Beaufort Research LimitedTelerau ac Amodau ar gyfer Cyflenwi Gwasanaeth

Tynnwyd sylw’r Cwsmer at gymal 8 (Cyfyngu ar Atebolrwydd)


1. DEHONGLI

Mae’r diffiniadau a rheolau dehongli canlynol yn berthnasol yn yr Amodau hyn.

1.1 Diffiniadau:

Dyfynbris a Dderbyniwyd: ystyrhyn yw’r Dyfynbris a dderbyniwyd gan y Cwsmer yn unol â chymal 2.3.
Cyhoeddiad Diwygiedig: mae’rystyr fel a nodir yng nghymal 4.1.6.
Diwrnod Busnes:
diwrnod heblaw am ddyddSadwrn, dydd Sul neu ŵyl y banc yng Nghymru a Lloegr, pan fo banciau yn Lloegrar agor ar gyfer busnes.
Taliadau: y taliadau sy’n daladwy gan yCwsmer am gyflenwi’r Gwasanaethau, fel a nodir yn y Dyfynbris a Dderbyniwydsy’n berthnasol.
CY: CodYmddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad, fel y’i diwedderir o bryd i’wgilydd.
Dyddiad Cychwyn: mae’r ystyr fel a nodiryng nghymal 2.3.
Amodau: y telerau ac amodau hyn, fel y’idiwygir o bryd i’r gilydd yn unol â chymal 10.5.
Contract: y contract rhwng y Cyflenwr a’rCwsmer ar gyfer cyflenwi Gwasanaethau, sy’n cynnwys y Dyfynbris a Dderbyniwyd,a’r Amodau hyn.
Cydsyniad: mae hyn yn golygu dynodiad penodol, gwybodus a diamwys a roddwyd yn rhydd(fel y’i dehonglir yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data) trwy ddatganiad neudrwy weithred gadarnhau eglur, lle mae’r Testun Data perthnasol wedi cytuno â’rdatgeliad(au) perthnasol a/neu â Phrosesu’r Data Personol a Rannwyd sy’nymwneud â hwy, nas tynnwyd yn ôl. I’r graddau y mae’r Data Personol a Rannwydsy’n berthnasol yn Ddata Personol Categori Arbennig, dylid darllen y diffiniadhwn fel pe bai’r gair ‘diamwys’ uchod yn golygu ‘diamwys a phenodol’.
Cwsmer: y person neu’r cwmni sy’n prynuGwasanaethau gan y Cyflenwr dan y Contract, fel a nodir yn y Dyfynbris aDderbyniwyd sy’n berthnasol.
Diffyg gan y Cwsmer: fel a ddiffinnir yng nghymal 4.3.
Deunyddiau’r Cwsmer: yr holl ddeunyddiau,lluniadau, manylebau a data sydd i’w cyflenwi gan y Cwsmer i’r Cyflenwr argyfer perfformio’r Gwasanaethau (os o gwbl).
Deddfwriaeth Diogelu Data: yr holl ddeddfwriaeth diogelu data a phreifatrwyddberthnasol sydd mewn grym o bryd i’w gilydd yn y DU gan gynnwys GDPR y DU;Deddf Diogelu Data 2018 (DDD 2018); a Rheoliadau Preifatrwydd a ChyfathrebiadauElectronig 2003 (SI 2003 Rhif 2426) fel y’u diwygiwyd. Bydd i’r termau
DataPersonol, Achos o Danseilio Data Personol, Testun Data, Rheolydd,Cyd-reolydd, Prosesu, Prosesydd, Data Personol Categori Arbennig yrystyr a ddiffinnir yn y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Canlyniadau: yr holl wybodaeth achanfyddiadau sydd i’w casglu ac y bydd adroddiad yn cael ei lunio arnynt gan yCyflenwr neu ei asiantau, is-gontractwyr a phersonél fel rhan o'r Gwasanaethauneu mewn perthynas â hwy ar unrhyw ffurf, gan gynnwys heb gyfyngiad rhaglenni cyfrifiadurol,data, adroddiadau a manylebau (gan gynnwys drafftiau) fel a nodir yn yDyfynbris a Dderbyniwyd sy’n berthnasol.
HED y Canlyniadau: yr holl Hawliau Eiddo Deallusol ac eithrio HawliauMoesol mewn Canlyniadau, sy’n bodoli yn y Canlyniadau.
Cyhoeddiad Drafft: mae’r ystyr fel a nodir yng nghymal 4.1.6.
Hawliau Eiddo Deallusol: patentau, modelau defnydd,hawliau i ddyfeisiau, hawlfraint a hawliau cyfagos a chysylltiedig, hawliaumoesol, nodau masnach a nodau gwasanaeth, enwau busnes ac enwau parth, hawliaumewn diwyg a golwg fasnach, ewyllys da a’r hawl i siwio am ymhonni neugystadleuaeth annheg, hawliau mewn dyluniadau, hawliau mewn meddalweddcyfrifiadurol, hawliau cronfeydd data, hawliau i ddefnyddio, a diogelucyfrinachedd, gwybodaeth gyfrinachol (gan gynnwys gwybodaeth ymarferol arbenniga chyfrinachau masnach) a’r holl hawliau eiddo deallusol eraill, ym mhob achospa un a ydynt wedi’u cofrestru neu heb eu cofrestru a chan gynnwys yr hollgeisiadau am, a hawliau i ymgeisio am a chael, adnewyddiadau neu estyniadau i,a hawliau i hawlio blaenoriaeth o, hawliau o'r fath a’r holl hawliau tebyg neugyfwerth neu fathau o ddiogeliad sy’n bodoli neu a fydd yn bodoli yn awr neu yny dyfodol mewn unrhyw ran o’r byd.
Hawliau Moesol mewn Canlyniad: hawliau’r Cyflenwr i gaelei enwi fel awdur y Canlyniadau a’r hawliau i wrthwynebu trin y Canlyniadau’n niweidiol.  
Dyfynbris: mae hyn yn golygu’rdyfynbris ysgrifenedig sy’n nodi’r Gwasanaethau, y Canlyniadau a’r Taliadau,fel y’i ddyroddwyd gan y Cyflenwr i’r Cwsmer yn unol â chymal 2.1 a chymal 2.2ac y gall gael ei dderbyn gan y Cwsmer yn unol â chymal 2.3.
Gwasanaethau: y gwasanaethau, gangynnwys heb gyfyngiad unrhyw Ganlyniadau, sydd i’w darparu gan y Cyflenwr ynunol â’r Contract, fel a ddisgrifir yn y Dyfynbris a Dderbyniwyd sy’nberthnasol.
Cyflenwr: Beaufort Research Limited aymgorfforwyd yng Nghymru a Lloegr â’r rhif cwmni 01929917 y mae cyfeiriad eiswyddfa gofrestredig yn Tudor House, 16 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, Y DeyrnasUnedig, CF11 9LJ.
Dyddiad Cychwyn y Gwasanaethau: y diwrnod pan ddylai’rCyflenwr ddechrau darparu’r Gwasanaethau, fel a nodir yn y Dyfynbris aDderbyniwyd.
GDPR y DU: mae i hyn yr ystyr a roddwyd iddo yn adran 3(10) (fel yr ychwanegwyd atigan adran 205(4)) Deddf Diogelu Data 2018.
1.1       Dehongli:
1.1.1        Mae cyfeiriad at ddeddfwriaeth neu ddarpariaethddeddfwriaethol:
1.1.1.1  yn gyfeiriad ati fel yroedd mewn grym ar ddyddiad y Contract hwn; ac
1.1.1.2    yn cynnwys yr holl is-ddeddfwriaeth a oedd wedi cael eigwneud ar ddyddiad y Contract hwn dan y ddeddfwriaeth neu’r ddarpariaethddeddfwriaethol honno.
1.1.2        Dylai unrhyw eiriau sy’n dilyn y termau gan gynnwys,yn cynnwys neu unrhyw ymadrodd tebyg gael eu dehongli fel rhai enghreifftiolac ni ddylent gyfyngu ar ystyr y geiriau, y disgrifiad, y diffiniad, y frawddegneu’r term sy’n rhagflaenu’r termau hynny.Nid yw cyfeiriad at ysgrifennu neu ysgrifenedigyn cynnwys ffacs ond mae’n cynnwys e-bost, oni nodir yn wahanol yn y ddogfenhon.



