufort yn ei erthygl ar annibyniaeth
Gweler sylwadau'r Financial Times ar annibyniaeth yng Nghymru, gan gyfeirio at ganlyniadau Beaufort o 2011 http://on.ft.com/x8ikn5
12/01/12Lefelau boddhad yn parhau’n uchel ymhlith cleientiaid Beaufort
Er mwyn ein helpu i fonitro'r gwasanaeth a ddarparwn i'n cleientiaid ac i dynnu sylw at feysydd lle gallwn wneud hyd yn oed yn well, ar ddiwedd pob prosiect rydym yn gofyn am adborth ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan Beaufort. Mae'r adborth hwn yn cael ei sicrhau drwy holiadur ar-lein byr, sy'n cael ei gwblhau gan tua dwy ran o dair o gleientiaid rydym yn gweithio gyda nhw. darllenwch fwy
16/12/11Beaufort yn cefnogi Shelter
Mae Beaufort yn cefnogi Shelter eto y Nadolig hyn - yn lle danfon cardiau nadolig, rydym yn rhoi rhodd i Shelter ac yn defnyddio e-gerdyn Shelter i ddymuno Nadolig Llawen Iawn i'n holl gleientiaid. Bydd yr arian yn helpu godi arian i'r di-gartref a'r rhai hynny sy mewn lloches gwael ledled y DU.
14/12/11Tri o bob deg o blaid deddfu ar daro plant
Mae yn agos at dri o bob deg oedolyn yng Nghymru yn cefnogi cynllun y Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno deddfwriaeth i rwystro rhieni rhag taro ei plant. darllenwch fwy
01/12/11Sioe flaengar gan yr Unknown Theatre Company
Mae'r Unknown Theatre Company, sydd â pherthynas parhaol â Beaufort ac sy'n cael nawdd ganddi, yn falch o gyflwyno Sweeney Todd fel ei sioe gerdd Nadolig.
Bydd y sioe yn cael ei pherfformio rhwng dydd Mercher 7fed a dydd Sadwrn y 10fed o Ragfyr yng Nghanolfan Howardian yng Nghaerdydd.
darllenwch fwy
Beaufort yn cefnogi Gweithredu dros Blant eto y Nadolig hyn
Rydym yn falch o gael cefnogi ymgyrch Nadolig Busnes yn y Gymuned eto yn 2011. darllenwch fwy
16/11/11Beaufort wedi ennill prosiect ymchwil blaenllaw: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae Beaufort yn falch o gyhoeddi, mewn partneriaeth â TNS-BMRB, maent wedi ennill contract i ymgymryd ag Arolwg Cenedlaethol Cymru. darllenwch fwy
04/11/11Gweithio mewn partneriaeth gydag ysgol lleol i wneud Beaufort yn gwmni fwy gwyrdd
Mae Beaufort yn falch ei bod wedi creu partneriaeth gydag ysgol gynradd lleol Ysgol Gymraeg Pwll Coch http://ysgolpwllcoch.cardiff.sch.uk/ ar brosiect i helpu wneud y cwmni yn fwy cyfeillgar at yr amgylchedd.
