Adam Blunt
Swydd: Cyfarwyddwr Cysylltiedig
Swydd: Cyfarwyddwr CysylltiedigAr ôl treulio dros ddegawd fel ymchwilydd ansoddol, mae Adam wedi cronni cyfoeth o brofiad o ran sectorau a thechnegau ymchwil.
Datblygodd Adam ei grefft ansoddol gyda Reflexions Communication Research, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gyfathrebu sector cyhoeddus / astudiaethau yn gysylltiedig â hysbysebu. Gan ei fod yn awyddus i gael blas ar fywyd mewn asiantaeth fawr, symudodd i NOP (GfK NOP bellach) gan dreulio amser yn yr is-adran Ymchwil Cymdeithasol cyn ymuno â’r is-adran Busnes a Thechnoleg.
Mae arbenigedd Adam yn canolbwyntio ar ymchwil ym maes cyfathrebu, busnes i fusnes, technoleg a phrosiectau sy’n gysylltiedig â threfniadaeth sefydliadau, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle. Mae hefyd yn gwerthuso a gweithredu technegau ymchwil newydd: enillodd Adam Wobr Effeithiolrwydd Ymchwil Busnes MRS/BIG am ei bapur a oedd yn asesu hysbysfyrddau bwletin ar-lein mewn cyd-destun busnes i fusnes, ac a wnaeth ‘gyfraniad pwysig i arfer gorau’.
Y tu allan i’r swyddfa (a thu allan i oriau swyddfa) mae Adam yn meithrin diddordebau newydd yn ogystal â dilyn ei dîm mabwysiedig Dinas Caerdydd: yn ddiweddar sefydlodd glwb ffilmiau ar gyfer Tadau ysgol ac mae wedi ymuno â chynghrair pysgota â phlu lleol.