2. SAIL Y CONTRACT

2.1 Mae’r Dyfynbris yn gyfystyr â chynnig gan y Cyflenwr i ddarparu Gwasanaethau ar gyfer y Cwsmer yn unol â’r Amodau hyn.
2.2
Bydd unrhyw Ddyfynbris a ddarparwyd gan y Cyflenwr yn aros mewn grym ac yn un y gall y Cwsmer ei dderbyn am gyfnod o 1 mis calendr o’r dyddiad pan ddanfonir y Dyfynbris at y Cwsmer, ac ar ôl hynny bydd yn mynd yn ddi-rym yn awtomatig ac yn cael ei dynnu’n ôl.
2.3 Ni fyddir ond yn ystyried bod y Dyfynbris wedi cael ei dderbyn gan y Cwsmer pan fo’r Cwsmer naill ai’n danfon cadarnhad ysgrifenedig o dderbyn y Dyfynbris at y Cyflenwr, neu’n cyflenwi rhif archeb brynu ysgrifenedig. Ar naill ai dyddiad (i) cadarnhad ysgrifenedig y Cwsmer o dderbyn y Dyfynbris neu (ii) danfon y rhif archeb brynu at y Cyflenwr, pa un bynnag yw’r cynharaf, bydd y Dyfynbris yn dod yn Ddyfynbris a Dderbyniwyd a bydd y Contract yn dod i fodolaeth (Dyddiad Cychwyn).
2.4 Os oes gwrthdaro neu amwysedd rhwng Dyfynbris a Dderbyniwyd, a’r Amodau hyn, y Dyfynbris a Dderbyniwyd fydd drechaf a hynny i’r graddau y ceir y gwrthdaro neu’r amwysedd yn unig.



