Gweithio mewn partneriaeth gydag ysgol lleol i wneud Beaufort yn gwmni fwy gwyrdd
Mae Beaufort yn falch ei bod wedi creu partneriaeth gydag ysgol gynradd lleol Ysgol Gymraeg Pwll Coch http://ysgolpwllcoch.cardiff.sch.uk/ ar brosiect i helpu wneud y cwmni yn fwy cyfeillgar at yr amgylchedd.
Daeth athrawon a disgyblion sydd ar Bwyllgor Eco yr ysgol i ymweld â ni heddiw am y tro cyntaf, ac fe fyddwn yn cwrdd yn rheolaidd dros y misoedd nesaf i rannu syniadau ar fod yn fwy gwyrdd, ac i weithredu ar rhain.
“Roedd yn bleser cael y plant draw yma heddiw” meddai Fiona McAllister, Rheolwr Gyfarwyddwr Beaufort. “Roedd ei brwdfrydedd wedi creu argraff arnom ac rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda’n gilydd ar y prosiect dros y misoedd nesaf. Er ein bod wedi gwneud camau mawr ymlaen ar ein polisïau amgylcheddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae yna o hyd le i wella, ac rydym yn falch o gael helpu Ysgol Gymraeg Pwll Coch ar yr un amser.”
Ymwelodd Beca, Cate, Catrin, Greta a Lily, disgyblion blwyddyn pedwar a phump gyda’u hathrawes, Ms Rebecca James. Dywed Ms James: “Rydym yn hapus iawn gyda Beaufort Research am gymryd pob cyfle i leihau faint o bapur maen nhw’n defnyddio. Mae gofalu am yr amgylchedd yn amlwg yn bwysig iawn i’r cwmni. Edrychwn ymlaen at barhau gyda’n gwaith partneriaeth.”
Newyddion am y diwydiant
-
18/05/12
Law firm investigates alleged phone sugging by 'polling firm'
- 18/05/12
-
18/05/12
Brands warned to be careful over attempts at customer closeness
- 18/05/12
- 17/05/12
