Ystod ein gwasanaethau
Mae Beaufort yn cynnig gwasanaeth ymchwil feintiol ac ansoddol i’n cleientiaid gan ddefnyddio ystod eang o fethodolegau a’r dulliau casglu data diweddaraf. Byddwn bob amser yn cynllunio’r ateb mwyaf priodol i ddiwallu anghenion bob cleient, fel nad yw unrhyw ddau brosiect yr un fath. Gallwn ddarparu gwasanaeth ymchwil llawn, o’r cam dylunio prosiect i’r adroddiad, neu wasanaeth maes a thab, yn dibynnu ar ofynion cleientiaid.
O ran arolygon meintiol, rydym yn cynnig technolegau CAPI (Cyfweliadau Personol â Chymorth Cyfrifiadur), CATI (Cyfweliadau Ffôn â Chymorth Cyfrifiadur), a CAWI (Cyfweliadau Gwe â Chymorth Cyfrifiadur). Rydym hefyd yn awyddus i ddefnyddio technolegau a dulliau newydd o gyflawni gwaith ansoddol fel grwpiau ffocws byrddau bwletin, lle gall y rhain ychwanegu gwerth at brosiect.
Meintiol
Mae gan ein tîm gweithredol brofiad helaeth ym maes dylunio holiaduron a gall ddarparu holiaduron clir, eglur, ystyrlon a pherthnasol. Mae gennym hefyd lawer o brofiad o lunio samplau ac rydym yn gyfarwydd â thechnegau cwota a samplu ar hap. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu cyflwyniadau sy’n rhoi cyfarwyddyd clir i gleientiaid, a llunio argymhellion eglur y gellir gweithredu arnynt mewn adroddiadau.
Cynhelir pob elfen o’r prosiectau meintiol hyn yn fewnol, gan gynnwys casglu a nodi data, a thrwy hynny sicrhau’r ansawdd gorau.
Ansoddol
Mae gan Beaufort dîm o ymchwilwyr ansoddol hynod o fedrus, gyda phrofiad helaeth o ddarparu ein cleientiaid gyda chyfoeth o wybodaeth sy’n ei helpu i wneud penderfyniadau gwybodus. Ategir y tîm hwn yn ôl yr angen gan ambell gyswllt ansoddol, y mae gennym gydberthynas hir sefydlog â hwy. Mae ein tîm ansoddol yn cynnwys cymedrolwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg.
Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddarparu casgliadau ac argymelliadau ymarferol pan yn adrodd yn ôl - yn hytrach na dim ond cynnig canfyddiadau naratif – gyda chanlyniadau wedi ei seilio ar ddehongliad trylwyr.
I helpu i gyflawni’r ddealltwriaeth hon ar ddiwedd y prosiect, mae’n hanfodol gofyn y cwestiynau cywir yn ystod y gwaith maes. Rydym yn meithrin technegau alldaflol, o ddylunio’r sampl at dechnegau trafodaeth sy’n ein galluogi i gael dealltwriaeth ddyfnach yn lle gofyn cwestiynau uniongyrchol. Rydym hefyd yn edrych yn bellach na dim ond beth mae cyfranogwyr yn ei ddweud wrthym, ac yn ystyried y cyd-destun, beth rydym wedi ei arsylwi, iaith a ddefnyddiwyd a gweithgareddau eraill pan yn dadansoddi.
Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod ein cyflwyniadau PowerPoint yn cael eu haddasu i’r gynulleidfa a’i gofynion o ran amser, ffocws a chanlyniad, a hefyd bod canlyniadau yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n ysgogi pobl i feddwl ac i weithredu.
Gwasanaethau Meintiol
- Cyfweliadau wyneb yn wyneb (CAPI / papur a pen): gartref, yn y stryd, mewn neuadd neu gyfweliadau wrth adael
- Cyfweliadau dros y ffôn (CATI)
- Holiaduron hunan-gwblhau: (drwy’r post neu ar-lein / CAWI)
- Grwpiau ffocws
- Grwpiau bach
- Cyfweliadau manwl
- Ar-lein
- Ymchwil ystyriol
- Gweithdai neu fforymau
- Panel
- Arsylwi
- Technegau ethnograffig
Rydym hefyd yn cynnal pedwar arolwg Omnibws unigryw yng Nghymru o blith samplau cynrychiadol o oedolion, siaradwyr Cymraeg, plant a phobl ifanc a busnesau.
Gwasanaethau Ansoddol
