Cryfder a dyfnder ein hadnodd ymchwilio

Mae Beaufort yn cynnig tîm maes llawn ar draws y DU, sy’n golygu y gallwn ddelio ag arolygon mawr a gynhelir ledled y DU heb drafferth, ond sy’n arbennig o gryf yng Nghymru. Yng Nghymru, mae gennym dîm mawr o gyfwelwyr sy’n gweithio’n rheolaidd ar ein haseiniadau, gan gynnwys rhai a hyfforddir yn benodol i ddelio â phrosiectau CAPI.  Gwnaethom lansio CAPI (Cyfweliadau Personol â Chymorth Cyfrifiadur) yn 2007 ar gyfer arolygon yn y cartref a chredwn fod gennym yr adnodd CAPI cryfaf o blith unrhyw asiantaeth yng Nghymru.

Mae’r tîm yn cynnwys nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl sydd wedi arfer delio ag arolygon dwyieithog a hefyd nifer o recriwtiaid Cymraeg eu hiaith profiadol ar gyfer prosiectau ansoddol. Mae gennym dîm digon mawr yng Nghymru i gwmpasu pob rhan o’r wlad (hyd yn oed yr ardaloedd mwyaf gwledig) a phob grŵp yn y boblogaeth, hyd yn oed grwpiau ‘anodd i’w cyrraedd’.

Trefnir gwaith maes gan ein Rheolwr Maes drwy rwydwaith o oruchwylwyr rhanbarthol ledled y DU.  Mae ein cyfwelwyr yn brofiadol a thrylwyr ac wedi arfer delio ag aseiniadau arolwg cymhleth.  Rydym yn cynnal gwiriadau penodol i sicrhau bod safonau ansawdd uchel yn cael eu cynnal, fel rhan o’n hachrediad ISO20252.

Mae angen prosesu data trylwyr a chywir er mwyn llunio adroddiadau llwyddiannus. Cynhelir holl waith prosesu data Beaufort yn fewnol gan ein tîm paratoi a phrosesu data profiadol, dan arweiniad ein Rheolwr Paratoi Data ac mae’n gyfrifol am olygu data, cofnodi data, codio a’r holl allbwn data.
Rydym hefyd yn dadansoddi’r holl ddata yn fewnol, gan ddefnyddio ein tîm o ddadansoddwyr ymchwil profiadol iawn.

Rydym hefyd yn gweithredu uned ymchwil CATI (Cyfweliadau Ffôn â Chymorth Cyfrifiadur) pwrpasol yn ein pencadlys yng Nghaerdydd. Mae cynnal yr holl gyfweliadau yng Nghymru yn cyflwyno’r manteision canlynol:

  • Gallwn gynnig dewis o gyfweliadau Cymraeg neu Saesneg i bawb sy’n ymateb, gan fod gennym nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl yn gweithio fel rhan o’n tîm cyfweld.
  • Gall cleientiaid yng Nghymru fynd i’r ganolfan alwadau i wrando ar alwadau, a chlywed barn defnyddwyr ar eu sefydliad a’i wasanaethau.
  • Hefyd, mae gennym lawer mwy o reolaeth dros ansawdd y gwaith maes a gellir delio ag unrhyw ymholiadau neu broblemau ar unwaith ac yn bersonol, gan fod swyddogion gweithredol y prosiect wedi’u lleoli yn yr un adeilad.

 
A ydych eisiau deall eich cwsmeriaid yn well?

Gallwn ni helpu


Cysylltu â ni