Owen Knight
Swydd: Cyfarwyddwr Cysylltiedig
Swydd: Cyfarwyddwr CysylltiedigAr ôl graddio o Brifysgol Caerdydd yn 2001, ymunodd Owen â Beaufort fel Swyddog Ymchwil dan Hyfforddiant. Ers hynny mae Owen wedi dyrchafu’n gyflym drwy’r rhengoedd i’w swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Cysylltiedig.
Mae Owen yn gyfrifol am gynllunio, rheoli ac adrodd yn ôl ar prosiectau ymchwil ad hoc a pharhaus. Yn sgîl gweithio gydag ystod eang ac amrywiol o gleientiaid, o S.A. Brain & Co. Ltd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Owen yn ymchwilydd medrus sy’n arbenigo mewn technegau ymchwil meintiol.
Pan nad yw yn Beaufort, mae Owen yn treulio llawer o’i amser yn beicio mynydd, gan fanteisio i’r eithaf ar fynyddoedd a choedwigoedd De Cymru.
