Osian Bowyer

imageSwydd:Uwch Swyddog Ymchwil

O Dwristiaeth i Ddiogelwch ar y ffyrdd, mae Osian wedi gweithio ar bortffolio eang o brosiectau ymchwil, a bellach mae ganddo dros pedair blynedd o brofiad yn darparu ymchwil.

Graddiodd Osian â Gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth a Llywodraeth Cymru o Brifysgol Caerdydd yn 2005, ac mae ganddo ddealltwriaeth drwyadl o amgylchedd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru.  Dechreuodd ei yrfa gyda Beaufort Research ar ddechrau 2006, ac ers hynny mae wedi cymryd rhan mewn llu o brosiectau amrywiol, gan gynnwys boddhad cwsmeriaid, tracio brand ac ymchwil ansoddol. Mae Osian yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o redeg prosiectau o ddydd i ddydd.

Y tu allan i’r gwaith, mae Osian yn treulio llawer o’i amser yn canu ac mae’n aelod gweithgar o gorau Cordydd a Bechgyn Bro Taf yng Nghaerdydd, ac mae hefyd yn chwarae Criced (os yw’r tywydd yn caniatáu) yn ystod yr haf.

 
A ydych eisiau deall eich cwsmeriaid yn well?

Gallwn ni helpu


Cysylltu â ni