Cyfryngau Cymdeithasol yng Nghymru yn 2011: trosolwg
Y briff
Yn Beaufort, rydym yn awyddus i ymgymryd ac i rannu ymchwil gwreiddiol gyda’n cleientiaid ar bynciau sydd yn ein heffeithio fel cenedl. Rydym yn cydnabod bod cyfryngau cymdeithasol yn bwysig i’n cleientiaid ac felly’n teimlo byddai ciplun o dirlun cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru yn 2011 o fudd iddynt.
Mae’r canfyddiadau ymchwil yma wedi ei cymryd o’r diweddaraf o gyfres o seminarau Beaufort sydd wedi canolbwyntio ar brif dueddiadau ymddygiad ac agwedd defnyddwyr yng Nghymru.
Ein dull
Roeddem eisiau sicrhau ein bod yn gallu rhannu canlyniadau a chanfyddiadau a oedd chyda sylfaen gref, felly cwblhawyd dwy don o waith ymchwil (Mawrth a Mehefin 2011), a chyfweld am gyfryngau cymdeithasol ar ein Arolwg Omnibws Cymru. Roedd yr holl gyfweliadau wedi ei cwblhau trwy ddefnyddio CAPI (Computer Aided Personal Interviewing) oddi fewn y cartref.
Rhoddodd y dull yma sampl o dros 2,000 o oedolion dros 16 sydd yn byw yng Nghymru, ac yn gynrychioladol o’r boblogaeth yng Nghymru. Yn amlwg, roedd y niferoedd yn bwysig, ond roedd anghenraid i archwilio ymhellach ar y pwnc yma, felly cynhaliwyd gwaith ymchwil ansoddol ychwanegol gan ddefnyddio dulliau ethnograffig. Roedd y rhan yma yn cynnwys 10 cyfweliad manwl (wyth wyneb yn wyneb) gyda defnyddwyr trwm o gyfryngau cymdeithasol. Roedd y cyfranogwyr yn tueddu i fod yn bobl ifanc, ac thrafodwyd mewn mwy o fanylder am ei hagweddau tuag at, a’i cymhelliant wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Prif ganfyddiadau
Y cyd-destun digidol
Y cyd-destun oedd defnydd o’r rhyngrwyd, ac fe ddarganfuwyd bod 7 o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd yn bersonol. Ond, roedd ein hymchwil hefyd wedi dangos effaith eithrio digidol yng Nghymru, gyda’n agos at 3 o bob 10 ddim yn defnyddio’r rhyngrwyd. Mae’r ffigwr yma yn codi at bron i 7 o bob 10 o bobl dros 65 mlwydd oed, a thros hanner o’r rhai hynny ag anabledd neu salwch hir dymor.
Roedd defnydd hefyd yn is ymysg y llai cyfoethog: 38% o bobl yn nosbarth gymdeithasol C2DE (gweithwyr coler glas / y rhai hynny ar fudd-daliadau / ddim mewn gwaith) ddim yn defnyddio’r rhyngrwyd i gymharu ag ond 17% o’r rhai hynny yn nosbarth gymdeithasol ABC1 (rheolwyr, pobl broffesiynol, a gweithwyr coler gwyn).
Mae defnyddwyr yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd rhan amlaf trwy Gyfrifiadur pen desg / gliniadur adref er bod 30% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn mynd ar-lein trwy ei ffôn symudol; ac mae ein ymchwil yn dangos bod defnydd o ffonau smart i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn cynyddu, gyda’r nifer yn gwneud hynny yn cynyddu o 13% yn Mawrth i18% yn Mehefin.
Pwy sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru?
Ein prif ganfyddiadau yw’r ffaith bod 7 o bob 10 o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn y chwe mis diwethaf. I roi y canlyniad hyn yn ei gyd-destun, mae’n golygu bod bron i hanner y boblogaeth yng Nghymru wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn rhyw ffordd na’i gilydd.
Er mwyn sicrhau data mor gywir a phosibl, darparwyd rhestr hir o wefannau cyfryngau cymdeithasol i atebwyr ddewis ohonynt, yn lle dibynnu ar bawb i ddeall beth yw ystyr ‘cyfryngau cymdeithasol’ (sydd yn bwnc testun yn ei hun!).
