Chris Timmins

imageSwydd:Cyfarwyddwr

O siocled i iechyd y genedl, mae gan Chris 14 o flynyddoedd o brofiad eang ei ystod. Mae wedi gweithio fel prynwr a darparwr gwasanaethau ymchwil y farchnad ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Dechreuodd ei yrfa yn Taylor Nelson Sofres (TNS), lle y treuliodd saith mlynedd yn yr is-adrannau Defnyddwyr a Chyfryngau. Mae ei brofiad o ran cleientiaid yn cynnwys cyfnod fel Rheolwr Ymchwil Brand Ewrop i Mars Confectionary ac yn union cyn ymuno â Beaufort bu’n Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso i Gyngor Chwaraeon Cymru. Yn Beaufort, mae Chris yn arwain y gwaith o gynllunio ac adrodd yn ôl ar ymchwil meintiol ad hoc a pharhaus.

Y tu allan i’r gwaith, mae Chris yn ceisio cymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon â phosibl, ond y dyddiau hyn mae’n fwy tebygol o dreulio amser yn rhedeg ar ôl ei ddau blentyn bach nag ar gae pêl-droed.

 
A ydych eisiau deall eich cwsmeriaid yn well?

Gallwn ni helpu


Cysylltu â ni