Arolygon Omnibws

Mae arolygon omnibws yn ddull sefydledig
o gynnal ymchwil y farchnad ac ymchwil gymdeithasol.
Fel y mae'r enw'n awgrymu, maent yn galluogi grŵp o
ddefnyddwyr i rannu'r un arolwg, gan fanteisio
ar gostau is.

Mae tanysgrifwyr i wasanaeth omnibws yn ei brynu ar sail faint o gwestiynau maent am ofyn i’r sampl a’r math o gwestiynau.  Yn ymarferol, felly, mae pob tanysgrifiwr yn rhannu’r gost o gyfweld a chostau cyffredinol eraill gyda chyd-gleientiaid. Mae gan bob cleient fynediad i nifer o wahanol gwestiynau demograffig y gellir eu defnyddio i ddarparu is-ddadansoddiad o ganlyniadau.

Mae Beaufort yn cynnal pedwar arolwg Omnibws gwahanol ymysg cynulleidfaoedd gwahanol:

Omnibws Cymru - 1,000 o gyfweliadau ag oedolion 16+ oed yng Nghymru

Omnibws Siaradwyr Cymraeg - 500 o gyfweliadau â Siaradwyr Cymraeg

Omnibws Busnes – 500 o gyfweliadau â busnesau bach a chanolig yng Nghymru

Omnibws Plant – 500 o gyfweliadau â phlant rhwng 7 a 18 oed ledled Cymru

Mae sawl ffordd y gellir defnyddio arolygon Omnibws, ond ymhlith yr enghreifftiau o sut mae cleientiaid wedi defnyddio’r gwasanaethau mae:

  • Mesur ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd cyfathrebu a’u heffaith
  • Fel mesur parhaus o foddhad cwsmeriaid
  • Mesur ymwybyddiaeth o gynnyrch neu wasanaeth, y defnydd ohono ac agweddau tuag ato o gymharu â’r gystadleuaeth
  • Mesur ac tracio ymwybyddiaeth a barn ynghylch hysbysebion
  • Fel mesur hydredol o newidiadau mewn agweddau cymdeithasol
  • Archwilio ymateb i ddeddfwriaeth arfaethedig neu newydd
  • Meintioli hyder busnesau a hydwythedd y farchnad
  • Mesur ymwybyddiaeth o wasanaethau newydd a gynigir a faint sy’n eu defnyddio
  • Mesur faint sy’n cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau cymdeithasol a hamdden
  • Monitro bwriadau o ran pleidleisio