Sarah McDonough

imageSwydd: Uwch Swyddog Ymchwil

Mae gan Sarah 12 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes ymchwil, gan weithio gyda chleientiaid ac asiantaethau. Mae ei phrofiad yn cynnwys technegau ymchwil meintiol ac ansoddol a dadansoddi busnes.

Ar ôl graddio mewn Seicoleg o Brifysgol Caerdydd, dechreuodd Sarah ei gyrfa ym maes ymchwil gydag asiantaethau, lle y gweithiodd ar brosiectau ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Yna symudodd i Nottingham Building Society lle bu’n Rheolwr Ymchwil i’r Farchnad a Dadansoddwr Busnes am bum mlynedd. Mae ei phrofiad hefyd yn cynnwys amser fel Swyddog Ymgynghoriadau mewn llywodraeth leol, cyn dychwelyd i waith asiantaeth pan ymunodd â’r tîm yn Beaufort yn 2007.

Yn ei hamser sbâr mae Sarah yn ddarllenwr brwd, ac mae’n cwrdd â’i grŵp darllen lleol yn rheolaidd i drafod gweithiau ffuglen cyfoes.

 
A ydych eisiau deall eich cwsmeriaid yn well?

Gallwn ni helpu


Cysylltu â ni