careers
Swyddog Gweithredol Ymchwil / Uwch Swyddog Gweithredol Ymchwil / Rheolwr Ymchwil (parhaol) - Hybrid / Caerdydd
Math o swydd:
Parhaol
Lleoliad:
Hybrid / Caerdydd
Cyflog:
£30,000-£45,000, yn dibynnu ar brofiad
Dyddiad cau:
20/3/26
Gwneud cais nawr

Y rôl

Rydym yn chwilio am gydweithiwr newydd gydag o leiaf2+ flynedd o brofiad ansoddol a meintiol mewn asiantaeth ymchwil i ymuno â’ntîm gweithredol. P’un a ydych ar lefel Swyddog Gweithredol Ymchwil, Uwch Swyddog Gweithredol Ymchwil neu Reolwr Ymchwil, byddwch yng nghanol ein gwaith â chleientiaid. Byddwch yn ymwneud ag amrywiaeth o brosiectau ansoddol a meintiol, o’r briff cychwynnol hyd at y cyflawniad terfynol. Un diwrnod efallai y byddwch chi'n drafftio arolwg ar-lein neu'n llunio canllaw trafodaeth, a'r diwrnod nesaf gallech chi fod yn cymedroli grwpiau ffocws, yn cyfweld â rhanddeiliaid cleientiaid neu'n drafftio canfyddiadau ar gyfer cleientiaid.

Gan ein bod yn dîm bach, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ymchwil. Ochr yn ochr â rheoli prosiectau o ddydd i ddydd, byddwch yn helpu i ddrafftio cynigion, yn cefnogi datblygiad busnes, ac yn cynorthwyo lle bynnag y gall eich sgiliau wneud gwahaniaeth.

Rydym yn chwilio am rywun sydd yn mwynhau cydbwyso nifer o brosiectau a chymryd perchnogaeth wirioneddol o’u gwaith. Byddwch yn meddu ar brofiad dadansoddi a dehongli data meintiol ac ansoddol a’i grynhoi’n fewnwelediadau clir sy’n helpu cleientiaid wneud penderfyniadau hyderus a gwybodus. Os ydych yn chwilfrydig, yn cydweithredu’n dda ac yn naturiol ragweithiol, mi fyddwch yn addas iawn. Ein horiau gweithio safonol yw dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm, ond rydym yn aml yn gweithio’n hyblyg, p’un a yw hynny’n cymedroli grwpiau ffocws gyda’r nos neu gwrdd â chleient sydd ag amserlen dynn.

Manteision gweithio yn Beaufort

• 28 diwrnod o wyliau (gan gynnwys diwrnod eich pen-blwydd) ynghyd â Gwyliau’r Banc a gwyliau ychwanegol dros y Nadolig

• Parcio am ddim yng nghanol Caerdydd os bydd angen

• Pensiwn cwmni

• Yswiriant meddygol preifat

• Aelodaeth campfa

• Ffôn symudol cwmni

• Hyd at 2 ddiwrnod i wirfoddoli â thâl yn flynyddol (rydym yn cefnogi ymwneud ag elusennau a grwpiau cymunedol)

• Gweithio’n hybrid (3 diwrnod yr wythnos yn swyddfa Caerdydd / 2 ddiwrnod gartref)

• Tâl salwch

• Gwisg hamddenol

• Aelodaeth broffesiynol â thal o Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad

• Dathliadau a digwyddiadau cymdeithasol tîm rheolaidd

• Cynllun beicio

• Busnes sy’n Eiddo i’r Gweithwyr yw Beaufort - mae hyn yn rhoi cyfleoedd i staff ymwneud â rhedeg y busnes a chael cyfle i ddweud eu dweud yn ei gyfeiriad strategol, ac ymhen amser, rhannu yn nosbarthiad elw’r cwmni.

Y camau nesaf

Cysylltwch â ni nawr am y swydd ddisgrifiad ar gyfer y Swyddog Gweithredol Ymchwil / Uwch Swyddog Gweithredol Ymchwil / Rheolwr Ymchwil: recruitment@beaufortresearch.co.uk.

BETH MAE POBL YN DDWEUD AMDANOM NI

“Mae arweiniad a doethineb eich tîm wedi bod mor braf, gan helpu i ddatrys problemau ac amlygu cyfleoedd i ni ar sawl achlysur. Bu'n bleser ac rydych wedi gwneud i'r cyfan edrych mor rhwydd (er rwy'n gwybod nad yw hynny'n wir bob tro).”

Paul Tapley - Pennaeth Marchnata
Trafnidiaeth Cymru

“Cawsom gymorth gan Beaufort i roi cynnig ar syniadau creadigol cymhleth gyda grwpiau oed gwahanol. Gwnaethant reoli'r trafodaethau o fewn y grwpiau'n glir, gydag amynedd a'n helpu ni i ddeall ymateb ein cynulleidfa, ac oherwydd hynny, datblygu gwaith creadigol effeithiol.”

