Sylw gan y cyfryngau ar 'brinder tanwydd' yn cael effaith negyddol ar draean o fusnesau Cymru
Nododd arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Beaufort Research ar ran Croeso Cymru fod bron i draean (31%) o fusnesau twristiaeth o'r farn bod yr adroddiadau diweddar yn y cyfryngau am 'brinder tanwydd' wedi cael effaith negyddol ar eu busnes.
Nododd ychydig dros hanner (56%) na welwyd unrhyw effaith a dim ond 2% a nododd effaith gadarnhaol ar eu busnes. Y busnesau hynny yng Nghanolbarth Cymru oedd fwyaf tebygol o fod wedi nodi effaith negyddol gyda dros ddau bumed (43%) yn gwneud hynny, o gymharu â’r rhai yn Ne Ddwyrain Cymru (17% a nododd effaith negyddol).
Roedd prisiau tanwydd uchel hefyd yn rheswm gan un o bob deg o fusnesau dros lai o westeion / ymwelwyr y Pasg hwn o gymharu â’r Pasg yn 2011. Ac er nad yw rhai busnesau wedi nodi newid yn niferoedd eu cwsmeriaid, maent wedi nodi newid ym mhroffil y cwsmeriaid, gyda mwy o gwsmeriaid lleol o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Roedd yr arolwg hefyd yn archwilio i gymhellion ymhlith busnesau twristiaeth. Ar draws Cymru, roedd dros ddau bumed (44%) o fusnesau yn defnyddio cymhellion fel prisiau is neu gynigion arbennig i ddenu mwy o gwsmeriaid. Busnesau ym maes llety â gwasanaeth yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gynnig cymhellion gydag ychydig dros hanner (51%) yn gwneud hynny, o gymharu ag atyniadau lle roedd ychydig dros hanner (34%) yn cynnig cymhellion.
Dull ymchwilio: Cysylltwyd â 606 o fusnesau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ledled Cymru fel rhan o Arolwg Twristiaeth Busnes Croeso Cymru ar 23ain a’r 24ain Ebrill 2012. Pennwyd cwotâu ar y math o fusnes (atyniad, math o lety) yn ogystal â rhanbarth.
I ddarllen erthygl y BBC cliciwch yma: http://tinyurl.com/cghacxj
