careers
Uwch Swyddog Gweithredol Ymchwil / Rheolwr Ymchwil (swydd hyd at 12 mis dros gyfnod Mamolaeth) – Gweithio hybrid / Caerdydd
Math o swydd:
Cyfnod Penodol
Lleoliad:
Hybrid / Caerdydd
Cyflog:
£35,000-£42,000 pro rata y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad)
Dyddiad cau:
9/2/26
Gwneud cais nawr

Beth yw'r swydd?

Swydd dros gyfnod mamolaeth yw hon, hyd at 12 mis, gan ddod i ben yn Chwefror 2027 - gyda’r potensial o ddod yn swydd barhaol yn ddibynnol ar anghenion busnes a pherfformiad.

Fel Uwch Swyddog Gweithredol Ymchwil / Rheolwr Ymchwil, byddwch wrth wraidd ein gwaith gyda chleientiaid. Byddwch yn cymryd yr awenau ar amrywiaeth o brosiectau ansoddol a meintiol, gan eu harwain o’r briff cychwynnol hyd at y cyflawniad terfynol. Un diwrnod efallai y byddwch chi'n dylunio arolwg ar-lein neu'n llunio canllaw trafodaeth, a'r diwrnod nesaf gallech chi fod yn cymedroli grwpiau ffocws, yn cyfweld â rhanddeiliaid cleientiaid neu'n drafftio canfyddiadau ar gyfer cleientiaid.

Gan ein bod yn dîm bach, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan ym mhob agwedd o’r ymchwil, yn aml yn gweithio’n agos â Chyfarwyddwyr ond hefyd yn annibynnol. Ochr yn ochr â rheoli prosiectau o ddydd i ddydd, byddwch yn drafftio cynigion, yn cefnogi datblygiad busnes, ac yn cynorthwyo lle bynnag y gall eich sgiliau wneud gwahaniaeth.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phum mlynedd neu ragor o brofiad yn gweithio ar draws methodolegau ansoddol a meintiol, sydd yn mwynhau cydbwyso nifer o brosiectau a chymryd perchnogaeth wirioneddol o’u gwaith. Byddwch yn meddu ar sgiliau dadansoddi a dehongli data meintiol ac ansoddol a’i grynhoi’n fewnwelediadau clir sy’n helpu cleientiaid wneud penderfyniadau hyderus a gwybodus. Os ydych yn chwilfrydig, yn cydweithredu’n dda ac yn naturiol ragweithiol, mi fyddwch yn addas iawn. Mae sgiliau Cymraeg yn fanteisiol, ond nid ydynt yn hanfodol.

Ein horiau gweithio safonol yw dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm, ond rydym yn aml yn gweithio’n hyblyg, p’un a yw hynny’n cymedroli grwpiau ffocws gyda’r nos neu gwrdd â chleient sydd ag amserlen dynn.

Fel rhan o’r swydd, byddwch yn:

  • Drafftio / cyfrannu at gynigion cymhellol ar gyfer astudiaethau ansoddol a meintiol
  • Dylunio / helpu i ddylunio prosiectau ymchwil o'r cychwyn cyntaf, o lunio holiaduron a chanllawiau pwnc i lunio cynlluniau samplu a datblygu deunyddiau ysgogi
  • Arwain ar redeg prosiectau o ddydd‑i‑ddydd, weithiau ochr yn ochr â Chyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cyswllt, a chymryd perchnogaeth lawn o brosiectau dethol o'r cychwyn cyntaf hyd at eu cwblhau
  • Chwarae rhan weithredol yn nhwf Beaufort, gan gyfrannu syniadau ar gyfer datblygiad busnes a chefnogi ein hymdrechion marchnata
  • Datblygu a meithrin perthnasoedd cadarn â chleientiaid, gan weithredu fel pwynt cyswllt drwy gydol y broses ymchwil
  • Cydweithio’n agos â chyd-weithwyr gweithredol i sicrhau fod prosiectau’n rhedeg yn llyfn, yn effeithlon ac yn unol â’r amserlen
  • Ymgymryd â gwaith maes ansoddol (ar-lein yn bennaf ac wyneb yn wyneb yn achlysurol), cymedroli grwpiau ffocws a gweithdai, cynnal cyfweliadau manwl gydag aelodau o’r cyhoedd, busnesau a rhanddeiliaid sy’n gleientiaid.
  • Dadansoddi a dehongli prif ddata ansoddol a meintiol i ddod o hyd i fewnwelediadau o bwys
  • Dylunio a chyflwyno cyflwyniadau/adroddiadau deniadol i gleientiaid, gan drosi canfyddiadau yn naratifau clir a gweithredadwy
  • Gweithio’n effeithiol gyda chyflenwyr allanol a chontractwyr, gan sicrhau ansawdd ac y cyflawnir y prosiect yn llyfn
  • Monitro costau’r prosiect i gadw cyllidebau ar y llwybr cywir.