darllenwch fwy
Archwiliad llwyddiannus iawn
Rydym yn hynod o falch ein bod wedi pasio ein archwiliad ar gyfer ISO 20252 eto. Ni ddarganfuwyd unrhyw anghydffurfiaeth gan ein archwilydd allanol mewn unrhyw ran o'r cwmni, er treulio'r dydd yn chwilota trwy ein ffeiliau! http://www.iso.org/iso/home.htm
31/10/11Cyfryngau Cymdeithasol yng Nghymru yn 2011: trosolwg
Y briff
Yn Beaufort, rydym yn awyddus i ymgymryd ac i rannu ymchwil gwreiddiol gyda’n cleientiaid ar bynciau sydd yn ein heffeithio fel cenedl. Rydym yn cydnabod bod cyfryngau cymdeithasol yn bwysig i’n cleientiaid ac felly’n teimlo byddai ciplun o dirlun cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru yn 2011 o fudd iddynt. darllenwch fwy
Mae'r mwyafrif yng Nghymru yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi tablau cynghrair yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau
Mae dros hanner poblogaeth Cymru (55%) yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi tablau cynghrair, yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch, tra bod llai na thraean (32%) yn anghytuno. darllenwch fwy
20/10/11Digwyddiad y cyfryngau cymdeithasol yn llwyddiant ysgubol
Diolch yn fawr iawn i bob un o’n cleientiaid a ddaeth i’n seminar cyfryngau cymdeithasol ddoe. Roeddem yn falch iawn o nifer y bobl a ddaeth i’r Chapter yng Nghaerdydd, ac mae’r drafodaeth a gafwyd ar y diwedd wedi rhoi nifer o syniadau i ni o ran pynciau ar gyfer seminarau yn y dyfodol.
Darllenwch sut mae Walesonline yn adrodd nôl am ein canfyddiadau o’r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru yn 2011: http://bit.ly/pMIr2q
Diweddariad seminar cyfryngau cymdeithasol
Oherwydd yr ymateb gwych gan ein cleientiaid, mae ein seminar ar gyfryngau cymdeithasol bellach yn llawn. Mae gennym restr wrth gefn i'r rhai hynny sydd wedi derbyn gwahoddiad i'r digwyddiad pe bai llefydd ychwanegol ar gael.
29/09/11Seminar ar ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru wedi ei lansio
Mae gwahoddiad yn cael ei ddanfon heddiw i fynychu ein seminar brynhawn rhad ac am ddim ar 19fed o Hydref, sy’n trafod ein darganfyddiadau ymchwil newydd ar ddefnydd cyfryngau cymdeithasol defnyddwyr yng Nghymru. Hwn yw’r diweddaraf o seminarau Beaufort sydd wedi ei arwain gan ymchwil gwreiddiol ac yn canolbwyntio ar dueddiadau allweddol agweddau defnyddwyr yng Nghymru. darllenwch fwy
12/09/11Beaufort yn helpu amlygu sialensiau a buddion gweithio’n ddwyieithog
Dydd Mercher diwethaf, siaradodd Osian Bowyer, Uwch Swyddog Ymchwil Beaufort gyda Dysgwyr Cymraeg am ei brofiadau o ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn rheolaidd mewn busnes. darllenwch fwy
12/08/11Rydym yn hapus i fod yn cefnogi ymdrechion codi arian Brains
Roedd Beaufort Research yn falch iawn i gymryd rhan mewn cwis tafarn Brains neithiwr er budd yr elusen y Llwy Bren. Bydd ein cleient, Ian Beattie, yn rhan o dîm a fydd yn seiclo ar draws y DU o Land End i John O'Groats.
Gafodd tîm Beaufort noson wych ac rydym yn falch o wedi dod yn drydydd parchus yn y cwis!
Am fwy o wybodaeth, ac i gyfrannu, ewch i http://www.justgiving.com/teambrains
Pob lwc i Ian a gweddill tîm seiclo Brains.
