03.09.2025

Pam fod ymddiriedaeth yn bwysig?

Mae Beaufort yn olrhain amgyffrediadau’r cyhoedd o frandiau/sefydliadau i nifer o gleientiaid ac mae hyn bron bob amser yn cynnwys yr elfen o ymddiriedaeth.

Rydym yn cynnal y gwaith olrhain ar ein Omnibws Cymru, arolwg ar-lein sy’n cyfweld sampl cynrychioladol o 1,000 o oedolion 16 oed a hŷn o Gymru. I bob pwrpas, mae’r Omnibws yn rhoi cipolwg ar farn y cyhoedd yng Nghymru. Mae’r dull ar gyfer yr arolwg yn gyson bob tro (rydym yn ei gynnal 5 gwaith y flwyddyn) felly mae’n ddelfrydol ar gyfer monitro unrhyw newidiadau mewn agweddau, barn neu ymddygiad dros amser.

Felly pa mor bwysig yw ymddiriedaeth? Mae ein canfyddiadau’n dangos bod cwmnïau neu sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt wirioneddol yn bwysig i bobl yng Nghymru - cytunodd mwyafrif sylweddol o 82% gyda’r datganiad hwn mewn arolwg diweddar yn ein Omnibws Cymru mis Mehefin.  Cytunodd yr un gyfran o bobl, unwaith y mae busnes neu sefydliad wedi colli eu hymddiriedaeth, anaml y byddant yn rhoi ail gyfle iddo.

Mae’n amlwg y gall ymddiriedaeth (neu ddiffyg ymddiriedaeth) ddylanwadu ar bobl mewn ffordd gadarnhaol a negyddol. Ar draws ein hymchwil, rydym yn aml yn gweld pwysigrwydd ymddiriedaeth o ran dylanwadu ar benderfyniadau pobl:

- ym maes iechyd, gall ddylanwadu ar benderfyniad pobl i gael brechlyn pan y cant eu gwahodd neu i fynd am sgrinio canser a allai achub eu bywydau

- mewn gwasanaethau ariannol, mae’n ysgogydd allweddol o ran penderfynu gyda pha ddarparwr i gael morgais neu gyfrif arbedion

- ac ym maes trafnidiaeth, mae’n dylanwadu ar benderfyniad pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar eu taith neu fynd â’r car.

O ganlyniad, mae ymddiriedaeth yn bwysig ym mhob maes, p’un a ydych yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat.

Beth mae ein gwaith olrhain yn ei ddweud wrthym?

Yn gyntaf, mae’n dweud wrthym fod brandiau/sefydliadau mewn rhai sectorau (yn enwedig yn y byd iechyd) yn fwy tebygol o gael ymddiriedaeth y cyhoedd nag eraill. Mewn gwaith ymchwil diweddar yn cymharu lefelau ymddiriedaeth ar draws gwahanol sefydliadau, dywedodd 81% o’r cyhoedd eu bod yn ymddiried yn yr hyn mae GIG Cymru yn ei wneud ac yn ei ddweud, o’i gymharu â 58% yn dweud hyn am eu cyngor lleol. Dim ond 15% o’r cyhoedd sy’n dweud nad ydynt yn ymddiried yn GIG Cymru, o’i gymharu â 37% yn dweud hyn am eu cyngor lleol.

Yn ail, nid yw'r ymddiriedaeth honno’n ddisymud, mae’n newid dros amser. Weithiau mae’n gysylltiedig â’r cwmni a’i berfformiad unigol ond weithiau gall ffactorau allanol gael dylanwad - er enghraifft, rydym wedi gweld yr ymddiriedaeth fwyaf mewn sefydliadau iechyd ar yr adegau pan fydd eu hangen fwyaf (e.e. yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19).

Mae ein data’n dangos bod perthynas gref rhwng ymwybyddiaeth ac ymddiriedaeth, felly mae gostyngiad mewn lefelau gwybodaeth yn golygu bod ymddiriedaeth hefyd yn lleihau.  Wrth i ni draws-ddadansoddi data ynghylch faint mae pobl yn ei wybod am sefydliad gyda faint maent yn ymddiried ynddo, gallwn weld bod:

- Dros hanner y rheiny sy’n gwybod llawer am y cwmni yn ymddiried yn fawr ynddo

- O’i gymharu â llond llaw yn unig o’r rheiny sydd wedi clywed enw’r cwmni yn unig yn ymddiried ynddo.

Felly mae cyswllt cryf rhwng ymwybyddiaeth ac ymddiriedaeth. Pan fydd popeth yn gyfartal, mae hyn yn awgrymu, y mwyaf gweladwy yw brand/sefydliad, a'r mwyaf y gallwch hysbysu ac addysgu pobl am yr hyn yr ydych yn ei wneud a’r hyn yr ydych yn sefyll drosto, y mwyaf buddiol ydyw o ran ymddiriedaeth.

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.