Beth sydd ei angen arnaf?

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:

  • 5+ mlynedd o brofiad o ymchwil i’r farchnad ansoddol a meintiol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Sgiliau TG rhagorol (gan gynnwys dylunio cyflwyniadau)
  • Y gallu i roi sylw rhagorol i fanylion
  • Agwedd hyblyg at waith
  • Sgiliau rhifedd da
  • Gallu datblygu perthnasoedd gweithio cadarnhaol gyda chydweithwyr a chleientiaid
  • Gallu gweithio’n bwyllog dan bwysau ac fel rhan o dîm
  • Hawl i weithio yn y DU.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl gan fod nifer o’n prosiectau’n cael eu cynnal yn ddwyieithog.

Manteision

  • 26 diwrnod o wyliau (gan gynnwys diwrnod eich pen-blwydd) ynghyd â Gwyliau’r Banc a gwyliau ychwanegol dros y Nadolig
  • Parcio am ddim yng nghanol Caerdydd os bydd angen
  • Pensiwn cwmni
  • Aelodaeth campfa
  • Gweithio hybrid; gellir ystyried gweithio’n gyfan gwbl o bell
  • Ffôn symudol cwmni
  • Tâl salwch
  • Gwisg hamddenol

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn annog amrywiaeth ac wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol i bob gweithiwr. Rydym hefyd yn cefnogi cyfranogiad ag elusennau a grwpiau cymunedol.

Y camau nesaf

Anfonwch eich CV, disgwyliadau cyflog, a nodyn eglurhaol yn dweud wrthym pam y byddech chi'n addas i’r rôl hon i recruitment@beaufortresearch.co.uk erbyn 9 Chwefror 2026. Byddwn yn cysylltu â chi ar ôl y dyddiad cau i roi gwybod i chi am y canlyniad.

Cyn dechrau gweithio i Beaufort Research, bydd gofyn i chi gwblhau ein proses sgrinio cyn cyflogaeth yn llawn, sy’n cynnwys gwiriadau cofnodion troseddol sylfaenol.

BETH MAE POBL YN DDWEUD AMDANOM NI

“Mae arweiniad a doethineb eich tîm wedi bod mor braf, gan helpu i ddatrys problemau ac amlygu cyfleoedd i ni ar sawl achlysur. Bu'n bleser ac rydych wedi gwneud i'r cyfan edrych mor rhwydd (er rwy'n gwybod nad yw hynny'n wir bob tro).”

Paul Tapley - Pennaeth Marchnata
Trafnidiaeth Cymru

“Cawsom gymorth gan Beaufort i roi cynnig ar syniadau creadigol cymhleth gyda grwpiau oed gwahanol. Gwnaethant reoli'r trafodaethau o fewn y grwpiau'n glir, gydag amynedd a'n helpu ni i ddeall ymateb ein cynulleidfa, ac oherwydd hynny, datblygu gwaith creadigol effeithiol.”

Jemma Gabb - Pennaeth Earned Media
Golley Slater

“Roedd Beaufort Research yn bartner allweddol ar un o brosiectau mwyaf Chwaraeon Cymru - sef yr Arolwg Chwaraeon Ysgol. Yn ystod ein 18 mis o weithio'n agos gyda thim Beaufort, cawsom ein hysbrydoli gan eu creadigwydd a'u gallu i ddatrys problemau. Roedd eu dull tuag at gyfathrebu a chydweithredu'n adfywiol, ac roedd eu sylw at fanylion yn wych. Roedd hi wir yn bleser cael cydweithio gyda nhw ar brosiect mor allweddol, mi lwyddodd ein gwaith, i raddfa helaeth ar sail eu profiad a'u harbenigedd.”