3. CYFLENWI GWASANAETHAU

3.1 Bydd y Cyflenwr yn cyflenwi’r Gwasanaethau i’r Cwsmer o Ddyddiad Cychwyn y Gwasanaethau yn unol â'r Dyfynbris a Dderbyniwyd, a'r CY. Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y Contract hwn a’r CY, y CY fydd drechaf i’r graddau y ceir y gwrthdaro yn unig. Ceidw’r Cyflenwr yr hawl i ddiwygio’r Contract i’r graddau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r CY ac unrhyw ofyniad rheoleiddiol arall, a bydd y Cyflenwr yn hysbysu’r Cwsmer os digwydd hynny.
3.2 Wrth gyflenwi’r Gwasanaethau, bydd y Cyflenwr:
3.2.1 yn perfformio’r Gwasanaethau â gofal a sgil rhesymol;
3.2.2 yn defnyddio ymdrechion rhesymol i berfformio’r Gwasanaethau yn unol â’r disgrifiad o’r gwasanaeth a nodir yn y Dyfynbris a Dderbyniwyd;
3.2.3 yn sicrhau bod y Canlyniadau o ansawdd boddhaol;
3.2.4 ar yr amod na fydd y Cyflenwr yn atebol dan y Contract os, o ganlyniad i gydymffurfio o’r fath dan y cymal hwn, sef 3.2.4, yw wedi torri unrhyw un neu rai o’i rwymedigaethau dan y Contract, yn cydymffurfio â’r:
3.2.4.1 holl ddeddfau, statudau, rheoliadau sydd mewn grym o bryd i’w gilydd; ac
3.2.4.2 unrhyw bolisïau y mae’r Cwsmer yn gofyn am, ac y mae’r Cyflenwr yn cytuno i, gydymffurfio â hwy; a
3.2.5 yn cymryd gofal rhesymol am holl Ddeunyddiau’r Cwsmer sydd yn ei feddiant ac yn trefnu eu bod ar gael i’w casglu gan y Cwsmer pan roddir rhybudd a chais rhesymol, bob amser ar yr amod y gall y Cyflenwr ddinistrio Deunyddiau'r Cwsmer os yw’r Cwsmer yn methu â chasglu Deunyddiau’r Cwsmer o fewn cyfnod rhesymol ar ôl terfynu’r Contract.



