Fel rhan o'i rhaglen Mynd i'r Afael â Diabetes Gyda'n Gilydd, comisiynwyd Beaufort gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio beth sy'n cynorthwyo neu'n ei gwneud hi'n fwy anodd i bobl gyda Diabetes Math 2 (T2DM) reoli eu cyflwr a defnyddio gwasanaethau iechyd sy'n ymwneud â diabetes. Gyda chynnydd yng nghyfraddau T2DM ar draws Cymru, nod yr ymchwil oedd casglu dealltwriaeth ystyrlon a allai helpu i lywio cymorth mwy effeithiol i bobl sy'n byw â'r cyflwr.
Cynhaliwyd cyfweliadau un i un manwl gyda 50 o oedolion sy'n byw â T2DM a 15 o weithwyr iechyd proffesiynol. Defnyddiwyd dull recriwtio cymysg. I sicrhau ein bod yn cynnwys grwpiau na chlywir mo'u lleisiau'n aml/y rhai sy'n llai tebygol o ymgysylltu o fewn y sampl, cysylltwyd ag ystod o randdeiliaid. Yn ogystal, gwnaethom ddefnyddio ein rhwydwaith recriwtio ansoddol sydd wedi’i achredu gan RAS yng Nghymru. Helpodd y dull cyfunol hwn ni i gyrraedd croestoriad eang ac amrywiol o bobl ledled Cymru, yn cynnwys y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig a chyfranogwyr o leiafrifoedd ethnig.
Darparodd y ddealltwriaeth ansoddol, gyfoethog a gasglwyd ffenestr i'r realiti emosiynol, ymarferol a chymdeithasol o fyw â diabetes, yn cynnwys y cymhelliannau sy'n annog ymgysylltu, a'r rhwystrau a all amharu ar hynny.
Cydweithiwyd yn agos â gwyddonwyr ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy gydol y prosiect i fframio'r canfyddiadau yn defnyddio model COM-B a'r Olwyn Newid Ymddygiad. Helpodd y lens ymddygiad hwn i ddadorchuddio, nid yn unig profiadau pobl, ond hefyd sut ellir gwella gwasanaethau i gryfhau ysgogiad, gallu, a'r cyfle i reoli'r cyflwr yn effeithiol.
Ymysg y canfyddiadau allweddol oedd pwysigrwydd gwybodaeth glir, wedi'i theilwra, cymorth emosiynol prydlon, a galluogwyr ymarferol megis hyblygrwydd apwyntiadau ac ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael. Roedd anogaeth gan deulu a chydnabyddiaeth gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd hefyd yn chwarae rôl bwysig o ran cynnal ymgysylltiad pobl.
I helpu i weithredu'r canfyddiadau, gwnaethom siarad mewn cynhadledd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch ein profiad o gymhwyso gwyddor ymddygiadol mewn ymchwil ar gyfer y prosiect hwn. Cymerasom ran mewn gweithdy ar y pwnc hefyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio'r ddealltwriaeth i lywio datblygiad gwasanaethau, cyfathrebiadau a llwybrau cymorth – gan helpu i sicrhau bod y rhain yn adlewyrchu anghenion amrywiol a realiti pobl sy'n byw â T2DM. Gwnaeth y cleient sylwadau ar ein 'llwyddiant wrth fireinio gwybodaeth gymhleth yn allbwn craff a diddorol y gellir ei ddefnyddio'.
Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.