Ond mae hefyd yn amlwg bod yna lawer iawn o ddefnyddwyr rhyngrwyd sydd ddim yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Fel byddwn yn ei ddisgwyl, mae ei ddefnydd isaf ymysg pobl hŷn (dim ond 3 o bob 10 o’r rhai hynny dros 65 mlwydd oed sydd ar-lein yn ei ddefnyddio). Hefyd, mae’r rhai hynny sydd yn anabl / salwch hir dymor eto yn llai tebygol o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol (61% o’r rhai hynny sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i gymharu â 69% o’r sampl cyflawn). Gellir dadlau mai’r gynulleidfa hyn sydd â’r mwyaf i’w ennill o gyfathrebu ar-lein trwy gyfryngau cymdeithasol.
Felly beth sy’n ei rhwystro rhag ymuno yn y ffenomen cyfryngau cymdeithasol? Wel, roedd ei ymatebion ddigymell am beidio ei defnyddio yn amrywiol iawn – ond gan amlaf diffyg diddordeb oedd amlycaf. Mae gan rhai bryderon dros breifatrwydd / diogelwch ar-lein – sydd ddim yn unigryw i gyfryngau cymdeithasol yn unig – tra bo rhai yn nodi diffyg amser i’w defnyddio sydd yn rwystr.
Ymhle ydym yn ei ddefnyddio a pha mor aml?
Ni ddylai fod yn syndod mai Facebook sydd yn goruchafu ymhlith y gwefannau cyfryngau cymdeithasol mai pobl Cymru yn ei defnyddio: 57% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd wedi ei ddefnyddio yn y chwe mis diwethaf – felly 4 o bob 10 o holl oedolion Cymru. Mae’r ffigwr hwn yn dringo yn uwch eto i 89% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd rhwng 16-24 mlwydd oed. Yr unig wefan arall gyda nifer arwyddocaol yn ei ddefnyddio yw YouTube (38%).
Roedd defnydd o wefannau eraill yn llawer is. Er yr hollbresenoldeb ar wefannau dyddiau hyn, dim ond 12% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru oedd wedi defnyddio Twitter yn ddiweddar, gyda rhai o’n cyfranogwyr ansoddol yn cyfaddef nad oeddent yn deall Twitter yn llwyr. Roedd yr un nifer o bobl (12%) wedi defnyddio Grwpiau Yahoo! Roedd bron i bob gwefan arall gyda ffigyrau defnydd yn is na 10%, er enghraifft ond 3% oedd wedi defnyddio LinkedIn.
Er nad yw’n syndod, pobl ifanc yw’r defnyddwyr mwyaf yng Nghymru (93% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd rhwng 16-24 mlwydd oed wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn y 6 mis diwethaf) ond mae hefyd ambell i ganlyniad arall diddorol yma: roedd defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn uchel iawn ymysg y dosbarth gymdeithasol isaf (76% o DE’s sydd yn defnyddio’r rhyngrwyd yn bersonol) – dipyn o baradocs efallai, gan ei bod yn llai tebygol o fod yn ddefnyddwyr o’r rhyngrwyd yn y lle cyntaf. Hefyd, roedd merched yn fwy na dynion, ac hefyd siaradwyr Cymraeg yn fwy na’r di-Gymraeg (o bosib rhywbeth i wneud gyda’r proffil ifanc sydd ganddynt yn y sampl), yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Mae nifer ohonom yn euog rwy’n siŵr o edrych ar hysbysiadau ar gyfryngau cymdeithasol wrth iddynt ymddangos, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr arolwg gyda’r nifer yn dweud ei bod yn ei ddefnyddio yn aml yn uchel iawn. Er enghraifft, mae bron i 3 o bob 4 unigolyn 16-34 mlwydd oed sy’n ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol arno o leiaf unwaith y dydd (gyda nifer yn mynd arno hyd yn oed yn fwy aml na hyn). Ac mae 1 o bob 5 o’r un grŵp oedran yn defnyddio ei ffôn symudol gan amlaf i wneud hyn.
Pam ydym yn ei ddefnyddio?