4. RHWYMEDIGAETHAU’R CWSMER

4.1 Bydd y Cwsmer:
4.1.1 yn sicrhau bod telerau’r Dyfynbris yn gyflawn ac yn gywir cyn derbyn y Dyfynbris;
4.1.2 yn cydweithredu gyda’r Cyflenwr ym mhob mater sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau;
4.1.3 yn darparu, mewn modd amserol, pa bynnag wybodaeth y bydd y Cyflenwr yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol ei darparu, ac yn sicrhau ei bod yn gywir ac yn gyflawn ym mhob ffordd berthnasol;
4.1.4 yn cael a chynnal yr holl drwyddedau, caniatadau a chydsyniadau angenrheidiol a all fod yn ofynnol ar gyfer y Gwasanaethau cyn Dyddiad Cychwyn y Gwasanaeth;
4.1.5   yn sicrhau bod holl fanylion maint sampl yr arolwg, dull yr arolwg a dyddiadau gwaith maes y Canlyniadau (fel y bo’n berthnasol) yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gyhoeddiad (gan gynnwys dyfyniadau ac adroddiadau) sy’n ymgorffori’r Canlyniad; ac
4.1.6 yn anfon at y Cyflenwr unrhyw ddeunydd y mae’n bwriadu ei gyhoeddi sy’n ymgorffori unrhyw ran o’r Canlyniadau (Cyhoeddiad Drafft), o leiaf 10 Niwrnod Busnes cyn y dyddiad y mae’n dymuno cyhoeddi’r Cyhoeddiad Drafft. Os yw’r Cyflenwr yn rhesymol yn ystyried bod y Cyhoeddiad Drafft yn anghywir neu’n gamarweiniol ynghylch ei ddefnydd o’r Canlyniadau, bydd y Cyflenwr yn diwygio’r Cyhoeddiad Drafft i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol i sicrhau ei fod yn gywir i’r Canlyniadau (Cyhoeddiad Diwygiedig) ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwsmer gyhoeddi’r Cyhoeddiad Diwygiedig yn ei le.
4.2 Os yw’r Cwsmer yn gwrthod cyhoeddi’r Cyhoeddiad Diwygiedig yn ei le, neu ddiwygio’r Cyhoeddiad Drafft ei hun i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol i sicrhau ei fod, ym marn resymol y Cyflenwr, yn gywir i’r Canlyniadau:
4.2.1 ni ddylai’r Cwsmer enwi’r Cyflenwr fel awdur y Canlyniadau yn y cyhoeddiad; a
4.2.2 gall y Cyflenwr, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, gyhoeddi unrhyw ran o’r Canlyniadau a gwybodaeth sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau mewn unrhyw fforwm fel y barno’n briodol, i’r graddau sy’n angenrheidiol i gywiro unrhyw gyhoeddiad anghywir neu gamarweiniol a wnaed gan y Cwsmer.
4.3 Os yw gweithred gan y Cyflenwr i berfformio ei rwymedigaethau dan y Contract yn cael ei hatal neu ei gohirio gan unrhyw weithred neu anweithred gan y Cwsmer, ei asiantau, is-gontractwyr, ymgynghorwyr neu gyflogeion (Diffyg gan y Cwsmer), bydd y Cyflenwr:
4.3.1 heb gyfyngu nac effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedi arall sydd ar gael iddo, yn meddu ar yr hawl i atal perfformio’r Gwasanaethau nes bod y Cwsmer yn unioni’r Diffyg gan y Cwsmer, ac i ddibynnu ar y Diffyg gan y Cwsmer i’w ryddhau rhag perfformio unrhyw un neu rai o’i rwymedigaethau ym mhob achos i’r graddau y bo’r Diffyg gan y Cwsmer yn atal neu’n gohirio’r Cyflenwr rhag perfformio unrhyw un neu rai o’i rwymedigaethau;
4.3.2 yn peidio â bod yn atebol am unrhyw gostau, taliadau na cholledion a ddioddefwyd neu a ysgwyddwyd gan y Cwsmer sy’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ganlyniad i ataliad neu ohiriad o’r fath;
4.3.3 yn meddu ar hawl bod y Taliadau’n cael eu talu er gwaethaf unrhyw ataliad neu ohiriad o’r fath; ac4.3.4 yn meddu ar hawl i adennill gan y Cwsmer trwy gyflwyno gorchymyn ysgrifenedig unrhyw gostau, taliadau neu golledion ychwanegol y mae’r Cyflenwr yn eu dioddef neu’n eu hysgwyddo sy’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ganlyniad i ataliad neu ohiriad o’r fath.



5. DIOGELU DATA

5.1 Bydd y Cyflenwr yn casglu ac yn prosesu unrhyw Ddata Personol yn unol â’i bolisi preifatrwydd a’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Nid yw’r partïon yn rhagweld y bydd unrhyw Ddata Personol yn cael ei gynnwys yn y Canlyniadau.
5.2 Fodd bynnag, yn amodol ar Gydsyniad y Testunau Data y mae cynnwys y Canlyniadau’n ymwneud â hwy, os yw’r partïon yn cytuno y dylai unrhyw Ddata Personol gael ei ddarparu yn y Canlyniadau, bydd y partïon yn gweithredu fel Cyd-reolyddion, ac yn ymlynu wrth delerau Atodlen 1.



6. EIDDO DEALLUSOL

6.1 Bydd y Cyflenwr yn cadw perchnogaeth ar yr holl Hawliau Moesol yn y Canlyniadau. Yn amodol ar gymal 4.1.6, mae rhwymedigaeth ar y Cwsmer i enwi’r Cyflenwr fel awdur y Canlyniadau mewn unrhyw gyhoeddiad (gan gynnwys dyfyniadau ac adroddiadau) sy’n ymgorffori’r Canlyniadau.
6.2 Bydd y Cwsmer a’i drwyddedwyr yn berchen ar yr holl Hawliau Eiddo Deallusol yn Neunyddiau’r Cwsmer ac, yn amodol ar dalu’r Taliadau’n llawn a hawl y Cyflenwr dan gymal 4.1.6.2, HED y Canlyniadau.
6.3 Mae’r Cwsmer yn caniatáu i’r Cyflenwr drwydded anhrosglwyddadwy, ddi-freindal, anneilltuedig, fyd-eang y talwyd yn llawn amdani i gopïo ac addasu Deunyddiau’r Cwsmer am gyfnod y Contract at ddiben darparu’r Gwasanaethau ar gyfer y Cwsmer yn unol â’r Contract.
6.4 Bydd y Cwsmer yn indemnio’r Cyflenwr yn llawn rhag unrhyw symiau a ddyfarnwyd gan lys barn yn erbyn y Cyflenwr sy’n codi o, neu mewn perthynas ag (i) unrhyw hawliad a ddygir yn erbyn y Cyflenwr am dramgwyddo hawliau trydydd parti (gan gynnwys Hawliau Eiddo Deallusol) sy’n deillio o, neu mewn perthynas â, derbyn neu ddefnyddio Deunyddiau’r Cwsmer gan y Cyflenwr, (ii) defnyddio’r Canlyniadau; neu (iii) torri rhwymedigaethau’r Cwsmer dan gymal 6.1.



