Beaufort Research yn llwyddiannus wrth ennill contract mawr

Mae Croeso Cymru wedi dyfarnu contract Arolwg Ymwelwyr Cymru 2011 i Beaufort Research

Mae Croeso Cymru (cangen dwristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru) wedi dyfarnu contract Arolwg Ymwelwyr Cymru 2011 i Beaufort Research, yr asiantaeth ymchwil blaenllaw wedi ei leoli yng Nghaerdydd.

Mae twristiaeth dros nos ar hyn o bryd yn cynhyrchu tua £2 biliwn yn flynyddol i’r economi Gymreig, tra bod ymwelwyr yn ystod y dydd yn ychwanegu £1.5 biliwn. Mae yn agos i 70,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu cefnogi drwy dwristiaeth.

Mae boddhad ymwelwyr yn allweddol wrth annog ail ymweliadau. Mae ymwelwyr sydd wedi mwynhau eu hymweliad yn llawer fwy tebygol o ddychwelyd yn y dyfodol ac ymweld yn gyson. Gallai ymwelwyr sydd wedi cael trip boddhaol hefyd fod yn hyrwyddwyr effeithiol; mae ymchwil yn dangos bod argymhelliad personol yn arwyddocaol iawn fel dull o dderbyn gwybodaeth ac wrth wneud dewisiadau ar ble i fynd ar wyliau.

Mae’r Arolwg Ymwelwyr i Gymru yn asesu proffil, agweddau a lefel boddhad ymwelwyr i Gymru, ac felly mae’n declyn pwysig iawn i Lywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddi lunio ei strategaeth farchnata a’i helpu i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan dwristiaeth.

Bydd yr arolwg yn 2011 yn diweddaru data a gasglwyd gan Beaufort Research yn yr un arolwg yn 2009, lle cafwyd yn agos at 6,000 o ymwelwyr ei cyfweld wyneb yn wyneb ar draws amrywiaeth eang o atyniadau dwristiaeth a lleoliadau ledled Cymru rhwng Ebrill a Medi.

Dywedodd Fiona McAllister, Rheolwr Gyfarwyddwr Beaufort “Rydym yn hynod o falch ein bod wedi ennill y contract pwysig yma am yr ail dro ar gyfer arolwg ledled Cymru. Byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu data o’r safon uchaf i Croeso Cymru fydd yn rhoi gwerth ychwanegol i’w marchnata”.

Nodiadau:

Am fwy o wybodaeth cysylltwch âg Osian Bowyer ar 029 20 370607 (llinell uniongyrchol) neu trwy e-bost

 

Newyddion am y diwydiant