Mae ein arolwg yn cadarnhau bod y rhan fwyaf yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad / ar gyfer cymdeithasu: yn enwedig ymysg cyfeillion a phobl ifanc, ac hefyd ymysg teulu i rai hŷn. Roedd y cyswllt dyddiol rhwng cyfeillion a chylchoedd cymdeithasol yn ymddangos yn gryf yn ystod y gwaith ansoddol, ac hefyd yr argraff bod pobl yn edrych i gadarnhau ei safle gymdeithasol a chysylltiadau (ac hefyd er mwyn cael bod yn fusneslyd am weithgareddau eraill). Mae adolygiadau digymell gan ddefnyddwyr hefyd yn bwysig.
Ond mae hefyd enghreifftiau o ble mae cyfryngau cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth mawr: gan roi mynediad hawdd i bobl at gyfnodau arbennig yn ei bywyd, er enghraifft diweddariadau amser-real (ac yn y man lluniau!) o enedigaeth efeilliaid cyfaill; a’r ffordd hawdd a chyfleus o drefnu trwy gyfryngau cymdeithasol, os yn noson allan neu drafodaeth am bwnc neilltuol yn yr ysgol.
Mae cyfryngau cymdeithasol hefyd yn rhoi cefnogaeth emosiynol i rai cyfranogwyr, ac i eraill wedi gwella y profiad o wylio’r teledu (e.e. gwylio fideos o gystadleuwyr ar X Factor, hen berfformiadau ar YouTube tra’n gwylio’r rhaglen a rhannu barn gyda cyfeillion sydd hefyd yn gwylio).
Mae 6% â diddordeb mewn gweld beth mae pobl (gan gynnwys pobl enwog) yn ei wneud. Daeth hyn allan yn gryf trwy ein elfen ansoddol, yn enwedig y cyswllt emosiynol sydd gan rai tuag at enwogion mae nhw’n ei ‘dilyn’, gan ei bod yn hawdd i’w cyrraedd, ac yn fodlon rhannu ei bywyd dyddiol â nhw.
Roedd ein cyfranogwyr ansoddol (defnyddwyr trwm) yn aml yn siarad am fod yn ‘gaeth’ i gyfryngau cymdeithasol – yn enwedig Facebook. Ar y cyfan, dangosodd yr arolwg bod 19% yn methu byw heb gyfryngau cymdeithasol, er bod y ffigwr yma yn tyfu ymysg y rhai hynny yn grwpiau cymdeithasol DE a phobl 16-24 mlwydd oed.
Wnaethom benderfynu profi hyn gyda’n cyfranogwyr yn y cyfweliadau manwl, gan osod sialens iddynt wneud heb gyfryngau cymdeithasol am gyfnod o 48 awr. Roedd rhai wedi wir ddychryn gan y syniad!
Felly a wnaethon nhw ymdopi?
Wel, do, mwy neu lai. Roedd y gofid o fethu allan – a chael ei heithrio – wedi ei brofi i fod yn fwy nac unrhyw beth ddigwyddodd tra oedden nhw oddi arni. Roedd y golau oedd yn ‘wincio’ arnynt ar ei ffôn smart yn ei gwneud yn annioddefol i rai cyfranogwyr ifanc!
Beth am yr elfennau negyddol?
Fe wnaethom hefyd ddarganfod yr ochr mwy sinistr i gyfryngau cymdeithasol trwy ein trafodaethau ansoddol: trafodaethau ar-lein yn troelli allan o reolaeth ac yn gorlifo i’r byd corfforol, gan gynnwys yr ysgol. Mae’r drwydded i fod yn eithafol ar-lein (ac hefyd weithiau i fod yn anhysbys) yn gallu cael effaith dinistriol. Roedd monitro cyfryngau cymdeithasol gan gyflogwyr yn ochr arall negyddol i ambell gyfranogwr – gyda rhai yn dileu cydweithwyr lefel uwch yn syth o’i gwefannau cyfrwng gymdeithasol.
Ar nodyn ysgafnach, mae 81% o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn dangos hunan-ymwybyddiaeth ac yn cytuno bod ‘pobl yn gwastraffu gormod o amser ar wefannau fel hyn’ – ddim yn bell o’r 89% o fobl sydd ddim yn ddefnyddwyr yn cytuno â’r datganiad hwn.
A beth am ryngweithio gyda brandiau / sefydliadau?
Wnaethom gyffwrdd ar y pwnc yma trwy ein ymchwil ansoddol, a darganfod bod cyfranogwyr yn tueddu i gadw golwg allan am fargeinion / hyrwyddiad pan yn rhyngweithio gyda chwmnïau trwy gyfryngau cymdeithasol.