7. TALIADAU A THALU

7.1 Yn gyfnewid am ddarparu’r Gwasanaethau, bydd y Cwsmer yn talu’r Taliadau i’r Cyflenwr yn unol â’r cymal hwn, sef 7.
7.2 Mae’r holl symiau sy’n daladwy i’r Cwsmer yn symiau heb gynnwys treth ar werth (TAW), y bydd yn rhaid i’r Cwsmer ei thalu’n ychwanegol i’r Cyflenwr yn ôl y gyfradd ar y pryd (os yn berthnasol), yn amodol ar gael anfoneb TAW ddilys.
7.3 Bydd y Cyflenwr yn cyflwyno anfonebau am y Taliadau a TAW (os yn berthnasol), oni bai y nodir fel arall yn y Dyfynbris a Dderbyniwyd sy’n berthnasol:
7.3.1 ar gyfer unrhyw Wasanaethau sy’n brosiectau ad-hoc, 50% o’r Taliadau ar y Dyddiad Cychwyn, a’r 50% sy’n weddill ar ôl cwblhau’r Gwasanaethau;
7.3.2 ar gyfer unrhyw Wasanaethau sy’n wasanaethau arolwg omnibws, bydd y Cyflenwr yn anfonebu’r Cwsmer am 100% o’r Taliadau pan fo’r gwaith maes yn cychwyn.
7.4 Bydd pob anfoneb yn cynnwys yr holl wybodaeth ategol resymol sy’n ofynnol gan y Cwsmer.
7.5 Bydd y Cwsmer yn talu pob anfoneb sy’n ddyledus ac a gyflwynir iddo gan y Cyflenwr, o fewn 30 niwrnod i ddyddiad yr anfoneb, i gyfrif banc a enwebwyd yn ysgrifenedig gan y Cyflenwr.
7.6 Os yw’r Cwsmer yn methu â gwneud unrhyw daliad sy’n ddyledus i’r Cyflenwr dan y Contract erbyn y dyddiad y mae’n ddyledus, yna, heb gyfyngu ar rwymedïau’r Cyflenwr dan gymal 9 (Terfynu):
7.6.1 bydd y Cwsmer yn talu llog ar y swm sy’n hwyr o’r dyddiad yr oedd yn ddyledus nes bod y swm sy’n hwyr yn cael ei dalu, boed cyn neu ar ôl dyfarniad. Bydd llog dan y cymal hwn yn cronni bob dydd ar gyfradd o 8% y flwyddyn uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr o bryd i’w gilydd, ond ar gyfradd o 8% y flwyddyn am unrhyw gyfnod pan fo’r gyfradd sylfaenol honno islaw 0%.
7.6.2 gall y Cyflenwr atal yr holl Wasanaethau nes bod y taliad wedi cael ei wneud yn llawn.
7.7 Bydd yr holl symiau sy’n ddyledus dan y Contract gan y Cwsmer i’r Cyflenwr yn cael eu talu’n llawn heb unrhyw wrthgyfrif, gwrth-hawliad, didyniad neu ddal yn ôl (heblaw am unrhyw dreth a ddidynnir neu a ddelir yn ôl fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith).



