Fiona McAllister
Swydd: Rheolwr Gyfarwyddwr
Swydd: Rheolwr GyfarwyddwrMae Fiona wedi gweithio ym maes ymchwil a marchnata am fwy o flynyddoedd nag y mae hi am gyfaddef! Mae ganddi brofiad sylweddol o dechnegau ansoddol a meintiol o safbwynt y sector preifat a’r sector cyhoeddus, ac mae ganddi’r dimensiwn ychwanegol o gefndir marchnata cryf.
Dechreuodd ei gyrfa ym maes marchnata, gan weithio ar frand paent Dulux yn ICI ac yna ym maes marchnata manwerthu i BP Oil (y DU), cyn dechrau arbenigo ym maes ymchwil y farchnad. Mae ei phrofiad o ran cleientiaid yn cynnwys pedair blynedd fel Rheolwr Ymchwil i’r RAC, lle’r oedd yn gyfrifol am ymchwil defnyddwyr ac ymchwil busnes i fusnes ar gyfer yr is-adrannau gwasanaethau moduro ac yswiriant. O ran gwaith asiantaeth, cyn ymuno â Beaufort Research yn 2002 treuliodd Fiona chwe blynedd fel Cyfarwyddwr mruk Cymru, yn bennaeth ar swyddfa Caerdydd.
Mae Fiona nawr yn arwain tîm ansoddol Beaufort, yn ogystal â rhedeg y busnes, felly nid oes llawer o amser sbâr ganddi. Pan fo amser ganddi, does dim yn well gan Fiona na gweithio yn ei gardd, gwylio ffilmiau tramor anarferol yn Chapter neu gefnogi tîm pêl-droed Caerdydd ar brynhawn Sadwrn.
