Y tîm

Mae tîm gweithredol Beaufort yn cynnwys cyfuniad
oymchwilwyr sydd wedi gweithio yn y sector
cyhoeddus a'r sector preifat ac mewn asiantaethau a
sefydliadau sy'n ymwneud â chleientiaid.

Yn gefn iddynt mae staff cymorth a thechnegol
medrus a thîm maes helaeth.

 

Tîm maes
Mae gennym dîm maes ledled y DU sydd â chryfder arbennig yng Nghymru. Trefnir gwaith maes gan ein Rheolwr Maes drwy oruchwylwyr rhanbarthol ledled y wlad. Mae ein cyfwelwyr yn brofiadol a thrylwyr ac wedi arfer delio ag amrywiaeth o arolygon. Rydym yn cynnal profion penodol i sicrhau bod safonau ansawdd uchel yn cael eu cynnal.

Yng Nghymru, gallwn gynnig tîm o gyfwelwyr sy’n siarad Cymraeg, sydd â phrofiad o weinyddu arolygon dwyieithog.