Ansawdd ein tîm
Mae Beaufort yn ymrwymedig i ddarparu ymchwil o’r radd flaenaf i’n cleientiaid ac mae gan ein tîm y wybodaeth, y brwdfrydedd a’r profiad i ddarparu atebion ymchwil cost-effeithiol i gyfateb i anghenion gwybodaeth cleientiaid. Rydym hefyd yn gyfeillgar, croesawgar ac mae’n braf gweithio gyda ni!
Mae ein staff yn weithwyr ymchwil proffesiynol sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant o ochr yr asiantaeth ac ochr y cleient, gan roi cryfderau arbennig iddynt mewn sectorau penodol. Mae’r rhan fwyaf o’n swyddogion gweithredol yn arbenigo mewn technegau ansoddol neu feintiol, er bod rhai yn arbenigo yn y ddau. Mae cyfarwyddwyr yn rhoi llawer o fewnbwn i bob prosiect a gynhelir gennym - mae ein cyfarwyddwyr yn gwneud mwy na dim ond ysgrifennu cynigion; maent yn rhan o’r broses gyfan.
Mae pob un o’n swyddogion gweithredol yn aelodau o Gymdeithas Ymchwil y Farchnad, felly mae’r Cod Ymddygiad yn ganolog i’r holl waith a wnawn. Mae nifer yn aelodau o’r Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol (SRA) neu gyrff proffesiynol neu ymchwil eraill hefyd.
I gefnogi ein tîm mewnol, rydym wedi meithrin cydberthnasau gwaith agos ag arbenigwyr sy’n dod o ddiwydiant a’r byd academaidd, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o feysydd fel llywodraeth leol, tai a thrafnidiaeth. Rydym yn gweithio gyda’r partneriaid hyn pan fydd angen sgiliau sector penodol arnom a phan fydd yn helpu i roi dealltwriaeth well i’n cleientiaid.
