Mwyafrif yng Nghymru yn credu bod toriadau arian cyhoeddus Llywodraeth y DU yn mynd yn rhy bell

Mae yn agos at un o bob chwech o’r boblogaeth Gymreig (56%) yn credu bod graddfa toriadau arian cyhoeddus sy’n cael ei cyflwyno gan Lywodraeth y DU llawer yn ormod, tra bod ond un o bob pedwar (26%) yn credu ei bod ar y cyfan wedi ei gael yn iawn. Dim ond 6% sy’n credu nad yw’r toriadau yn mynd yn ddigon pell.

Holwyd 1,026 o oedolion dros 16 ledled Cymru y cwestiwn ‘Ydych chi’n credu bod graddfa’r toriadau arian cyhoeddus gan Lywodraeth y DU yn…Llawer yn ormod, iawn ar y cyfan neu ddim yn digon’, yn ystod arolwg Omnibws Cymru diweddaraf Beaufort, a gafwyd ei gynnal yn Mehefin 2011.

Mae pobl sy’n byw yn Ne Orllewin Cymru (hynny yw Abertawe, Port Talbot a Phen-y-bont) a’r Cymoedd (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili a Blaenau Gwent) mwyaf tebygol o deimlo fod toriadau Llywodraeth y DU wedi mynd yn rhy bell (gyda 62% a 61% o drigolion yn yr ardaloedd yma o’r farn hyn), tra bod trigolion Gogledd Cymru yn llai tebygol o fod o’r farn hyn (gyda 49% yn yr ardal hyn yn cytuno ei fod llawer yn ormod).

Mae’r rhai hynny sydd yn y grwpiau economaidd gymdeithasol is, C2DE, hefyd yn fwy tebygol o fod yn anhapus gyda graddfa’r toriadau (59% yn dweud ei fod ‘llawer yn ormod’ o’i gymharu â 51% o grwpiau economaidd gymdeithasol ABC1, hynny yw unigolion mewn swyddi rheoli, proffesiynol a gweinyddol).

Mewn cyferbyniad, mae trigolion yng Ngogledd Cymru ac yng Nghaerdydd a’r De Ddwyrain yn fwy tebygol o deimlo fod y Llywodraeth ar y cyfan wedi llwyddo i gael y toriadau yn iawn (gyda 33% a 30% yn ôl ei trefn o’r farn hyn), o’i gymharu ag ond 15% o drigolion y Cymoedd yn dweud hyn.

Mae’n ddiddorol i nodi bod nifer helaeth o bobl ifanc yn methu ag ateb y cwestiwn yma, gyda 23% o bobl 16-24 mlwydd oed a 19% o bobl 25-34 mlwydd oed yn ateb ‘ddim yn gwybod’, sy’n awgrymu diffyg gwybodaeth o, neu efallai difaterwch at wleidyddiaeth a materion cyfoes.

 

Newyddion am y diwydiant