8. CYFYNGU AR ATEBOLRWYDD

8.1 Mae cyfeiriadau at atebolrwydd yn y cymal hwn, sef 8, yn cynnwys pob math o atebolrwydd sy’n codi o dan y Contract neu mewn cysylltiad ag ef gan gynnwys, ond nid dim ond, atebolrwydd mewn contract, cyfraith camweddau (gan gynnwys esgeulustod), camgyflead, adferiad neu fel arall.
8.2 Ni chaiff y naill barti na’r llall gael budd o’r cyfyngiadau ac eithriadau a nodir yn y cymal hwn mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd sy’n codi o’i ddiffyg bwriadol.
8.3 Ni fydd unrhyw beth yn y Contract hwn yn cyfyngu ar rwymedigaethau talu’r Cwsmer dan y Contract; nac atebolrwydd y Cwsmer dan gymal 6.4 o’r Contract.
8.4 Nid oes unrhyw beth yn y Contract yn cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd na ellir yn gyfreithiol gyfyngu arno, gan gynnwys atebolrwydd am: (i) marwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan esgeulustod; (ii) twyll neu gamgyflead twyllodrus; a (iii) torri’r telerau a olygir gan adran 2 o Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982 (teitl a meddiant didramgwydd).
8.5 Yn amodol ar gymal 8.2, cymal 8.3, a chymal 8.4, ni fydd cyfanswm atebolrwydd y Cyflenwr i’r Cwsmer yn fwy na chyfanswm y Taliadau a dalwyd i’r Cyflenwr gan y Cwsmer yn unol â’r Contract hwn yn y 12 mis cyn i’r atebolrwydd godi. 8.6 Yn amodol ar gymal 8.2, cymal 8.3, cymal 8.3, mae’r cymal hwn, sef
8.6, yn nodi’r mathau o golled sydd wedi’u heithrio’n llawn: colli elw; colli gwerthiant neu fusnes; colli cytundebau neu gontractau; colli arbedion disgwyliedig; colli defnydd o feddalwedd, data neu wybodaeth neu lygru meddalwedd, data neu wybodaeth; colli neu ddifrod i ewyllys da; a cholled anuniongyrchol neu ganlyniadol.
8.7 Mae’r Cyflenwr wedi rhoi ymrwymiadau ynghylch cydymffurfiaeth y Gwasanaethau â manylebau perthnasol yng nghymal 3. Yng ngoleuni’r ymrwymiadau hyn, mae’r telerau a olygir gan adrannau 3, 4 a 5 Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982, hyd yr eithaf un a ganiateir gan y gyfraith, wedi’u heithrio o’r Contract.
8.8 Ymwadiad: Mae’r Cyflenwr trwy hyn yn gwadu unrhyw atebolrwydd am (i) cynnwys yr wybodaeth a’r adborth a ddarperir gan drydydd partïon fel rhan o’r Gwasanaethau, sy’n sail i’r Canlyniadau, ar yr amod bod y Cyflenwr wedi adrodd yn gywir ar yr wybodaeth fel y’i darparwyd ar gyfer y Cyflenwr; a (ii) yr hyn sy’n deillio o’r Canlyniadau a’r defnydd ohonynt gan y Cwsmer neu unrhyw drydydd parti.



9. TERFYNU

9.1 Heb effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedi arall sydd ar gael iddo, gall y naill barti neu’r llall i’r Contract ei derfynu ar unwaith trwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r parti arall os digwydd y canlynol:
9.1.1 os yw’r parti arall yn torri unrhyw un neu rai o delerau’r Contract mewn modd perthnasol ac nad oes modd unioni’r tor hwnnw neu (os gellir unioni’r tor hwnnw) ei fod yn methu ag unioni’r tor hwnnw o fewn cyfnod o 30 niwrnod ar ôl cael ei hysbysu’n ysgrifenedig i wneud hynny. Bydd methu â gwneud taliad yn cael ei ystyried yn achos o dorri’r contract hwn mewn modd perthnasol;
9.1.2 os yw’r parti arall yn cymryd unrhyw gam neu’n cyflawni unrhyw weithred mewn cysylltiad â mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, cael ei ddatod dros dro neu ymrwymo i unrhyw gompównd neu drefniant gyda’i gredydwyr (heblaw mewn perthynas ag ailstrwythuro solfent), ymgeisio i’r llys am foratoriwm neu gael moratoriwm dan Ran A1 o Ddeddf Ansolfedd 1986, cael ei ddirwyn i ben (boed yn wirfoddol neu drwy orchymyn y llys, oni bai bod hynny at ddiben ailstrwythuro solfent), bod â derbynnydd wedi’i benodi ar gyfer unrhyw un neu rai o’i asedau neu roi’r gorau i gynnal busnes neu, os cymerir y cam neu os cyflawnir y weithred mewn awdurdodaeth arall, mewn cysylltiad ag unrhyw weithdrefn gyfatebol yn yr awdurdodaeth berthnasol;
9.1.3 os yw’r parti arall yn atal, neu’n bygwth atal, neu’n rhoi’r gorau neu’n bygwth rhoi’r gorau i gynnal y cyfan neu ran sylweddol o’i fusnes; neu
9.1.4 os yw sefyllfa ariannol y parti arall yn dirywio i’r fath raddau fel bod gallu’r parti arall i gyflawni ei rwymedigaethau’n ddigonol dan y Contract, ym marn y parti sy’n terfynu, wedi cael ei roi mewn perygl.
9.2 Heb effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedi arall sydd ar gael iddo, gall y Cyflenwr derfynu’r Contract ar unwaith trwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r Cwsmer os yw’r Cwsmer yn methu â thalu unrhyw swm sy’n ddyledus dan y Contract ar y dyddiad y mae’n ddyledus.
9.3 Yn dilyn terfynu’r Contract am ba bynnag reswm:
9.3.1 bydd y Cwsmer yn mynd ati ar unwaith i dalu i’r Cyflenwr yr holl anfonebau oddi wrth y Cyflenwr sy’n dal heb eu talu a llog ac, mewn perthynas â Gwasanaethau a gyflenwyd ond na chyflwynwyd anfoneb amdanynt, gall y Cyflenwr gyflwyno anfoneb, a fydd yn daladwy ar unwaith pan gaiff ei derbyn;
9.3.2 bydd unrhyw un o ddarpariaethau’r Contract sy’n ddatganedig neu drwy oblygiad wedi’i bwriadu i ddod i rym neu barhau mewn grym ar neu ar ôl terfynu neu ddiwedd y Contract yn aros mewn grym ac effaith yn llawn; ac
9.3.3 ni fydd terfynu na diwedd y Contract yn effeithio ar unrhyw hawliau, rhwymedïau, rhwymedigaethau nac atebolrwydd gan y partïon sydd wedi cronni hyd at ddyddiad y terfyniad neu’r diwedd, gan gynnwys yr hawl i hawlio iawndal mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri’r Contract a oedd yn bodoli ar neu cyn dyddiad y terfyniad neu’r diwedd.