Steffan Berrow - Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr
Chwaraeon Cymru

“Cwmni dibynadwy, gwybodus a chefnogol fydd yn eich arwain chi i ganfod data ymchwil craff a dylanwadol.”

Caroline Nichols - Ymarferydd Hyrwyddo lechyd
Tim lechyd Cyhoeddus Hywel Dda

“Helpodd Beaufort i wneud y broses profi yn llawer fy syml ac yn ddi-straen. Roedd y cyswllt rheolaidd ac ansawdd y cyngor o'r radd flaenaf, ac mae'r adborth y bu i ni ei derbyn yn yr adroddiad terfynol wedi helpu i siapio ein hymgyrch â'r deunyddiau marchnata. Roedd yn fewnwelediad gwerthfawr tu hwnt.”

Nicola Roberts - Cyfarwyddwr
Freshwater

“Fe weithiodd y prosiect "Panel Pobl" yn dda iawn i S4C, gan i staff Beaufort Research weithio'n galed i'w gael i lwyddo. Fe Iwyddodd y cwmni i gadw diddordeb y panelwyr dros gyfnod hir, sydd yn dasg anodd, ac roedd yr holl wybodaeth o ddefnydd mawr i ni. Rydym yn hapus iawn gyda'r gwaith.”

Carys Evans - Pennaeth Dadansoddi
S4C

“Mae agwed Beaufort at y gwaith hwn wedi gwneud argraff dda arnaf. Maent wedi buddsoddi amser gwerthfawr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'n busnes. Maent hefyd wedi dangos hyblygrwydd a phragmatiaeth wrth addasu eu hagwedd at waith maes yng ngoleunir pandemig. Yn allweddol, ni wnaeth hyn effeithio ar ansawdd ac mae'r canlyniadau cyfoethog yn eu hadroddiad terfynol wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau.”

Arthur West - Pennaeth Deall Cwsmeriaid
Y Swyddfa Eiddo Deallusol

“Darparodd Beaufort wasanaeth gwych drwy gydol y prosiect. Bu iddynt weithio ag ystod eang o randdeiliaid ar lefel uwch a thrin ein gwaith gyda sensitifrwydd, gallu a phroffesiynoldeb. Roedd yr allbynnau o safon gwych. Darparwyd diweddariadau drwy'r prosiect. Byddwn yn argymell eu defnyddio yn fawr.”

Olivia Thomas - Uwch Reolwr Polisi Morol
The Crown Estate

“Roedd gan y cyfwelwyr ddiddordeb yn y pwnc roeddynt yn ei ymchwilio ar ein rhan. Roeddynt yn ymrwymo i ddeall natur sensitif hosbisau plant cyn cysylltu â theuluoedd, a oedd yn sicrhau bod eu dull nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd yn dosturiol a charedig.”

Clare Robinson - Rheolwr Llywodraethu a Chytundebau
Naomi House & Jacksplace

“Rydym yn falch iawn gyda’r adroddiad; mae’n broffesiynol iawn, yn taro cydbwysedd da fel cyfrif cynhwysfawr o’r data ystadegol ac yn ddarllenadwy ar yr un pryd.”

June Jones - Arweinydd  Ymgyrch
Amser i Newid Cymru

"Diolch yn fawr iawn am eich cyflwyniad ardderchog. Mae cynnwys eich sleidiau a’r gwaith yr ydych wedi’i wneud wedi ennyn cryn ddiddordeb ar draws y system, gyda nifer o geisiadau am yr adroddiadau llawn a’r canfyddiadau. Diolch unwaith eto am eich cyfraniad amhrisiadwy i’n gwaith ym maes dibyniaeth ar nicotin yng Nghymru. Gobeithiwn gael y cyfle i gydweithio â chi eto yn y dyfodol."

Rachel Howell – Prif  Ymchwilydd Iechyd Gwahardd
Iechyd Gwladol Cymru

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.