27.06.2025

Dyfodol y Gymraeg: Pôl Beaufort yn cael ei chynnwys yn Newyddion a Phodlediad S4C

Roeddem yn falch iawn o gymryd rhan mewn podlediad fideo argyfer S4C i drafod canlyniadau ein pôl barn diweddaraf.

Cynhalwyd yr arolwg byr ymysg sampl cenedlaethol gynrychioliadolo 1,000 o bobl yng Nghymru a holwyd beth oedd eu barn ar ystod o agweddau am yriaith Gymraeg.

Canfu'r arolwg fod poblogaeth Cymru yn cefnogi plant yndysgu Cymraeg yn yr ysgol i raddau helaeth (roedd 78% yn cytuno) ac mae tuahanner (49%) yn credu y dylai plant yng Nghymru fod yn rhugl yn y Gymraeg erbyniddynt adael yr ysgol.

Yn ogystal, canfu'r arolwg fod bron i ddwy ran o dair ynanghytuno bod siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn bennaf fel rhywbeth y maepobl dosbarth canol yn ei wneud. Hefyd, mae bron i dri chwarter (73%) yncefnogi nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwnerbyn 2050 ac mae bron i chwech o bob deg (58%) o'r sampl yn credu ei bod yndebygol y bydd y Gymraeg yn dal i gael ei siarad a'i defnyddio o ddydd i ddyddmewn 100 mlynedd.  

Cynhaliwyd yr arolwg trwy banel ar-lein a chynhaliwyd ygwaith maes rhwng 6 ac 11 Mehefin.

Cliciwchyma i weld y podlediad fideo ar sianel YouTube S4C.

Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl newyddion ar Newyddion S4C.

Gadewch i ni siarad

Oes gennych chi her ymchwil neu angen mewnwelediad i lunio'ch strategaeth? Gadewch i ni siarad! Yn Beaufort Research, rydym yn ffynnu ar droi eich cwestiynau yn atebion ystyrlon sy'n ysgogi gweithredu.

Gadewch i ni siarad
Trwy glicio “Derbyn”, rydych yn cytuno i storio cwcis ar eich dyfais i wella llywio'r safle, dadansoddi defnydd o'r safle, a chynorthwyo ein hymdrechion marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.