Mae'r mwyafrif yng Nghymru yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi tablau cynghrair yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau
Mae dros hanner poblogaeth Cymru (55%) yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi tablau cynghrair, yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch, tra bod llai na thraean (32%) yn anghytuno.
Gofynnwyd i 1,018 o oedolion 16 oed neu’n hŷn ledled Cymru ‘A ddylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi tablau cynghrair i ysgolion Cymru yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch eu disgyblion?’, yn ystod Arolwg Omnibws Cymru diweddaraf Beaufort, a gynhaliwyd ym mis Medi 2011.
Yn ddiddorol, roedd yr awydd i gael tablau cynghrair yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau gryfaf ymhlith y rhai sydd â phlant yn eu cartrefi - roedd bron i ddwy ran o dair (65%) o’r rhain yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi tablau cynghrair o’r fath (o gymharu â 50% o’r rhai sydd mewn cartrefi heb blant).
Efallai y gellid disgwyl bod pobl hŷn (65 oed neu’n hŷn) yn llai tebygol o gael barn (ymateb 21% oedd ‘ddim yn gwybod’).
Roedd pobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru (hynny yw, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn) fwyaf tebygol o deimlo y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi tablau cynghrair yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau (gyda 58% o’r trigolion yn yr ardaloedd hyn o’r farn hon), tra mai’r rhai sy’n byw yn y Cymoedd (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent) oedd y lleiaf tebygol o wneud hynny (49%).
Gwelwch sut mae’r Western Mail yn adrodd y stori: http://tinyurl.com/6gfspky
Newyddion am y diwydiant
-
18/05/12
Law firm investigates alleged phone sugging by 'polling firm'
- 18/05/12
-
18/05/12
Brands warned to be careful over attempts at customer closeness
- 18/05/12
- 17/05/12