Jemma Gabb - Pennaeth Earned Media
Golley Slater

“Roedd Beaufort Research yn bartner allweddol ar un o brosiectau mwyaf Chwaraeon Cymru - sef yr Arolwg Chwaraeon Ysgol. Yn ystod ein 18 mis o weithio'n agos gyda thim Beaufort, cawsom ein hysbrydoli gan eu creadigwydd a'u gallu i ddatrys problemau. Roedd eu dull tuag at gyfathrebu a chydweithredu'n adfywiol, ac roedd eu sylw at fanylion yn wych. Roedd hi wir yn bleser cael cydweithio gyda nhw ar brosiect mor allweddol, mi lwyddodd ein gwaith, i raddfa helaeth ar sail eu profiad a'u harbenigedd.”

Steffan Berrow - Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr
Chwaraeon Cymru

“Cwmni dibynadwy, gwybodus a chefnogol fydd yn eich arwain chi i ganfod data ymchwil craff a dylanwadol.”

Caroline Nichols - Ymarferydd Hyrwyddo lechyd
Tim lechyd Cyhoeddus Hywel Dda

“Helpodd Beaufort i wneud y broses profi yn llawer fy syml ac yn ddi-straen. Roedd y cyswllt rheolaidd ac ansawdd y cyngor o'r radd flaenaf, ac mae'r adborth y bu i ni ei derbyn yn yr adroddiad terfynol wedi helpu i siapio ein hymgyrch â'r deunyddiau marchnata. Roedd yn fewnwelediad gwerthfawr tu hwnt.”

Nicola Roberts - Cyfarwyddwr
Freshwater

“Fe weithiodd y prosiect "Panel Pobl" yn dda iawn i S4C, gan i staff Beaufort Research weithio'n galed i'w gael i lwyddo. Fe Iwyddodd y cwmni i gadw diddordeb y panelwyr dros gyfnod hir, sydd yn dasg anodd, ac roedd yr holl wybodaeth o ddefnydd mawr i ni. Rydym yn hapus iawn gyda'r gwaith.”

Carys Evans - Pennaeth Dadansoddi
S4C

“Mae agwed Beaufort at y gwaith hwn wedi gwneud argraff dda arnaf. Maent wedi buddsoddi amser gwerthfawr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'n busnes. Maent hefyd wedi dangos hyblygrwydd a phragmatiaeth wrth addasu eu hagwedd at waith maes yng ngoleunir pandemig. Yn allweddol, ni wnaeth hyn effeithio ar ansawdd ac mae'r canlyniadau cyfoethog yn eu hadroddiad terfynol wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau.”

Arthur West - Pennaeth Deall Cwsmeriaid
Y Swyddfa Eiddo Deallusol

“Darparodd Beaufort wasanaeth gwych drwy gydol y prosiect. Bu iddynt weithio ag ystod eang o randdeiliaid ar lefel uwch a thrin ein gwaith gyda sensitifrwydd, gallu a phroffesiynoldeb. Roedd yr allbynnau o safon gwych. Darparwyd diweddariadau drwy'r prosiect. Byddwn yn argymell eu defnyddio yn fawr.”

Olivia Thomas - Uwch Reolwr Polisi Morol
The Crown Estate

“Roedd gan y cyfwelwyr ddiddordeb yn y pwnc roeddynt yn ei ymchwilio ar ein rhan. Roeddynt yn ymrwymo i ddeall natur sensitif hosbisau plant cyn cysylltu â theuluoedd, a oedd yn sicrhau bod eu dull nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd yn dosturiol a charedig.”

Clare Robinson - Rheolwr Llywodraethu a Chytundebau
Naomi House & Jacksplace

“Rydym yn falch iawn gyda’r adroddiad; mae’n broffesiynol iawn, yn taro cydbwysedd da fel cyfrif cynhwysfawr o’r data ystadegol ac yn ddarllenadwy ar yr un pryd.”

June Jones - Arweinydd  Ymgyrch
Amser i Newid Cymru

"Diolch yn fawr iawn am eich cyflwyniad ardderchog. Mae cynnwys eich sleidiau a’r gwaith yr ydych wedi’i wneud wedi ennyn cryn ddiddordeb ar draws y system, gyda nifer o geisiadau am yr adroddiadau llawn a’r canfyddiadau. Diolch unwaith eto am eich cyfraniad amhrisiadwy i’n gwaith ym maes dibyniaeth ar nicotin yng Nghymru. Gobeithiwn gael y cyfle i gydweithio â chi eto yn y dyfodol."

Rachel Howell – Prif  Ymchwilydd Iechyd Gwahardd
Iechyd Gwladol Cymru

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.