Ymrwymiad i ansawdd
Mae Beaufort o ddifrif am ansawdd, ac wedi cyrraedd achrediad ISO20252. Hwn yw’r safon ansawdd diwydiant mwyaf cynhwysfawr sydd yn weithredol trwy holl agweddau ein busnes a thrwy phob rhan o brosiect, o waith maes hyd at adrodd yn ôl.
Gofynion ISO20252
- Mae’n rhaid i bob cyfwelydd wyneb yn wyneb newydd gael deuddydd o hyfforddiant gan oruchwylydd maes Beaufort, neu hyfforddiant undydd os yw eisoes wedi’i hyfforddi hyd at safonau ‘r diwydiant. Caiff cyfwelwyr newydd Lawlyfr Cyfwelwyr Beaufort, sef llawlyfr cynhwysfawr sy’n disgrifio pob agwedd ar arfer gorau ar gyfer casglu data a gweithgareddau Beaufort sy’n ymwneud â hyn.
- Ar ôl yr hyfforddiant bydd goruchwylwyr yn cadw cwmni i’r cyfwelydd ar ei aseiniad cyntaf. Mae pob cyfwelydd yn cael ei ardystio’n rheolaidd trwy oruchwyliaeth ac adolygiad ffurfiol. Ardystir cyfwelwyr yn rheolaidd ddwywaith y flwyddyn i fonitro ansawdd ac amlygu meysydd ar gyfer ail-hyfforddi yn ôl yr angen.
- Caiff gwaith maes ei ddilysu drwy “ôl-wirio” - cysylltir eto ag o leiaf 10% o’r holl ymatebwyr a gofynnir cyfres o gwestiynau rheoli ansawdd iddynt yn ymwneud â’r gwaith o weinyddu’r holiadur a phroffesiynoldeb y cyfwelydd.
- Caiff canlyniadau’r gweithdrefnau dilysu hyn eu bwydo i system gyfrifiadurol gwaith maes ganolog Beaufort sy’n olrhain perfformiad pob cyfwelydd. Mae’r system yn nodi unrhyw broblemau posibl yn gynnar, drwy amlygu’r angen i ail-hyfforddi neu eithrio cyfwelwyr penodol. Drwy ddefnyddio’r gweithdrefnau hyn, rydym wedi gallu ffurfio tîm cryf o gyfwelwyr proffesiynol.
- Mae Beaufort hefyd yn dilysu gwaith codio a chofnodi data yn unol â chanllawiau ISO20252. Caiff holiaduron eu hail-godio a’u hail-daro a chaiff unrhyw anghysondebau yn y ffeil wreiddiol eu harchwilio a’u cywiro.
Rydym yn monitro ein perfformiad yn barhaus ac yn cael eu harchwilio’n rheolaidd i sicrhau bod yr holl weithdrefnau yn cael eu dilyn yn gywir a’n bod yn parhau i weithredu i’r safonau uchaf.
Mae pob aelod gweithredol o staff Beaufort yn aelodau o Gymdeithas Ymchwil y Farchnad (MRS) ac felly’n cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad yn yr holl ymchwil a gynhelir.
Mae Beaufort yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth Diogelu Data ac mae’n aelod o Gynllun Partneriaid Cwmni’r Gymdeithas Ymchwil y Farchnad (sydd wedi disodli’r BMRA neu Gymdeithas Ymchwil y Farchnad Prydain). Drwy fod yn Bartner Cwmni MRS, rydym yn ymrwymedig i gynnal safonau’r diwydiant a chydymffurfio â hunanreoleiddio.