Beaufort wedi ei chomisiynu gan S4C i reoli Panel Pobl newydd
Cafodd Panel Pobl newydd sy’n cael ei reoli gan Beaufort ei lansio’n swyddogol heddiw gan Brif Weithredwr S4C Arwel Ellis Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam. darllenwch fwy
03/08/11Gweithiwr o Beaufort ar ei ffordd i Wyl Ymylol Caeredin
Mae bywyd yn aml yn ddrama i Annette Littlechild, ein rheolwraig Maes yn Beaufort Research. Mae ei rôl yn Beaufort yn hawlio llawer o’i sylw, wrth reoli tîm eang o gyfwelwyr a goruchwilio holl waith maes yn llawn-amser. darllenwch fwy
01/08/11Beaufort yn helpu'r ASA i wrando ar bryderon pobl ifanc a'i rhieni
Mae ymrwymiad parhaol yr Awdurdod Ansawdd Hysbysebu i amddiffyn pobl ifanc o hysbysebion anaddas a chamarweiniol wedi ei chyfoethogi trwy wrando ar farn a phryderon rhieni. darllenwch fwy
20/07/11Beaufort, yr unig asiantaeth Gymreig i’w dewis i fod ar rhoster ymchwil gynulleidfa y BBC
Beaufort Research yw’r unig asiantaeth ymchwil Gymreig i lwyddo i gael ei chynnwys ar rhoster newydd ymchwil gynulleidfaoedd y BBC, ac y bydd yn darparu sgiliau ymchwil eang meintiol ac ansoddol i’r Gorfforaeth. darllenwch fwy
01/07/11Mwyafrif yng Nghymru yn credu bod toriadau arian cyhoeddus Llywodraeth y DU yn mynd yn rhy bell
Mae yn agos at un o bob chwech o’r boblogaeth Gymreig (56%) yn credu bod graddfa toriadau arian cyhoeddus sy’n cael ei cyflwyno gan Lywodraeth y DU llawer yn ormod, tra bod ond un o bob pedwar (26%) yn credu ei bod ar y cyfan wedi ei gael yn iawn. Dim ond 6% sy’n credu nad yw’r toriadau yn mynd yn ddigon pell. darllenwch fwy
23/06/11Cyngor Sir Benfro yn dewis Beaufort i gynnal ymchwil allweddol ar dwristiaeth
Rydym yn hapus iawn ein bod wedi cael contract ar gyfer arolwg ymwelwyr mawr arall, sy’n golygu dros 1,500 o gyfweliadau wyneb yn wyneb ar hyd Sir Benfro, yn ogystal ag ymchwil meintiol ar-lein ac ymchwil ansoddol.
01/04/11Barn ar y tebygolrwydd bydd Cymru byth yn wladwriaeth annibynnol yn rhanedig
Mae ychydig dros hanner poblogaeth Cymru (53%) yn credu na fydd Cymru byth yn wladwriaeth annibynnol, tra bod ychydig llai na pedwar o bob deg (38%) yn fwy optimistaidd am y tebygolrwydd fydd Cymru yn annibynnol rhyw ddydd. darllenwch fwy
20/03/11Beaufort Research yn llwyddiannus wrth ennill contract mawr
Mae Croeso Cymru wedi dyfarnu contract Arolwg Ymwelwyr Cymru 2011 i Beaufort Research
darllenwch fwy
Llwyddiant Beaufort ar fframwaith HCC/MPW
Rydym yn falch o gael cyhoeddi fod Beaufort wedi cael ei dewis fel un o prif gyflenwyr Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales, fel asiantaeth ymchwil ar gyfer prosiectau meintiol ac ansoddol.
28/02/11Mae Beaufort yn ail-lansio ei harolwg unigryw Omnibws Siaradwyr Cymraeg
Mae Beaufort yn falch o gael cyhoeddi ail-lansiad ein Omnibws Siaradwyr Cymraeg, yr unig arolwg rheolaidd o oedolion sy’n siarad Cymraeg.
O 2011, bydd yr arolwg sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn yn cael ei weinyddu drwy ddull cyfweliad ffôn gyda 500 o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Fydd y dull newydd yma yn ein galluogi ni i ddarparu gwell hyblygrwydd, modd gost-effeithiol a chyflymach i’n cleientiaid i ddarganfod barn, agwedd ac ymwybyddiaeth y 21% o bobl yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg.
