Ffocws ar Gymru

Lleolir Beaufort yng Nghymru ac mae ein ffocws bennaf ar Gymru, gyda thua 80% o’r ymchwil a gynhelir yn cael ei wneud â dimensiwn Cymreig. Rydym felly’n rhoi safbwynt unigryw ar Gymru a materion sy’n ymwneud â diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Er hyn nid ydym yn blwyfol nac yn gyfyngedig i Gymru - mae gennym dîm maes ar draws y DU ac yn aml rydym yn cynnal prosiectau ledled y DU.

Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg yn aml yn hanfodol i lwyddiant ymchwil yng Nghymru, lle mae dros un o bob pump o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg (ac mae’r ganran hon yn codi gyda’r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg).  Hefyd, mae dealltwriaeth o safbwynt Cymreig a diwylliant Cymru yn aml yn bwysig ar gyfer dehongli canlyniadau ymchwil.

Rydym yn darparu gwasanaeth ymchwil dwyieithog a Chymraeg yn ddidrafferth i gleientiaid yn ôl yr angen. Nid ydym ond yn cytuno â’r cysyniad o gynnal ymchwil yn Gymraeg - yn wir, ymchwil yn y Gymraeg yw un o’n prif gryfderau.

Tra bod yn rhaid i gwmnïau ymchwil eraill is-gontractio agweddau ar brosiectau Cymraeg, gan arwain at golli rheolaeth ac effaith andwyol ar ansawdd yn aml, gallwn gynnal pob elfen o brosiectau Cymraeg yn fewnol, gan ddefnyddio ein staff ymchwil proffesiynol ein hun. 

Mae gennym nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg rhugl yn gweithio ar bob lefel drwy ein cwmni (gan gynnwys hanner ein tîm gweithredol) ac felly rydym o’r farn bod ehangder a dyfnder ein hadnodd ymchwil Gymraeg heb ei ail.

Rydym yn falch o’n hanes a’n henw da o ran ymchwil Gymraeg ar gyfer ystod eang o gleientiaid. Dyma rai enghreifftiau o brosiectau ymchwil Cymraeg neu ddwyieithog:

Arolygon Darlledu Siaradwyr Cymraeg (i BBC Cymru)
Arolygon blynyddol o gartrefi dwyieithog o dros 1,300 o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru yn archwilio’r defnydd o’r cyfryngau ac agweddau tuag atynt.

Byw Bywyd drwy Gyfrwng y Gymraeg (i S4C, BBC Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru)

Astudiaeth o’r Sîn Gerddorol Gymraeg (i S4C)
Astudiaeth ansoddol yn cynnwys grwpiau ffocws Cymraeg yn bennaf ymhlith pobl sydd yn mwynhau cerddoriaeth yn archwilio agweddau tuag at gerddoriaeth Gymraeg.

Astudiaeth Sgiliau Siaradwyr Cymraeg (i Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru)
Arolwg meintiol mewnol pwysig yn cynnwys tua 1,400 o gyfweliadau wyneb yn wyneb yn Gymraeg gydag oedolion Cymraeg eu hiaith, gan asesu sgiliau darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.


 

Arolygon omnibws

Mae arolygon omnibws yn ddull sefydledig o gynnal ymchwil i’r farchnad ac ymchwil gymdeithasol.  Fel y mae’r enw’n awgrymu, maent yn galluogi grŵp o ddefnyddwyr i rannu’r broses arolygu, gan fanteisio ar gostau is.


A ydych eisiau deall eich cwsmeriaid yn well?

Gallwn ni helpu


Cysylltu â ni