10. CYFFREDINOL

10.1 Force majeure. Ni fydd y naill barti na’r llall yn torri’r Contract nac yn atebol am oedi wrth berfformio, neu am fethu â pherfformio, unrhyw un neu rai o’i rwymedigaethau dan y Contract os bydd oedi neu fethiant o’r fath yn deillio o ddigwyddiadau, amgylchiadau neu achosion sydd y tu hwnt i’w reolaeth resymol.

10.2 Aseinio ac ymdrin mewn ffyrdd eraill. Ni fydd y Cwsmer yn aseinio unrhyw un neu rai neu’r cyfan o’i hawliau a’i rwymedigaethau dan y Contract nac yn eu trosglwyddo, yn eu harwystlo, yn eu his-gontractio, yn datgan ymddiriedolaeth drostynt nac yn ymdrin mewn unrhyw fodd arall â hwy heb gydsyniad ysgrifenedig y Cyflenwr ymlaen llaw. Gall y Cyflenwr, ar unrhyw adeg, aseinio unrhyw un neu rai neu’r cyfan o’i hawliau dan y Contract neu eu trosglwyddo, eu harwystlo, eu his-gontractio, datgan ymddiriedolaeth drostynt neu ymdrin mewn unrhyw fodd arall â hwy.

10.3 Cyfrinachedd.
10.3.1 Mae’r naill barti a’r llall yn addo na fydd ar unrhyw adeg yn ystod y Contract, ac am gyfnod o 2 flynedd ar ôl terfynu neu ddiwedd y Contract, yn datgelu wrth unrhyw berson unrhyw wybodaeth gyfrinachol sy’n ymwneud â busnes, materion, cwsmeriaid, cleientiaid neu gyflenwyr y parti arall neu unrhyw aelod o’r grŵp y mae’r parti arall yn perthyn iddo, ac eithrio fel a ganiateir gan gymal
10.3.2. At ddiben y cymal hwn, sef 10.3, mae grŵp yn golygu, mewn perthynas â pharti, y parti hwnnw, unrhyw is-gwmni neu gwmni daliannol o bryd i’w gilydd i’r parti hwnnw, ac unrhyw is-gwmni o bryd i’w gilydd i gwmni daliannol i’r parti hwnnw.
10.3.2 Gall y naill barti a’r llall ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol y parti arall:
10.3.2.1 wrth ei gyflogeion, swyddogion, cynrychiolwyr, contractwyr, is-gontractwyr neu ymgynghorwyr y mae arnynt angen yr wybodaeth honno at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau’r parti dan y Contract. Dylai’r naill barti a’r llall sicrhau bod ei gyflogeion, swyddogion, cynrychiolwyr, contractwyr, is-gontractwyr neu ymgynghorwyr y mae’n datgelu gwybodaeth gyfrinachol y parti arall wrthynt yn cydymffurfio â’r cymal hwn, sef 10.3; a
10.3.2.2 fel y gall fod yn ofynnol yn gyfreithiol, wrth lys ag awdurdodaeth gymwys neu unrhyw awdurdod llywodraethol neu reoleiddiol.
10.3.3 Ni chaiff y naill barti na’r llall ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol y parti arall at unrhyw ddiben heblaw am berfformio ei rwymedigaethau dan y Contract.

10.4 Cytundeb cyfan. Mae’r Contract yn gyfystyr â’r cytundeb cyfan rhwng y partïon ac yn disodli ac yn diddymu pob cytundeb, addewid, sicrwydd, gwarant, cyflead a dealltwriaeth a fu’n flaenorol rhyngddynt, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, mewn perthynas â’i gynnwys. Mae’r naill barti a’r llall yn cydnabod, wrth ymrwymo i’r Contract, nad yw’n dibynnu ar ac na fydd ganddo unrhyw rwymedïau mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad, cyflead, sicrwydd na gwarant (boed wedi’i (g)wneud yn anfwriadol neu’n esgeulus) nad yw wedi’i g/chynnwys yn y Contract. Mae’r naill barti a’r llall yn cytuno na fydd ganddo unrhyw hawliad am gamgyflead anfwriadol neu esgeulus yn seiliedig ar unrhyw ddatganiad yn y Contract.