Dyddiad cau yr arolwg nesaf yw’r 4ydd o Fawrth. I ddarganfod mwy, cliciwch yma
Llwyddiant seminar SRA Cymru
Diolch i bawb a ddaeth i'n seminar SRA Cymru a oedd yn archwilio hunaniaeth Gymreig trwy ddefnyddio ymchwil ansoddol ar-lein.
02/02/11Llais Defnyddwyr Cymru: gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i ddefnyddwyr
Bydd angen ymgysylltu’n well â defnyddwyr sy’n siarad Cymraeg er mwyn darparu gwasanaethau gwell: darganfyddwch fwy am yr ymchwil wnaethom ni ei gynnal ar ran Llais Defnyddwyr Cymru: http://bit.ly/fYBm01
Seminar Beaufort SRA Cymru Chwefror 2011
Bydd Adam Blunt yn rhoi seminar i SRA Cymru ar yr 2ail o Chwefror am 4.00yp gyda theitl seminar 'Cyflwyno techneg bwrdd bwletin ar-lein: archwilio hunaniaeth Gymreig ymhlith pobl ifanc'. Mae'r seminar yn cael ei chynnal yn Swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.
22/12/10‘Pocketful of Presents’
Eleni, rydym yn cefnogi cynllun Busnes yn y Gymuned o’r enw ‘Pocketful of Presents’ (http://bit.ly/evO3wj). Byddwn yn rhoi anrhegion i Gweithredu dros Blant (http://bit.ly/hFKG), sy’n cefnogi’r plant a phobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yn y DU.
22/12/10Archwiliad llwyddiannus iawn
Mae’n bleser gennym ddweud ein bod wedi llwyddo yn yr archwiliad ansawdd allanol diwethaf, a’n bod yn parhau i fodloni’r gofynion llym a bennwyd ar gyfer ISO 20252, sef y Safon Ansawdd Prydeinig ar gyfer gwaith ymchwil i’r farchnad: http://bit.ly/mbarw.
12/12/10Arolwg Beaufort yn dangos bod chwech allan o deg yng Nghymru yn cefnogi pwerau llunio deddfau ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol
Mae arolwg Omnibws Cymru ddiweddaraf Beaufort wedi dangos bod chwech allan o deg o bobol oed 18+ yng Nghymru eisiau i’r Cynulliad gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt. Mae’r mwyafrif o blaid pwerau creu deddfau llawn yn cynyddu i 68% ymhlith pobol sydd yn debygol o bleidleisio yn y refferendwm ar 3 Mawrth 2011. Gwelwch sut mae’r Western Mail yn adrodd y stori: http://tinyurl.com/2eskyag
08/12/10Meddalwedd hyblyg yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog o’r safon uchaf posibl
I Beaufort, roedd dewis llwyfan technoleg ar gyfer casglu ein data yn eithriadol o bwysig. Mae angen i’n tîm gael offer sy’n caniatáu i ni roi ein holl ddychymyg i’n gwaith ymchwil, heb i’r feddalwedd gyfyngu ar hynny. darllenwch fwy
30/11/10Hyder defnyddwyr – Beth yw’r awyrgylch yng Nghymru?
![]()
Roedd ein seminar prynhawn ar hyder defnyddwyr yn dangos bod defnyddwyr Cymru yn barod i wario arian yn ofalus ac yn ddoeth yn ystod y 12 mis nesaf.
darllenwch fwy
Pobl sy’n fregus yn troi’r gwres i lawr er mwyn helpu i dalu eu biliau ynni
Ein canfyddiadau ar ran Llais Defnyddwyr Cymru yn dangos bod mwy na hanner poblogaeth Cymru yn pryderu am dalu ei biliau nwy a thrydan dros y gaeaf. http://bit.ly/bZj0xe
Dau draean yn cefnogi Cymru wrth iddi gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr fel Cwpan Ryder
Mae arolwg omnibws Cymru diweddaraf Beaufort wedi datgelu bod dau draean (66%) o boblogaeth Cymru o'r farn ei bod yn 'wych' bod Cymru'n gallu cynnal digwyddiadau fel Cwpan Ryder.