Roedd peth ryngweithio yn ymwneud gyda phrofiad neu wedi ei yrru gan adloniant, er enghraifft gyda bwytai, clybiau, sinema, radio a gweithgareddau hamdden eraill megis opsiynau gwyliau ac adolygiadau. Roedd gan rai fwy o ffocws ar frand nac eraill, yn enwedig o gwmpas ffasiwn lle roedd ymlyniad i’r brand ond eto dymuniad cryf i sicrhau bargen.
Daethom ar draws ambell i achos o ryngweithio rhwng sefydliadau a phobl trwy gyfryngau cymdeithasol a oedd yn adlewyrchu gwerthoedd personol, er enghraifft o amgylch cadwraeth a’r amgylchedd.
Doedd hi ddim mor amlwg ag hynny i’n cyfranogwyr, sut oedd llywodraeth / y sector gyhoeddus yn gallu rhyngweithio gyda hwy trwy gyfryngau cymdeithasol:
Ni wnaeth rhai ymwrthod a’r syniad, wedi’r cyfan, cyfryngau cymdeithasol ydi’r man lle mae cynifer yn cyfathrebu; ac efallai byddai pobl yn cymryd rhan os ydynt yn teimlo’n gryf am y pwnc testun. Ond doedd eraill ddim yn deall pam byddai nhw eisiau rhyngweithio gyda’i Cyngor lleol (gan nodi diffyg diddordeb yn y maes yma) a beth byddai nhw’n ei gael ohono.
Diolch
Hoffwn ddiolch eto i’r holl gleientiaid a ddaeth i’r seminar a sicrhau ei fod wedi gwerthu allan. Gobeithio byddwn yn eich gweld chi oll yn ein digwyddiad nesaf. Diolch hefyd i’r holl gleientiaid roddodd adborth ar y digwyddiad – dyma rai sylwadau isod:
“Roeddwn eisiau dweud fy mod wedi ei gael yn hynod o ddiddorol. Roeddwn yn meddwl ei fod yn dda iawn ac wedi gwneud i mi gysidro rhai pethau am y ffordd orau i symud ymlaen gyda chyfryngau cymdeithasol fel teclyn cyfathrebu. Diolch.”
“Roedd pwnc testun y digwyddiad yn eithriadol o ddiddorol ac yn amserol. Roedd y cyswllt rhwng brandiau a’r ymchwil yn hynod ddiddorol. Rwy’n siŵr bod nifer oedd yn mynychu yn hyrwyddo prosiectau neu yn ymwneud â marchnata, ac mae unrhyw waith ymchwil manwl (meintiol) sydd yn ceisio deall barn pobl am sut mae nhw’n rhyngweithio gyda brandiau trwy wahanol gyfryngau yn ymchwil werth ei chael.”
“Roedd y cyflwyniad yn y digwyddiad yn dda iawn, chyda natur y cynnwys ystadegol yn ei wahaniaethu o unrhyw ddigwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol yr wyf wedi ei mynychu.”
“Wnes i fwynhau fformat y digwyddiad o rannu gwybodaeth unigryw ar wybodaeth pynciol yn fawr iawn mewn dull cryno iawn. . . . Diolch i chi am seminar defnyddiol – byddaf yn ddiolchgar pe baech yn cadw fy manylion ar eich rhestr post ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.”
______________________
Oni bai ein bod wedi cytuno unrhyw ffordd arall, mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn hawlfraint i Beaufort Research Cyf ac ni chaiff ei ddyfynnu, gyhoeddi na’i ail-greu heb ganiatâd y cwmni.
Byddai rhaid i unrhyw gyhoeddiad wedi ei ganiatáu gynnwys y manylion hynl:
- Beaufort Research Cyf fel darparwr gan gynnwys y logo Beaufort
- Maint y sampl
- Dyddiadau’r gwaith maes
Beaufort Research Cyf
2 Museum Place
Caerdydd CF10 3BG
029 20378565
http://www.beaufortresearch.co.uk
Newyddion am y diwydiant
-
18/05/12
Law firm investigates alleged phone sugging by 'polling firm'
- 18/05/12
-
18/05/12
Brands warned to be careful over attempts at customer closeness
- 18/05/12
- 17/05/12