10.5 Amrywiad. Ac eithrio fel a nodir yn yr Amodau hyn, ni fydd unrhyw amrywiad i’r Contract yn dod i rym nes ei fod yn ysgrifenedig ac wedi’i lofnodi gan y partïon (neu eu cynrychiolwyr awdurdodedig).

10.6 Ildiad. Nid yw ildiad mewn perthynas ag unrhyw hawl neu rwymedi dan y Contract neu mewn cyfraith ond mewn grym os cafodd ei roi yn ysgrifenedig ac ni ddylid ystyried ei fod yn ildio unrhyw hawl neu rwymedi d(d)ilynol. Ni fydd methiant neu oedi gan barti i arfer unrhyw hawl neu rwymedi a ddarperir dan y Contract neu mewn cyfraith yn gyfystyr ag ildio’r hawl honno neu’r rhwymedi hwnnw nac unrhyw hawl neu rwymedi arall, ac ni fydd yn atal nac yn cyfyngu ar unrhyw weithred bellach i arfer yr hawl honno neu’r rhwymedi hwnnw nac unrhyw hawl neu rwymedi arall. Ni fydd unrhyw weithred unigol neu rannol i arfer unrhyw hawl neu rwymedi a ddarperir gan y Contract neu mewn cyfraith yn atal nac yn cyfyngu ar weithredoedd pellach i arfer yr hawl honno neu’r rhwymedi hwnnw nac unrhyw hawl neu rwymedi arall.

10.7 Toriad. Os yw unrhyw ddarpariaeth neu ran-ddarpariaeth yn y Contract yn, neu’n dod yn, annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy, byddir yn ystyried ei bod wedi cael ei haddasu gyn lleied ag sy’n angenrheidiol i’w gwneud yn ddilys, yn gyfreithlon ac yn orfodadwy. Os nad yw addasiad o’r fath yn bosibl, dylid ystyried bod y ddarpariaeth neu’r rhan-ddarpariaeth berthnasol wedi cael ei dileu. Ni fydd unrhyw achos o addasu neu ddileu darpariaeth neu ran-ddarpariaeth dan y cymal hwn, sef 10.7, yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd gweddill y Contract.

10.8 Rhybuddion.
10.8.1
Dylai unrhyw rybudd a roddir i barti dan y Contract neu mewn cysylltiad ag ef fod yn ysgrifenedig a dylai gael ei ddanfon â llaw neu drwy wasanaeth danfon erbyn y diwrnod gwaith nesaf yn ei swyddfa gofrestredig (os yw'n gwmni) neu ei brif fan busnes (mewn unrhyw achos arall); neu gael ei anfon trwy’r e-bost i’r cyfeiriad e-bost a nodir yn y Dyfynbris a Dderbyniwyd sy’n berthnasol.  
10.8.2 Byddir yn ystyried bod unrhyw rybudd wedi cael ei dderbyn: (i) os caiff ei ddanfon â llaw, ar yr amser y gadewir y rhybudd yn y cyfeiriad priodol; (ii) os caiff ei anfon â gwasanaeth danfon erbyn y diwrnod gwaith nesaf, am 9:00am ar yr ail Ddiwrnod Busnes ar ôl postio; neu (iii) os caiff ei anfon trwy’r e-bost, ar adeg ei drosglwyddo neu, os yw’r amser hwn y tu allan i oriau busnes yn y man derbyn, pan fo oriau busnes yn ailddechrau. Yn y cymal hwn, sef 10.8.2, mae oriau busnes yn golygu o 9:00am tan 5:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar Ddiwrnod Busnes.
10.8.3 Nid yw’r cymal hwn, sef 10.8, yn berthnasol i gyflwyno unrhyw ddogfennau cychwyn achos neu ddogfennau eraill mewn unrhyw achos cyfreithiol neu, lle y bo’n berthnasol, unrhyw gyflafareddiad neu ddull arall o ddatrys anghydfod.

10.9 Hawliau trydydd partïon. Nid yw’r Contract yn peri unrhyw hawliau dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw un o delerau’r Contract. Nid yw hawliau’r partïon i ddirymu neu amrywio’r Contract yn amodol ar gydsyniad unrhyw berson arall.

10.10 Cyfraith sy’n llywodraethu ac awdurdodaeth. Bydd y Contract, ac unrhyw anghydfod neu hawliad (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau anghytundebol) sy’n codi ohono neu mewn cysylltiad ag ef neu ei gynnwys neu ei ffurfio, yn cael eu llywodraethu gan, a’u dehongli yn unol â, chyfraith Cymru a Lloegr. Mae’r naill barti a’r llall yn cytuno’n ddi-alw’n-ôl y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth neilltuedig i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau anghytundebol) sy’n codi o’r Contract neu mewn cysylltiad ag ef neu ei gynnwys neu ei ffurfio.

Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.