darllenwch fwy
Beaufort yn troi'n binc
Unwaith y flwyddyn yn Beaufort, rydym yn cymryd saib i gefnogi elusen am y dydd. Blwyddyn yma, dewisiwyd elusen Breakthrough Breast Cancer - a throi'n binc! Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau staff yn ystod y dydd - o ocsiwn wyneb i waered i gystadleuaeth pobi - yn naturiol, roedd pinc yn thema cyffredin ar draws y cyfan. Ar ddiwedd y dydd, casglwyd £200 ar gyfer achos arbennig. Darganfyddwch fwy am fis Breakthrough Breast Cancer: http://breakthrough.org.uk/beat/
Pobl fydd yn ymddeol yn wynebu problemau ariannol
Gan ddefnyddio darganfyddiadau Beaufort, mae Llais Defnyddwyr Cymru yn rhybuddio y gallai'r genhedlaeth nesaf o bobl fydd yn ymddeol wynebu problemau ariannol: http://bbc.in/cBKNZD.
04/10/10Barn siaradwyr Cymraeg ar y gwasanaethau mae nhw'n ei dderbyn
Defnyddiodd Llais Defnyddwyr Cymru ymchwil gan Beaufort i edrych ar agwedd siaradwyr iaith Gymraeg tuag at wasanaethau mae nhw’n ei dderbyn gan y sector breifat a'r sector cyhoeddus. Dengys yr ymchwil fod yna nifer o broblemau sy’n creu rhwystrau neu hyd yn oed atal siaradwyr Cymraeg rhag defnyddio gwasanaethau iaith Gymraeg: http://bit.ly/d04Fzu.
10/08/10Oedolion ifainc yng Nghymru yn wynebu'r risg fwyaf o broblemau dyledion
Mae adroddiad newydd gan Lais Defnyddwyr Cymru, sy'n seiliedig ar ein hymchwil, yn dangos bod pobl ifanc a'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yng Nghymru yn dioddef fwyaf yn ariannol. Darllenwch mwy gan Lais Defnyddwyr Cymru yma http://bit.ly/9blHwx, neu gwelwch sut mae'r cyfryngau yn adrodd ar y stori: http://bit.ly/9OkGkg
22/07/10Beaufort yn noddi The Unknown Theatre Company
Yn ddiweddar, gwnaeth Beaufort noddi The Unknown Theatre Company ar gyfer Rownd Derfynol Gŵyl Un Act Cymru: drama gyda thair actores, o'r enw 'Cotton Girls'. Cafodd y cwmni gryn lwyddiant, a chafodd ei ddewis o blith 51 o wyliau dramâu lleol ledled Cymru ac, ar 26 Mehefin, gwnaeth berfformio'r ddrama gan gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Prydain yn East Kilbride.
09/07/10Cestyll, diwylliant a torgymylau
Gyda'r tywydd yn braf, roedd cynnwrf staff yn amlwg wrth ddisgwyl am ein digwyddiad hafaidd blynyddol: Be well na gwylio un o ddramau enwocaf Shakespeare oddi fewn i waliau syfrdanol Castell Caerdydd â phicnic yn yr heulwen.
Ond er gwaetha'r noswaith gwlypaf ers dros fis, ni wnaeth effeithio ar fwynhad staff o berfformiad egniol o'r Tempest.
Beaufort yn lansio arolwg boddhad swydd i gleientiaid
Fel rhan o'n hymdrechion i fonitro ein perfformiad yn well, rydym wedi lansio arolwg ar-lein byr yn ddiweddar i gleientiaid ei gwblhau ar ddiwedd pob prosiect. Rydym yn disgwyl i'r fenter ein helpu i gynnig gwasanaeth gwell i gleientiaid ym mhob agwedd ar ein gwaith.
08/04/10Gwella sgiliau iaith Gymraeg y staff
Rydym eisoes yn sylweddoli mor bwysig yw'r iaith Gymraeg i nifer o'n cleientiaid ac mae gennym alluoedd dwyieithog mewnol i ddiwallu'r angen hwn. Mae aelodau eraill o staff yn Beaufort bellach yn cael gwersi Cymraeg i wella'r gwasanaeth a ddarparwn ymhellach.
10/03/10Digwyddiad cleientiaid Beaufort: dangos techneg ansoddol ar-lein drwy archwilio hunaniaeth Gymreig
Daeth dros 30 o gleientiaid i'n seminar amser cinio ar ddydd Gŵyl Dewi ynghylch hunaniaeth Gymreig gan ddefnyddio ymchwil ansoddol ar-lein. darllenwch fwy
26/02/10Cau Swyddfeydd Post yn effeithio ar gymunedau
Mae adroddiad Llais Defnyddwyr Cymru gan ddefnyddio ymchwil Beaufort yn amlygu effaith cau Swyddfeydd Post ar gymunedau yng Nghymru: http://bit.ly/cJXRuB. http://bit.ly/c3qMT7
09/02/10Mae nifer o'r farn bod anhwylder bwyta yn ffordd o fyw y mae pobl yn ei dewis
Mae canlyniadau ein harolwg ar gyfer Beat Cymru yn dangos bod nifer o bobl yng Nghymru o'r farn bod anhwylder bwyta yn ffordd o fyw y mae pobl yn ei dewis: http://bit.ly/bF0fpC; http://bit.ly/90HJv1
Ymwelwyr yn mwynhau croeso cynnes i Gymru
Mae ein hymchwil twristiaeth Croeso Cymru 2009 yn dangos bod rhan fwyaf yr ymwelwyr yn gadael Cymru gydag argraff gadarnhaol: http://bit.ly/a3b2dS. http://bit.ly/bROK84, (adroddiad llawn: http://bit.ly/c4swHA)
10/12/09Newid yn yr hinsawdd – y farn yng Nghymru
Cawsom ein comisiynu gan BBC Cymru i wneud gwaith ymchwil fel rhan o'i dymor Cymru Werdd (http://bit.ly/8W0e7i). Darllenwch sut y gwnaeth y cyfryngau adrodd yn ôl ar y canfyddiadau a oedd yn seiliedig ar gymysgedd o ddulliau ansoddol a meintiol: http://bit.ly/7aKLj6.
12/11/09Beaufort yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed
I nodi'r achlysur hanesyddol hwn, buom yn dathlu gyda chleientiaid a chyflenwyr. Cynhaliwyd y dathliadau yn un o dirnodau mwyaf Caerdydd, yr Amgueddfa Genedlaethol. Wedi'n hamgylchynu gan baentiadau'r Argraffiadwyr, a chyda help data ymchwil, rhoddwyd cipolwg i gleientiaid o'r ffordd mae'r gymdeithas wedi newid yn ystod y 25 mlynedd diwethaf - gyda rhai canlyniadau syfrdanol! Enillodd rhai o'r cleientiaid lwcus (hŷn) boteli o siampên yn y cwis am gerddoriaeth yr 80au; a bu pawb a oedd yn bresennol yn mwynhau cyfle i rwydweithio gyda chyfoedion.
12/08/09Y tîm yn mwynhau noson yn y rasys
Ar ôl haf prysur iawn, cafodd y staff gyfle i ymlacio yn ardal yr enillwyr yng Nghas-gwent. Ond ni lwyddodd yr ymchwilwyr meintiol i droi eu harbenigedd ym maes rhifau yn arian parod!
Newyddion am y diwydiant
-
18/05/12
Law firm investigates alleged phone sugging by 'polling firm'
- 18/05/12
-
18/05/12
Brands warned to be careful over attempts at customer closeness
- 18/05/12
- 17/05/12
